English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Pam Cerdded?

Dilynwch lwybr cerdded cilffordd Abaty Hendy-gwyn ar Daf o ganol tref Hendy-gwyn ar Daf i fyny at Abaty hanesyddol Hendy-gwyn ar Daf, a alwyd yn Fam Dŷ y Sistersiaid Cymreig. Ardderchog i bobl sy'n cerdded eu cŵn neu sy'n dymuno gwneud ymarfer corff hamddenol.

Pa mor hir?

Mae'r daith gerdded ychydig yn llai na 5km.

Pa mor Anodd?

Hawdd

Man cychwyn:

Ar gyfer y daith hon, gallwch naill ai ddechrau yn y maes parcio yn Heol y Gogledd neu yng Nghanolfan Ddehongli Hywel Dda.

Maes parcio: ✔

Trafnidiaeth Gyhoeddus:

Lluniaeth:

Mannau o Ddiddordeb

1. Yr ochr arall i Ysgol Dyffryn Taf mae’r tŷ lle ganwyd y cerddor byd-enwog William Mathias. Cyfansoddodd anthem ar gyfer priodas Y Tywysog Siarl a’r Fonesig Diana Spencer. Cofiwch edrych ar y garreg gofnodi.

2. Byddwch yn cerdded yn gyfochrog â’r heol Rufeinig, y Via Julia, a ddatguddiwyd yn rhannol wrth adeiladu’r ffordd osgoi yn 1996. Ganrifoedd yn ôl, Pererinion a Phorthmyn a fyddai wedi tramwyo hon.

3. Mae yma degeirian, clychau’r gog, golygfeydd a chân yr adar. Yn y coedtir mae murddun bwthyn Porth Aur (Golden Gate). Dywedir mai dyma geg y twnel o Blasdy’r Abaty.

4. Nid oes olion gweladwy heddiw, ond dyma safle’r Porth Aur gynt, mangre o arwyddocad crefyddol i’r pererinion, a chredwyd bod cerdded trwy’r porth yn arwydd o adfywiad ysbrydol.

5. Cerddwch i lawr tuag at y rhyd, lle mae pont droed a grisiau i groesi. Arferai’r nant lifo i lynnoedd pysgod gyferbyn â Phlasdy’r Abaty. Defnyddiai’r mynachod Sistersaidd y llynnoedd i gadw eu helfa pysgod yn ffres. Mae’r nant yn llifo i afon Gronw cyn ymuno ac Afon Taf.

6. I’r chwith mae adfeilion ceginau Yr Abaty, a llety’r mynachod, sydd bellach yn eiddo preifat. I’r chwith ymhen 50m mae adfail Eglwys yr Abaty, sy’n agored i’r cyhoedd, dyddiad tua 1140.

7. Dychwelwch i ffordd Yr Abaty a mynd i’r de. Ar y chwith mae Plasdy’r Abaty gothig. Sylwch ar adenydd y creaduriaid ar gatiau’r Plasdy, tua 1847.

8. Ewch yn eich blaen dros bont Afon Gronw gan sylwi ar yr hen gamfeydd cerrig gerllaw. Ar ôl tua 150m mae "gât fochyn" llwybr troed cyhoeddus bach yn y berth ar yr ochr dde.

9. Trowch i’r dde, heibio i dafarn Y Fishers, dros bont y Gronw ac heibio Ysgol Gynradd Llys Hywel. Ymhen 100m ewch i’r dde, trwy’r gatiau mawr du i Barc Dr Owen. Cyflwynwyd y Parc i drigolion Hendygwyn gan deulu Dr Owens dros hanner canrif yn ôl, ac mae’n cael ei gynnal gyda’r arian a godir yn y carnifal blynyddol.

10. Mewn lle amlwg mae maen-hir i gofio’r cymeriad lleol unigryw Dr George Penn. Mae llwybr cadarn yn arwain at Ardd Goffa’r Rhyfel Byd 1af, a sedd i ymlacio ac edmygu’r olygfa, ac afon Gronw’n sisial gerllaw. Cynlluniwyd y sedd fawr las gan y gof lleol Mr Peterson. Mae’r naw thema a ysbrydolwyd gan blant yn adlewyrchu’r diwylliant lleol.

11. Cofir am y Brenin Hywel Dda am iddo gyfundrefnu cyfreithiau yn Hendygwyn tua 940 OC yn yr “hen dy gwyn ar Daf”. Mae Canolfan a Gardd Hywel Dda ynghanol y dref ar agor yn ddyddiol.