English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Hysbysiadau Preifatrwydd

 


Marchnata a'r cyfryngau

Mae sicrhau bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir yn bwysig iawn o ran darparu ein gwasanaethau a chadw hyder y cyhoedd.

Ystyr data personol yw unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y mae modd adnabod pwy ydyw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol drwy ddefnyddio'r wybodaeth. Defnyddir y termau 'gwybodaeth' a 'data personol' yn yr hysbysiad preifatrwydd hwn drwyddo draw ac maent yn gyfystyr.

Er mwyn sicrhau bod y Cyngor yn trin gwybodaeth bersonol yn gywir, rydym yn ceisio cydymffurfio'n llwyr â gofynion deddfwriaeth Diogelu Data.

Felly, mae'r hysbysiad preifatrwydd hwn wedi'i lunio i esbonio mor glir â phosibl beth rydym yn ei wneud â'ch data personol.

 

1. Y dibenion o ran defnyddio eich data personol

Mae'r Tîm Marchnata a'r Cyfryngau yn defnyddio data personol am ystod eang o ddibenion, sydd o bosibl heb fod yn gwbl amlwg o'n henw:

Eich helpu chi i gael mynediad i wasanaethau'r Cyngor

Rydym yn defnyddio data personol pan fyddwch yn gwneud ymholiadau ac yn gofyn i ni am help i gael mynediad i wasanaethau eraill y Cyngor. Rydym yn darparu'r gwasanaeth hwn mewn sawl ffordd:

 

Eich helpu chi i ddod o hyd i wasanaethau a chymorth er mwyn datblygu sgiliau a dod o hyd i gyfleoedd swyddi drwy'r Hwb

Helpu i hyrwyddo eich gwasanaethau a'ch cyfleusterau i dwristiaid sy'n ymweld â Sir Gaerfyrddin

Ffilmio a thynnu ffotograffau er mwyn hyrwyddo Sir Gaerfyrddin a Gwasanaethau’r Cyngor.

 

Y sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth yw er mwyn ymarfer ein his-bwerau o dan Adran 111 o'r Ddeddf Llywodraeth Leol.

Pan fyddwch chi eisiau i ni wneud hyn, byddwn ni hefyd yn anfon atoch:

 

Rydym yn cyfathrebu â chi yn y ffordd hon yn seiliedig ar eich caniatâd a gallwch dynnu hynny yn ôl ar unrhyw adeg.

 

2. Pa fath o wybodaeth ydym yn ei defnyddio?

Rydym yn casglu'r mathau canlynol o ddata personol am eich gwasanaeth er mwyn helpu i hyrwyddo eich busnes i dwristiaid:


3. A ydym yn defnyddio gwybodaeth a gafwyd o ffynonellau eraill?

I ddarparu'r gwasanaeth hwn, rydym yn casglu data personol yn uniongyrchol wrthych chi yn unig ac nid ydym yn cael gwybodaeth amdanoch o unrhyw ffynhonnell arall.

 

4. Trosglwyddo eich gwybodaeth dramor

Rydym yn defnyddio Microsoft Office 365 i brosesu ein ebyst o dan delerau cytundeb caeth, sy'n diogelu'ch gwybodaeth. Mae'r data personol hwn yn cael ei letya ar weinyddion y tu allan i'r DU, ond dim ond yng ngwledydd yr UE o dan y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.

Nid ydym yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arall amdanoch chi y tu allan i'r DU oni bai am ddelweddau sydd wedi'u cynnwys mewn cyhoeddiadau a fformatau digidol.

 

5. Pwy all weld eich gwybodaeth?

Rydym yn rhannu'ch gwybodaeth â'r isod, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Darperir cyn lleied o ddata personol ag sydd ei angen a dim ond lle mae'n angenrheidiol gwneud hynny.


6. Am ba hyd y byddwn yn cadw'ch gwybodaeth

Byddwn yn cadw'ch gwybodaeth dra eich bod yn gwsmer ac am gyfnod o 2 flynedd ar ôl eich cysylltiad diwethaf â ni, yn unol â Chanllawiau'r Cyngor ar gyfer Cadw Gwybodaeth.

7. Eich hawliau o ran Diogelu Data

Mae gennych hawl i:

Weld y data personol y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei brosesu amdanoch
Mynnu bod unrhyw wybodaeth anghywir neu anghyflawn yn cael ei chywiro
Tynnu eich caniatâd i brosesu'r data yn ôl, lle mai dyna'r unig sail ar gyfer prosesu'r data
Cyflwyno cŵyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, sef y corff annibynnol yn y Deyrnas Unedig sy'n diogelu hawliau o ran gwybodaeth

Mewn rhai amgylchiadau, gall fod gennych hawl i:

Wrthwynebu bod eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu
Dileu eich data personol
Rhoi cyfyngiadau ar brosesu eich gwybodaeth bersonol
Hygludedd data

8. Manylion cyswllt

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch yr hysbysiad preifatrwydd hwn a'ch hawliau, cysylltwch â'r:

Swyddog Diogelu Data
Cyngor Sir Caerfyrddin
Neuadd y Sir
Caerfyrddin
SA31 1JP

E-bost: dataprotection@sirgar.gov.uk

Gallwch hefyd weld yr hysbysiadau preifatrwydd ar gyfer gwahanol wasanaethau'r Cyngor ar wefan Cyngor Sir Gaerfyrddin

Mae'r manylion cyswllt ar gyfer Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, ynghyd ag arweiniad pellach ynghylch deddfwriaeth Diogelu Data, ar gael ar wefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.