Cyfuniad hyfryd o’r hen a’r newydd sydd yn y dref hon; ar y naill law mae hen strydoedd culion a gweddillion castell a godwyd yng nghyfnod Harri’r cyntaf, ac ar y llaw arall mae canolfan siopa fodern o’r radd flaenaf sydd â llawer o enwau cyfarwydd y stryd fawr. Mae Caerfyrddin yn enwog am ei marchnadoedd, sy’n llawn cymeriad ac yn fwrlwm o hwyl.
Mae'r daith hon yn cynnwys tref hanesyddol Caerfyrddin ac Afon Tywi.
Gan fynd heibio i Barc Caerfyrddin, sy'n cynnwys Felodrom hynaf Cymru, ar hyd yr Afon Tywi fawreddog, drwy'r Gwlyptiroedd cyn gorffen yn yr Amffitheatr Rufeinig.
Mae'r daith gerdded o amgylch tref Caerfyrddin yn eich galluogi i archwilio ei threftadaeth gyfoethog a mwynhau harddwch cefn gwlad ar yr un pryd.
Mae gan Gyngor Tref Caerfyrddin ddetholiad o lwybrau cylchol wedi'u mapio o amgylch y dref y gellir eu cerdded fel teithiau unigol neu eu cyfuno i greu llwybr hirach.