Newyddion Diweddaraf
Rhoi hyder ichi archebu eich gwyliau a'i fwynhau
Fel cyrchfan twristiaeth gyfrifol rydym wedi ymrwymo i ddiogelu pobl Cymru a'r ymwelwyr rydym yn eu croesawu bob blwyddyn.
'Barod Amdani' yw marc swyddogol y DU sy'n dangos bod busnes twristiaeth a lletygarwch wedi gweithio'n galed i ddilyn canllawiau'r Llywodraeth a'r diwydiant ynghylch COVID-19 ac wedi cynnal asesiad risg COVID-19. Gall hyn roi hyder ichi fel cwsmer fod gan y busnes brosesau ar waith i gynnal glanweithdra ac i helpu i gadw pellter cymdeithasol.
Ewch i'n tudalen Newyddion i weld y canllawiau diweddaraf a'r wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook a Twitter.
Cofiwch ddiogelu eich hun a phobl eraill.
#DiogeluSirGâr
Chwiliwch am y marc hwn ar ein tudalennau 'llety' a 'pethau i'w gwneud' i ddod o hyd i'r busnesau sy'n 'Barod Amdani'!

Barod Amdani

Er mwyn diogelu pawb, mae ein busnesau twristiaeth yn rhoi safonau glanhau uwch ar waith ac yn newid eu gweithdrefnau i gydymffurfio â chanllawiau'r Llywodraeth. Erbyn hyn, mae llawer ohonynt wedi cyflawni'r achrediad twristiaeth newydd ledled y DU a elwir yn Barod Amdani, felly cadwch lygad am y rhai sy'n arddangos eu hachrediad!
NHS
Bellach mae’n rhaid i fusnesau lletygarwch a lleoliadau risg uchel eraill gasglu manylion cyswllt ar gyfer gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu y GIG. Angen cofnodi manylion staff, cwsmeriaid ac ymwelwyr.
Lansiwyd ap COVID-19 newydd y GIG ar 24 Medi ar gyfer Cymru a Lloegr, gan gofnodi faint o amser yr ydych yn treulio'n agor i ddefnyddwyr eraill yr ap, a'r pellter rhyngoch, er mwyn iddo eich rhybuddio os ydych wedi bod yn agos at rywun sy'n cael prawf positif am COVID-19.
Gyda'n gilydd, gallwn

• Parchu ein canllawiau, mesurau diogelwch, cymunedau lleol ac eraill o'ch cwmpas
• Diogelu eich hunain, pobl eraill a gwasanaethau critigol; arhoswch gartref os ydych chi'n teimlo'n sâl
• Mwynhau ein pobl, lleoedd a lletygarwch yn ddiogel - diolch am gefnogi busnesau lleol i'w cael yn ôl ar eu traed
Addo

Llofnodwch a gwnewch eich addewid i Gymru wrth ichi baratoi i ddechrau archwilio eto, i ofalu am ein gilydd, ein gwlad a’n cymunedau.
Os oes gennych gwestiwn o hyd ar ôl pori drwy'r holl bethau i'w gwneud a'u gweld ar ein gwefan, cysylltwch ag un o'n staff dwyieithog drwy drwy anfon e-bost i twristiaeth@sirgar.gov.uk. Byddwn yn ymateb cyn gynted â phosibl.
Dolenni defnyddiol i gael y wybodaeth ddiweddaraf;
Cyngor Sir Caerfyrddin
Canllawiau Iechyd Cyhoeddus Cymru
Tudalennau Twristiaeth Cyngor Sir Caerfyrddin
Efallai nad yw'r wybodaeth ar y tudalennau hyn yn adlewyrchu statws presennol lleoedd i ymweld â nhw a'r hyn y gallwch ei wneud. Cofiwch wirio â'r lleoedd yr ydych yn bwriadu ymweld â nhw cyn teithio.