Anturiaethau Golau lleuad
Dewch i arbrofi Anturiaethau Golau Lleuad Sir Gaerfyrddin a chael eich syfrdanu yn y tywyllwch.
Mewn storïau a straeon tylwyth teg, mae'r anturiaethau mwyaf cyffrous yn digwydd yng ngolau'r lleuad. Dewch yn y nos i ddarganfod ochr wahanol i Sir Gaerfyrddin!
Wybren y nos yw un o bleserau mwyaf y gaeaf. Wrth iddi nosi'n gynt ac wrth i'r awyr fynd yn dywyll am hirach, mae'r lleoedd awyr dywyll yn Sir Gaerfyrddin yn dod yn fyw. Dyma rai o'r lleoedd gorau i weld y sêr.
- Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru - Safle Darganfod Awyr Dywyll (dosbarth Llwybr Llaethog yn cynnal digwyddiadau)
- Llanllwni - Mynydd Llanllwni, golygfeydd godidog yn ystod y dydd a'r nos (SN 507389)
- Llyn Brianne / Maes Parcio ym Mhen Uchaf Dyffryn Tywi ger argae Llyn Brianne (SN 793484)
A wyddech chi?
Mae Mynyddoedd Cambria wedi lansio Canllaw Awyr Dywyll newydd i helpu ymwelwyr i gael cipolwg ar Orïon, yr Aradr a Seren y Gogledd yn ogystal â llwybr gyrru seryddol 50 milltir. Mae'r llwybr hwn yn ymuno safleoedd newydd yn Sir Gaerfyrddin â safleoedd newydd yng Ngheredigion a Phowys gerllaw.
Cafodd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ei ddynodi'n Warchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol yn 2013, dim ond y pumed lle yn y byd i ddal y teitl mawreddog. Mae'r diffyg llygredd golau yma yn golygu bod golygfeydd disglair o'r Llwybr Llaethog.
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru oedd yr ardd fotaneg gyntaf ym Mhrydain i gael ei choroni'n Safle Darganfod Awyr Dywyll, ac mae'n siŵr y byddwch yn meddwl bod hynny'n beth da i'r planhigion, ond dim o reidrwydd ichi fel ymwelwyr yn ystod y dydd ... ond meddyliwch eto! Mae'r ardd yn cynnal Parti'r Sêr, arbennig, sy'n cynnwys arbenigwyr ym maes seryddiaeth, telesgopau pwerus a sgyrsiau diddorol iawn. Bydd y Parti nesaf yn cynnwys craffu ar graterau'r lleuad a darganfod Iau, y Nifwl Orïon a rhagor o hynodion cosmig.



Dewch o hyd i wersyllfa yng nghefn gwlad, yn bell o oleuadau disglair y ddinas, a mwynhau rhyfeddod y tywyllwch. https://www.darkskiescamping.wales/

Ar noson glir, sbïwch yn yr awyr yn ddigon hir ac fe welwch chi sêr gwib, a hyd yn oed seren gynffon.

Rhowch eich cot amdanoch, cydiwch yn eich camera a phrofwch fyd cyffrous ffotograffiaeth yn ystod y nos. Cofiwch ein tagio ni ar Facebook ac Instagram #Dymasirgâr

Mwynhewch yr olygfa ar daith syllu ar y sêr yn ystod y nos yn y Bannau gyda Hawk Adventures; dewch o hyd i'r llefydd gorau i weld y gwahanol gytserau ac, os ydych chi'n ffodus, cewch gip-olwg clir ar gawod o sêr gwib.

Dewch ar Daith Gerdded Ystlumod ym Mharc Dinefwr i ddarganfod hynt a helynt byd natur y nos. Mae'r teithiau hyn, sy'n cael eu harwain gan geidwaid, yn defnyddio offer arbennig i wrando ar ystlumod, a hynny er mwyn ichi gael y profiad gorau posibl o greaduriaid diddorol y nos.

Yn ogystal â theithiau syllu ar y sêr, mae Hawk Adventures hefyd yn cynnal teithiau cerdded yn y goedwig i'r rheiny ohonoch sydd wir yn ddewr. Byddwch yn fwy effro o lawer wrth i chi fentro i Fforest Brechfa ar ôl iddi nosi, a dilyn llwybrau sydd fel y fagddu ar adegau.