Cyrraedd Sir Gaerfyrddin
Hawdd Cyrraedd, anodd gadael.....
Cyrraedd a Theithio Sir Gaerfyrddin
Ffyrdd
Mae cysylltiadau ffyrdd ardderchog yn Sir Gaerfyrddin. Gallwch yrru ar hyd yr M4 o Lundain i Bont Abraham mewn llai na 4 awr a thaith fer yn unig sydd wedyn ar hyd yr A48 i Gaerfyrddin. Mae'r A40 yn croesi'r sir o Lanymddyfri i Hendy-gwyn. Mae'n hawdd cyrraedd yr M5, M6, M42 a'r M50 o Sir Gaerfyrddin. Mae'n daith hwylus o bob rhan o Brydain.
Teithio ar Goets a Bws
Mae'r systemau trafnidiaeth gyhoeddus yn ôl ac ymlaen i Sir Gaerfyrddin yn ardderchog. Mae National Express yn cynnig cysylltiadau gwych i'r holl brif drefi a dinasoedd ac wedi cyrraedd y sir, mae rhwydwaith bysiau helaeth yn gwasanaethu'r ardal gyfan. I gael gwybodaeth ynghylch teithio ar goets neu fws cysylltwch â'r Llinell Ymholiadau Cenedlaethol: 0870 608 2608
National Enquiry Line: 0870 608 2608
National Express: 08705 808080
Tocyn Crwydro Gorllewin Cymru
Amserlenni Gwasanaethau Bysiau Lleol
Teithio ar drên
Mae gwasanaeth First Great Western yn cynnig cysylltiad cyflym ac aml â Gorsaf Paddington, Llundain (3 awr) ac mae cwmni Wales and West yn darparu gwasanaethau uniongyrchol a chyfleus rhwng Abertawe a Manceinion, Birmingham, Harbwr Portsmouth a Gorsaf Waterloo, Llundain. Mae gwasanaeth rheolaidd yn ôl ac ymlaen i Abertawe sy'n galw yn Llanelli, Porth Tywyn, Cydweli, Glanyfferi, Caerfyrddin a Hendy-gwyn. Yn ogystal, mae Virgin Trains yn darparu gwasanaeth ddwywaith y dydd rhwng Gogledd-ddwyrain Lloegr ac Abertawe (sydd ond 20 munud o Sir Gaerfyrddin) gan alw yn ninas Birmingham. Mae teithio yma ar drên yn rhwydd. I gael gwybodaeth am y rheilffyrdd, cysylltwch â'r Ymholiadau Rheilffyrdd Cenedlaethol drwy ffonio 08457 484950 neu ymwelwch ag:
Firstgreatwestern.co.uk
Mae Rheilffordd Calon Cymru
Yn ymestyn am 120 o filltiroedd o Abertawe i Amwythig heibio i rai o olygfeydd mwyaf trawiadol Cymru. Mae'r lein yn mynd trwy ddwyrain y sir trwy Rydaman, Llandybïe, Llandeilo, Llangadog, Llanwrda, Llanymddyfri, Cynghordy ac ymlaen i Bowys. Rhif ffôn: 01597 822053.
01597 822053
heart-of-wales.co.uk
mytrainticket.co.uk
Gall gwefan My Train Ticket gynnig prisiau ardderchog am docynnau o Lundain neu unrhyw ran arall o Brydain, ynghyd â rheilffordd danddaearol Llundain a mwy na 275 o safleoedd bysiau. Yn aml iawn cynigir gostyngiadau da ar docynnau sy'n cael eu prynu ymlaen llaw. Rhif ffôn: 0906 203 0000.
0906 203 0000
mytrainticket.co.uk
Mewn cwch
Hwylio o Ddoc Penfro ac Abergwaun i Rosslare. I gael manylion am brisiau ac amserau hwylio cysylltwch â'r canlynol:
Irish Ferries Pembroke +44 (0) 8705 171717 irishferries.com
Stena Sealink 08705 707070, ar gyfer grwpiau o 10 teithiwr neu ragor - 08705 204402 stenaline.co.uk
Hedfan
Ychydig dros awr yn unig yw'r daith o Sir Gaerfyrddin i faes awyr rhyngwladol Caerdydd. Mae nifer cynyddol o awyrennau'n hedfan yno'n uniongyrchol o feysydd awyr Charles de Gaulle, Paris, Amsterdam, Dulyn, Belfast ynghyd â nifer o gysylltiadau Ewropeaidd eraill.
Mae modd hedfan o Abertawe i Ddulyn, Corc a Jersey ac mae cynlluniau i gynnig cyrchfannau Ewropeaidd pwysig newydd eleni. Mae'n lle addas i awyrennau bach hefyd.
Maes Awyr Pen-bre 01554 891534 pembreyairport.com
Maes Awyr Abertawe 01792 204063 swanseaairport.com
Maes Awyr Rhyngwladol Caerdydd +44 (0) 1446 711111 cardiff-airport.com