English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Wrth i'r sector Twristiaeth ddechrau ailagor, rydym yn croesawu ymwelwyr hen a newydd. P'un ai y byddwch yn dewis crwydro'r mynyddoedd neu'r arfordir, mae digonedd o ddewis! Dyma'r Gwir. Dyma Sir Gâr.

Sir Gâr yw'r lle i fod yr haf hwn. P'un a ydych yn rhywun sy'n chwilio am gyffro a'ch her nesaf, yn rhamantwyr sy'n chwilio am rywle bach tawel a chysurus neu'n deulu o archwilwyr sy'n chwilota am fwyngloddiau aur a llongddrylliadau - Darganfyddwch Sir Gâr trwy brofiadau ac anturiaethau awyr agored unigryw.

Dechreuwch gynllunio eich ymweliad nawr…

Awyr Dywyll

Mae awyr Sir Gâr ymysg y rhai tywyllaf yn y DU ar gyfer seryddwyr a phobl sy'n gwylio'r sêr Mae ein cuddfannau awyr dywyll yn dod yn fyw gyda'r sêr.  Dyma rai o'r llefydd gorau i weld awyr ysblennydd y nos.

Llwybrau cerdded di-ri

Wrth ddarganfod Sir Gâr ar droed, yn ogystal â gweld y sir ar ei gore', cewch hefyd gyfle i ddod i adnabod a gwerthfawrogi ardderchowgrwydd y sir. Gallwch fynd i gyfeiriad y de er mwyn rhoi cynnig ar ambell un o'r teithiau cerdded arfordirol gorau yng Nghymru neu fynd i gyfeiriad y gogledd os oes well gennych grwydro cefn gwlad.

Mannau Picnic

Beth am ddewis eich hoff fan picnic?  Yma, ceir rhai o'n lleoliadau gorau yng nghefn gwlad ar gyfer cael picnic, boed hynny ar ben mynydd neu wrth aber afon.

Gerddi

Mae gan Sir Gaerfyrddin amrywiaeth o erddi hardd a mannau gwyrdd i'w profi a'u mwynhau a ledled y sir gallwch ddarganfod nifer o barciau gwledig sydd â digonedd o le i ddod o hyd i'ch llecyn bach tawel eich hun.

Beicio Di-draffig

Mae gan Sir Gaerfyrddin lwybrau di-draffig gwych. Dilynwch lwybr Rheilffordd hanesyddol Llanelli a'r Mynydd Mawr drwy gefn gwlad godidog Cwm Gwendraeth.  Neu beth am roi cynnig ar y llwybr di-draffig hardd sy'n rhedeg ar hyd glannau afon Aman? O'r llwybr, ceir golygfeydd gwych o'r Mynydd Du a Mynydd y Betws.

Treftadaeth

Yn Sir Gaerfyrddin, ceir nifer o gestyll. Mae gan bob un ei stori ei hun i'w hadrodd a phob un wedi'i adeiladu ar dirweddau neu forluniau dramatig. Os nad oes diddordeb gennych mewn cestyll, beth am ymweld â thŷ hanesyddol neu blasty? Yma, yn aml, mae'r straeon am orffennol diwydiannol Sir Gaerfyrddin ac mae'r gwrthdaro yn llai treisgar ond yr un mor ddiddorol.

Celfyddydau a Chrefft

Pam fod cynifer o artistiaid, cerflunwyr, crochenwyr, crewyr a gwneuthurwyr wedi dewis byw yn Sir Gaerfyrddin? Mewn lle sydd mor hardd a dramatig, mae'n anodd peidio bod yn greadigol.  Gallwch ddod o hyd i gyrsiau neu weithdai ar gyfer pob math o gelf a chrefft.

Trysorau Cudd

Os ydych chi'n mwynhau casglu hen bethau, dewch i Sir Gaerfyrddin i ddarganfod pob math o ryfeddodau. Dilynwch ein Llwybr Hen Bethau a Nwyddau Ail Law er mwyn darganfod llefydd nad oeddech chi'n gwybod eu bod yn bodoli o'r blaen gyda'r gobaith y byddwch chi'n dod o hyd i drysorau di-ri cyn diwedd y daith. 

Croesawu Cŵn

Petai gwefan TripAdvisor ar gael i gŵn, rydym ni'n siŵr y byddai Sir Gaerfyrddin yn cael 5 seren ganddyn nhw. Yma, gellir mynd â'ch ci ar sawl wâc wahanol. Mae nifer o dafarndai, caffis, gwestai ac atyniadau yn Sir Gaerfyrddin yn rhoi croeso twymgalon i gŵn.

Atyniadau Cudd

Atyniadau Cudd