Ewch i gael eich antur eich hun yn ardal arfordirol Sir Gaerfyrddin, gan ddewis o brofiadau gwefreiddiol, teithiau cerdded â golygfeydd godidog ar hyd yr arfordir, a hwyl traddodiadol ar lan y môr! Mae Sir Gaerfyrddin yn gyfuniad o arfordir anhygoel, dyffrynnoedd eang, bryniau a llynnoedd, ac mae'n cynnig yr holl gyfleusterau sydd arnoch eu hangen ar hyd y ffordd.
Gwelodd traethau Sir Gaerfyrddin eu siâr o weithgarwch anturus dros y blynyddoedd – gan gynnwys sawl record byd am gyflymder ar dir ar draeth Pentywyn , a’r tro y glaniodd Amelia Earhart ym Mhorth Tywyn, y fenyw gyntaf i hedfan ar ei phen ei hun ar draws yr Iwerydd.
Wrth ddod o’r gorllewin tua’r dwyrain, y darn eang cyntaf o arfordir yn Sir Gaerfyrddin yw traeth a thwyni tywod Pentywyn, lle gwelwyd torri sawl record byd wrth i geir fynd ar gyflymder ar hyd y traeth. A chymrwch hoe yn yr Amgueddfa Cyflymder i ddysgu mwy. Ymlaen â chi tua’r dwyrain i 'gipio' tri chastell strategol – Talacharn, Llansteffan a Chydweli – wedi’u lleoli o amgylch aber afon Taf. Mae’r aber a’r llwybr yn mynd drwy dref Talacharn, cartref y bardd adnabyddus, Dylan Thomas.
Dros y 20 mlynedd diwethaf cafodd aber Llwchwr, sydd yn bellach i’r dwyrain, ei drawsnewid i fod yn Barc Arfordirol y Mileniwm, gyda llwybrau sy’n addas i feiciau, bygis a chadeiriau olwyn yn dilyn y traethau euraidd. .
Llwybr Afordir Cymru
Mae Llwybr Arfordir Cymru yn amgylchynu arfordir y wlad gyfan, a rhan Sir Gâr - er mai ni ein hunain sy'n dweud hynny - yw un o'r rhai mwyaf amrywiol a deniadol
Traethau, Cildraethau a'r Arfordir
Y tonnau ewynnog yn chwalu i'r lan. Arogl hallt yr awel. Sŵn rhythmig y llanw. Y tywod rhwng bodiau eich traed. Er bod pobl yn anghytuno am nifer o bethau y dyddiau hyn, mae'n siŵr fod un peth y gallwn fod yn gytûn yn ei gylch, sef bod mynd i'r traeth yn gwneud inni deimlo'n dda.