English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llyn Llech Owain

Mae Llyn Llech Owain yn cwmpasu arwynebedd o 73 hectar a'i nodwedd ganolog yw'r llun ei hun. Mae nifer o'r llwybrau ag arwyneb da ac yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, ac mae llwybr pwrpasol yn caniatáu i bobl gerdded dros y fawnog ac o amgylch y llyn yn ddiogel, a thrwy ddilyn trac drwy'r goedwig, gallwch fynd ar daith gerdded hirach.

Lawrlwytho'r map o'r parc

Video of the walks in Llyn Llech Owain.

Caiff Parc Gwledig Llyn Llech Owain ei reoli gan Gyngor Sir Caerfyrddin ar gyfer eich mwynhad chi ac mae yno lwybrau natur, ardal antur sy'n cynnwys maes chwarae antur pren gwych, a maes chwarae ar wahân gyda nodweddion llai i blant bach. Trwy ddilyn y llwybr drwy'r goedwig gallwch fynd ar daith gerdded neu daith feicio hirach o amgylch y parc gwledig.

Mae llyn yng nghanol y Parc Gwledig sydd wedi'i amgylchynu gan fawnog. Mae'r cynefin prin hwn wedi'i ddynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac mae ganddo gyfoeth o fywyd gwyllt diddorol yn ei gynefinoedd amrywiol.

Mae'r llyn canolog a'r fawnog yn gynefin i blanhigion prin megis ffeuen y gors, gwlithlys a'r rhedynen gyfrdwy. Mae'r adar yn cynnwys gïachod cyffredin, breision y cyrs, ieir dŵr, hwyaid gwyllt, hwyaid pengoch, gwyachod bach, gwenoliaid a gwenoliaid y bondo.

Gosodwyd rhodfeydd pren ar draws y fawnog er mwyn i bobl allu gweld y cynefin yn ddiogel. Gan fod yma rwydwaith o lwybrau cerdded mae'n llecyn rhagorol i fynd am dro. Mae nifer o'r llwybrau ag arwynebau da sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Mae'r coetir yn cynnwys amrywiaeth o goed conwydd a choed collddail llydanddail sy'n amgylchedd gwych ar gyfer ystod o adar megis titwod, drywod eurben, dringwyr bach, sgrechod y coed a chnocellau gwyrdd. Allan ar y rhostir, efallai y byddwch yn gweld ambell gudyll coch a barcud, ynghyd â madfallod a nadredd y gwair.

Ymhlith y pryfed y mae nifer o weision neidr a mursennod ynghyd â phili-palod megis y fantell paun, y fantell dramor a'r gwyn blaen oren.

Yn ôl y chwedl, Owain Lawgoch (y Cymro a ymladdodd yn y Rhyfel 100 Mlynedd) oedd yn gofalu am y ffynnon ar y Mynydd Mawr.

Bob dydd ar ôl cael digon o ddŵr iddo ef ei hunan a'i geffyl, roedd Owain o hyd yn ofalus iawn i roi'r llechfaen yn ôl yn ei le er mwyn i'r ffynnon beidio â gorlifo.

Fodd bynnag, un tro, fe anghofiodd y cwbl am wneud hyn a llifodd y dŵr fel afon i lawr ochr y mynydd!

O ganlyniad, ffurfiwyd llyn ac fe'i henwyd yn Llyn Llech Owain!

Saif y Ganolfan Ymwelwyr wrth ymyl y llyn ac, o'r man hwnnw, gellir mwynhau golygfeydd godidog o Lyn Llech Owain a'r ardal gyfagos. Yn y Ganolfan ceir arddangosfa a gwybodaeth ynghylch rheolaeth y Parc Gwledig

Mae ein tîm o Geidwaid Cefn Gwlad yn gweithio yma ac maent ar gael i ateb eich cwestiynau neu i glywed am unrhyw fywyd gwyllt rydych wedi'i weld.

Mae gan Barc Llyn Llech Owain gaffi, safleoedd picnic a thoiledau ynghyd â darpariaeth ar gyfer pobl anabl. Gobeithio y byddwch yn mwynhau ymweld â'r lle cyn bo hir!

Sandy Water Park

View walk