English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Bwyd a Diod

Mae gan Sir Gaerfyrddin ddewis arbennig o fwytai annibynnol hyfryd sy'n cynnig rhywbeth at ddant pawb. Os yw'r chwant yn codi am bryd o fwyd, coffi a chacen, neu gludfwyd, 100% Sir Gâr yw eich canllaw i'r gorau sydd gan Sir Gaerfyrddin i'w gynnig.

Mae 100% Sir Gâr hefyd yn cynnig ystod eang o gynnyrch lleol artisan i greu’r brecwast Cymreig neu bicnic perffaith i’w  fwynhau ar un o’n traethau hyfryd. 

Mae gan bob busnes a restrir sgôr hylendid o 4 neu uwch neu maent yn aros am sgôr hylendid.

Os ydych yn fusnes yn Sir Gaerfyrddin a hoffech ychwanegu eich manylion ar 100% Sir Gâr.

Cofrestrwch eich busnes yma

 

Hidlo yn ôl:

Fortunes Valley Ltd

Bwyty a chludfwyd Tsieineaidd Fortune House

Ble i ddod o hyd i ni

2 Priory Street, Carmarthen, Wales, SA31 1LS

Torbay Inn

Cysylltwch â ni

Myrddin Heritage

Mae Myrddin Heritage a'u ffrindiau'n cynhyrchu cynnyrch Cymreig ffres ac organig ac yn eu dosbarthu i'ch drws.

Ble i ddod o hyd i ni

Glen Cottage, Rhos,Llandysul,SA44 5EQ

Coles Distillery

Rydym yn gwerthu amrywiaeth o ddiodydd alcohol fel cwrw, seidr, gwin, rým, fodca, jin a wisgi

Ble i ddod o hyd i ni

Coles Distillery Llanddarog Caerfyrddin SA32 8NT

Smallholding Secrets

Tyddyn teuluol yn cynnig te prynhawn gwych gydag alpacaod hardd. Rydym yn cynhyrchu porc Prydeinig o foch prin ac amrywiaeth o nwyddau wedi'u gwneud o wlân alpacaod, ynghyd â chyrsiau gwehyddu gwŷdd pegiau.

Ble i ddod o hyd i ni

Pant, Mynyddygarreg, Kidwelly, Carmarthenshire. SA17 4RP

Pen Y Waun Farm Shop

Rydym yn cynhyrchu ein porc, cig moch a selsig Tamworth ein hunain, cig eidion Dexter a chig oen Cymru, a jam a marmaled ein hunain.

Ble i ddod o hyd i ni

Pen Y Waun Farm Ebenezer Road Llanedi SWANSEA SA4 0FE

Diod

Siop goffi a gwin gyda naws hamddenol Cymreig a Sgandinafaidd. Yn gweini coffi, cacennau a byrbrydau ysgafn o'r ansawdd gorau. Mae gan Diod hefyd ddewis gwych o win a chwrw, sydd ar gael i'w yfed yn y siop neu i chi fynd â photel gyda chi, ynghyd ag anrhegion eraill a chynnyrch lleol.

Cysylltwch â ni

Ble i ddod o hyd i ni

135 Rhosmaen Street, Llandeilo SA19 6EN

Vive La Crêpe

Crêperie bychan yn yr arcêd Fictoraidd hardd yng nghanol tref Rhydaman. Rydym yn gweini crepes melys a sawrus, wafflau, hufen iâ, ysgytlaeth, coffi, cacennau a llawer o ddanteithion eraill. Rydym yn croesawu cŵn ac mae gennym ardd brydferth mewn clos y tu allan.

Cysylltwch â ni

Ble i ddod o hyd i ni

10 - 12 The Arcade College Street Ammanford SA18 2LN

Dangos 8 allan o 116