English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Parc Dŵr y Sandy a Pharc Arfordirol y Mileniwm

Rhan hyfryd o Barc Arfordirol y Mileniwm, sydd wedi ennill gwobrwyon ac sy'n cynnig golygfeydd eang o Benrhyn Gŵyr. Mae'r llwybr hwn yn ddi-draffig ac yn ddelfrydol ar gyfer bygis a chadeiriau olwyn, ac mae maes parcio gerllaw hefyd.

Agorwyd Parc Arfordirol y Mileniwm ar droad y Mileniwm gan adfywio ardal arfordirol Llanelli, a oedd tan yn ddiweddar yn dirwedd ddiwydiannol o weithfeydd dur a thunplat niferus. Nawr mae'n dir glas braf.

Mae gan y Parc Arfordirol hwn filltiroedd o lwybrau cerdded a beicio arfordirol i'w mwynhau. Gallwch ddilyn Llwybr Beicio Cenedlaethol 4 ar hyd llwybr di-draffig gwych sy'n pasio heibio aber prydferth afon Llwchwr a phenrhyn Gŵyr. Mae'r daith yn eich tywys heibio i draeth Llanelli a thraeth Tywyn i Borth Tywyn lle ceir harbwr pert, traeth a marina diweddaraf Cymru.

Ewch i'r dwyrain heibio i Barc Dŵr y Sandy a thraeth Machynys cyn dod i'r Ganolfan Gwlyptir Genedlaethol lle gallwch edrych am amrywiaeth o adar y môr ac adar y dŵr megis heidiau o bibyddion y mawn, cwtiaid torchog, hutan y tywod a phibyddion coesgoch ar hyd yr arfordir a gellir gweld hwyaid yr eithin, piod y môr a'r gylfinir ymhellach ar hyd y fflatiau llaid ac, wrth gwrs, yr elyrch ym Mharc Dŵr y Sandy. Yn yr haf gallwch weld tegeirianau a blodau gwyllt eraill.

Ar hyd y llwybr, fe welwch greigiau duon sef gwastraff y ffwrneisi dur. Os edrychwch arnynt yn fanwl fe welwch eu bod yn llawn swigod o'r adeg pryd yr oeddent yn hylif y tu mewn i'r ffwrneisi chwyth.

Pam Cerdded?

Mae golygfeydd ardderchog o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr i'w cael ar hyd y promenâd ysblennydd. Mae digonedd o lefydd parcio a maes chwarae antur heb ei ail i blant hefyd.
Ar ôl darn gwastad a hawdd i'w ddilyn o Lwybr Arfordir Cymru, gall y teulu cyfan fwynhau'r rhan hon o arfordir Sir Gaerfyrddin.
Os hoffech barhau â'ch anturiaethau, gallech fynd i gyfeiriad y gorllewin ar hyd yr arfordir i Barc Gwledig gwych Pen-bre lle ceir mwy o olygfeydd arfordirol godidog a llwybrau bywyd gwyllt drwy goetiroedd.
Mae beiciau addasol yn ogystal â beiciau unigol a beiciau teuluol ar gael i'w llogi o'r Ganolfan Sgïo a Gweithgareddau a gellir eu defnyddio ar hyd llwybr yr arfordir. Fe'ch cynghorir i archebu ymlaen llaw.

Pa mor hir?

1 – 16km

Pa mor Anodd?

Hwylus/Hygyrch

Man cychwyn: Ar gyfer y rhan hon o'r daith gerdded, rydym yn dechrau ym Mharc Dŵr y Sandy, ond mae lleoliadau gwahanol ar hyd y Parc Arfordirol lle gallwch ddechrau eich taith gerdded.

Maes parcio: nifer o feysydd parcio ar hyd y ffordd

Trafnidiaeth Gyhoeddus: Bydd y gwasanaeth x11 yn mynd ar hyd llwybr yr Arfordir yn uniongyrchol yn harbwr Porth Tywyn yn unig

Lluniaeth:  ✔

Mannau o Ddiddordeb

Parciwch eich car ym maes parcio Parc Dŵr y Sandy. Mae'r daith gerdded yn eich tywys o amgylch y llyn ym Mharc Dŵr y Sandy. Roedd y llyn yn un o'r llynnoedd oeri oedd yn gysylltiedig â gwaith dur Duport, sef un o felinau dur mwyaf o ran maint a mwyaf modern y byd. Y Klondike oedd yr enw lleol arno gan fod y gwaith hwn yn Llanelli yn cyfateb i’r rhuthr am aur!

Dilynwch y llwybr o amgylch y llyn ac yn ôl i'ch car.

Os ydych am gael taith gerdded hirach, beth am fynd am dro drwy goed y Mabinogi, sy'n cynnwys llwybr cerfluniau a pharhau ar Lwybr Arfordirol y Mileniwm, yna ymlaen i'r warchodfa Natur leol yn Noc y Gogledd. Dilynwch y llwybr hyd at ddiwedd y twyni tywod. Gellir gweld blodau gwyllt ac adar y môr yma.

Gallwch ddychwelyd i'ch car ar hyd y llwybr y daethoch, ac efallai mwynhau paned o de haeddiannol a sleisen o gacen yn St Elli's Bay Bistro . Mae'n fan delfrydol i ymlacio a mwynhau'r golygfeydd hyfryd o Fae Caerfyrddin a Phenrhyn Gŵyr.

Dyffryn Swister

Dyffryn Swister