Ychwanegu eich Llety
Helpwch ni i hyrwyddo eich busnes. Bydd angen dolen i'ch gwefan a llun. Peidiwch â phoeni os nad oes gennych wefan, anfonwch ddolen i'ch tudalen Facebook, cyfrif Twitter neu e-bost a gallwn ychwanegu hwnnw yn lle hynny.
Byddwn ni hefyd yn gofyn ychydig o gwestiynau ychwanegol ichi am eich busnes er mwyn ein helpu ni i ddeall gwerth economaidd twristiaeth yn y Sir. Mae'r wybodaeth hon yn cyfrannu at adroddiad Monitro Gweithgaredd Twristiaeth Economaidd Scarborough (STEAM). Ni fydd eich busnes yn cael ei enwi. Bydd y ffigurau a roddir yn cael eu defnyddio fel cyfanswm o'r holl fusnesau twristiaeth yn Sir Gaerfyrddin.
Byddem yn argymell eich bod yn ticio'r bocs er mwyn cael ein e-lythyr newyddion. Mae'n llawn cyngor defnyddiol a'r newyddion diweddaraf ynghylch beth sy'n mynd ymlaen yn y Sir.
Nid ydym yn rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw 3ydd parti.