English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Pam cerdded?

Taith gerdded brydferth ag arwyddion drwy'r coed o amgylch y gronfa ddŵr dawel hon. Delfrydol i fynd am dro hamddenol.
Lleolir Cronfeydd Dŵr Lliedi Uchaf ac Isaf yn Nyffryn y Swistir, ychydig i'r gogledd o Lanelli. Y gronfa ddŵr isaf oedd y gyntaf i'w hadeiladu yn 1878 er mwyn darparu dŵr i dref Llanelli, ac yna ychwanegwyd yr ail gronfa ddŵr uchaf yn 1905 i ddiwallu anghenion cynyddol y dref.
Y dyddiau hyn mae'r ddwy gronfa ddŵr yn gyrchfan boblogaidd ymhlith y rhai sy'n mynd â'u cŵn am dro, cerddwyr a phobl sy'n frwd dros fywyd gwyllt. Mae taith gerdded 2 filltir drwy'r coed o amgylch y cronfeydd dŵr felly mae digon o adar a bywyd gwyllt i'w gweld.
Mae arwyneb y llwybr yn addas ar gyfer defnyddwyr cadair olwyn neu gerddwyr llai abl.

Pa mor Hir?

0.42 milltir

Pa mor Anodd?

Mae gan y llwybr arwyneb graean da ond gall fod yn fwdlyd ar adegau ac mae esgidiau cerdded cadarn yn cael eu hargymell.

Trafnidiaeth Gyhoeddus - ✔

Mae cysylltiadau bws da rhwng Llanelli a Dyffryn y Swistir i'r rheiny y mae'n well ganddynt ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

 

Llyn Llech Owain

Taith gerdded