English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Teithiau cerdded cylchol arfordirol

Cerdded Arfordir â gwahaniaeth... Mwynhewch ddewis o deithiau cerdded arfordirol cylchol yn Sir Gâr. Troediwch lle cerddodd brenhinoedd dan furiau cestyll ac ewch am dro ar hyd traethau euraidd â golygfeydd godidog.

Mae rhan Sir Gâr o'r arfordir ymysg y mwyaf amrywiol a phrydferth yn y wlad. Mae'r teithiau cerdded yn cynnwys golygfeydd hyfryd o fforestydd pinwydd, tir comin arfordirol, morfeydd heli a thwyni tywod.

Awel iachus y môr, sŵn y tonnau'n taro'r creigiau, ac arogl halen yn yr awyr - dim ond rhai o'r rhesymau dros fynd am daith gerdded wrth y môr. Mae gan y dewis hwn o deithiau cerdded arfordirol cylchol draethau euraidd, golygfeydd o ben clogwyni, digonedd o fywyd gwyllt, a straeon hanesyddol diddorol rownd pob cornel, beth bynnag fo'r tymor.

Mae'r teithiau i gyd yn cynnig cipolwg amrywiol ar harddwch arfordirol Sir Gâr. Caiff eich ymdrechion eu gwobrwyo gan olygfeydd anhygoel, bywyd gwyllt, a digon o lefydd i ymlacio.

Llansteffan

Taith gerdded arfordirol arbennig yw hon sy'n mynd heibio'r Castell Normanaidd mawreddog ac yn cynnig golygfeydd godidog dros Fae Caerfyrddin.

Talacharn

Ar y naill daith gylchol neu'r llall gallwch fwynhau golygfeydd o'r aber, ynghyd â pheth treftadaeth a diwylliant.

Parc Dŵr y Sandy

Rhan hyfryd o Barc Arfordirol y Mileniwm, sydd wedi ennill gwobrwyon ac sy'n cynnig golygfeydd eang o Benrhyn Gŵyr. Mae'r llwybr hwn yn ddi-draffig ac yn ddelfrydol ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn.

Glanyfferi

Taith gerdded wledig hyfryd â golygfeydd ysblennydd ar hyd yr arfordir i Benrhyn Gŵyr a Sir Benfro.

Cydweli

Ewch am dro wrth ochr y gamlas ac ar hyd y morglawdd, sy'n drysor cudd ac yn hafan i wylwyr adar.

Llangennech

Dilynwch lwybr Afon Morlais o Goedwig Troserch drwy Langennech i'r arfordir, lle mae'r daith gerdded yn cysylltu â Pharc Arfordirol y Mileniwm.

Rhagor o ysbrydoliaeth i gerdded

Llwybr Arfordir Cymru