English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Croeso Cynnes yn Oerfel y Gaeaf

Nid ar gyfer yr haf yn unig y mae gwyliau. Mae'r gaeaf yn amser gwych i dreulio nosweithiau i ffwrdd gyda ffrindiau a theulu. Gan fod Sir Gaerfyrddin mor agos, ar ddiwedd yr M4, does dim angen teithio'n bell er mwyn codi'ch calon y gaeaf hwn. Mae mor agos fel y gall eich cŵn ddod hefyd.

Byddant yn mwynhau'r amrywiaeth o deithiau cerdded yn y gaeaf gymaint ag y byddwch chi.

Yn y gaeaf, mae lleoedd i aros yn tueddu i gostio llai, ond gall y gwobrau fod yn fwy. Gallwch gadw'n glyd mewn bwthyn gwledig moethus neu westy crand. Efallai ei fod yn oer y tu allan ond y tu mewn mae'r croeso yn Sir Gaerfyrddin bob amser yn gynnes. Mae'n hawdd cymysgu â phobl leol, yn enwedig ar ôl diod neu ddwy! Yn wir mae lleol yn air y byddwch yn ei weld ar y rhan fwyaf o fwydlenni. Daw bwyd y gaeaf o ffermydd Sir Gaerfyrddin neu'r moroedd oddi ar arfordir gorllewin Cymru. Yn aml bydd cwrw casgen yn cael ei fragu ychydig filltiroedd o'ch bar neu'ch gwesty.

Ac ar ôl mynd am wâc fach gyflym i gynhesu, pa ffordd well i ddod â'r diwrnod i ben nag ymgasglu o flaen tân coed cartrefol a mwynhau basnaid o gawl. Rydym ni hyd yn oed wedi creu llwybr 'O Gawl i Gawl' sy'n nodi rhai o'r llefydd gorau yn y sir i fwynhau'r pryd traddodiadol Cymreig.

Mae ein trefi marchnad yn denu ymwelwyr sy'n chwilio am siopau annibynnol fel y dylent fod. Mae diwylliant coffi yn gryf mewn llefydd fel Caerfyrddin a Llandeilo. Felly, ar ôl i chi ddod o hyd i'r anrheg berffaith, gallwch fwynhau'r baned berffaith. Ac mae'n debygol y bydd wedi'i rostio'n lleol hefyd. Rhowch gynnig ar frandiau Cymreig fel Coaltown neu Coffi Teifi.

Does dim rhaid ichi deithio'n bell i fwynhau cynhesrwydd dros y gaeaf. Mae'n hawdd cyrraedd Sir Gaerfyrddin ac mae'n hawdd ymlacio ar ôl cyrraedd yma. Mae croeso cynnes i'w gael yn Sir Gaerfyrddin ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Ond, yn y gaeaf, mae'n gynhesach nag erioed. Efallai bod hynny'n rhannol oherwydd y tân coed cartrefol hwnnw yn y bwthyn neu'r dafarn leol.

Dyma Sir Gâr yn y Gaeaf. Dyma'r Gwir.