Wrth ddarganfod Sir Gâr ar droed, yn ogystal â gweld y sir ar ei gore', cewch hefyd gyfle i ddod i adnabod a gwerthfawrogi ardderchowgrwydd y sir. Mae cerdded yn caniatáu ichi werthfawrogi byd natur, y bobl leol, eich cyd-gerddwyr ond yn fwy na hynny, hanes diddorol Sir Gâr. Mae cerdded yn rhoi cyfle ichi fwynhau'r cyfan; amser i archwilio, i flasu, i gyffwrdd, i gyfarfod ac i sgwrsio.
Y pethau bach sy'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf, y pethau rydych chi'n eu methu os ydych chi mewn bws neu gar.
Cewch hefyd werthfawrogi'r tymhorau newidiol, gall yr un daith gerdded deimlo'n hollol wahanol yn y Gwanwyn, yr Haf, yr Hydref a'r Gaeaf. Gan fod Sir Gaerfyrddin yn sir mor amrywiol, nid yw'n syndod bod y teithiau cerdded sy'n cael eu cynnig mor wahanol hefyd. Gall bob dydd a phob llwybr cerdded fod mor wahanol boed yn deithiau cerdded arfordirol neu wledig, yn hamddenol neu'n heriol, yn llawn hanes neu fyd natur.
Yn y dydd, ceir digon o gyfle i drochi'ch esgidiau cerdded a gyda'r nos, gallwch ymlacio a rhoi'ch traed lan. Ceir yma lefydd i aros sy'n amrywio o lecynnau bach cartrefol i lefydd mawr crand.
Ar ôl cerdded ymhell, mae'r cwrw casgen, y pastai cartref neu'r bwyd da yn blasu cymaint yn well.