English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Rhodfa glan yr afon Dyffryn Aman

Dyffrynnoedd Aman a Llwchwr yw dau o'r dyffrynnoedd mwyaf gorllewinol yn hen faes glo De Cymru. Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif bu i'r dyffrynnoedd gwledig a thawel hyn newid i fod yn ddyffrynnoedd diwydiannol prysur, wrth i'r diwydiant glo carreg gynyddu'n gyflym. Ond mae hanes y dyffrynnoedd hyn yn ymestyn yn ôl i oes yr arth a'r blaidd. Ar y bryniau lleol ceir claddfeydd hynafol sy'n dyddio o Oes yr Efydd (3000 o flynyddoedd yn ôl), ac mae esgyrn y daethpwyd o hyd iddynt mewn ogof yn Llandybïe yn tystio i bresenoldeb dynion cynnar hyd yn oed. Credir taw Dyffryn Aman yw Amanwy, lleoliad yr helfa chwedlonol am y Twrch Trwyth gan y Brenin Arthur a'i ddynion yn chwedlau hynafol y Mabinogion. Yn y canol oesoedd, y dyffrynnoedd hyn oedd y ffin rhwng tiroedd Tywysogion Cymreig y Deheubarth ac Arglwyddi Normanaidd Gŵyr. Yn ddiweddarach datblygodd y dyffrynnoedd i fod yn ffin rhwng siroedd hanesyddol Caerfyrddin a Morgannwg.

Mae'r llwybr yn cynnwys coetir, ffermdir, pyllau afon a choredau ac mae digonedd o fywyd gwyllt ar bob rhan o'r daith. Mae llawer o adar i'w gweld, gan gynnwys bwncathod ac o bryd i'w gilydd barcutiaid coch, bywyd gwyllt a da byw. Ceir golygfa drawiadol o'r afon o bont grog sigledig, sy'n ddigon i gyffroi unrhyw un, ac mae glannau'r afon yn gyforiog o flodau gwyllt, felly beth am gymryd eich amser a mwynhau'r profiad i'r eithaf.

Mae gan bentrefi a threfi'r ardal amrywiaeth o siopau, caffis, a thafarndai. Hefyd, cadwch lygad yn y prif bentrefi am baneli sy'n rhoi gwybodaeth am y dreftadaeth sydd ynghlwm wrth Deithiau Cerdded Aman a Llwchwr.

     

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

 

Lawrlwytho taith gerdded       Plotaroute 

 

Pam Dewis Cerdded?
Mae'r llwybr poblogaidd hwn o Frynaman i Rydaman yn dilyn wrth ymyl Afon Aman. Mae'r llwybr yn cael ei ddefnyddio gan gerddwyr a beicwyr, gan fynd trwy goetiroedd, lonydd deiliog a pharcdir. Mae'r pentrefi yn Nyffryn Aman wedi ehangu oherwydd y chwyldro diwydiannol yn y 19eg ganrif. Ychydig iawn o arwyddion amlwg o'r cyfnod diwydiannol hwn y gellir eu gweld nawr. Mae'r tomenni sbwriel a'r safleoedd diwydiannol wedi cael eu haildirlunio ac wedi dychwelyd i fod yn goetiroedd a thir amaethyddol. Mae siopau, tafarndai a chaffis yn y pentrefi ar hyd y daith. Mae gan bob pentref baneli gwybodaeth treftadaeth sy'n tynnu sylw at yr hanes a'r bywyd gwyllt ym mhob ardal.

Pa mor bell?
Mae'r llwybr llinellol hwn ychydig o dan 9km o hyd (5½ milltir) ac yn disgyn 154 metr (505 troedfedd) gan godi 23 metr (75 troedfedd) yn unig.

Pa mor anodd?
Mae arwyneb i'r llwybr cyfan ac mae'n ddelfrydol ar gyfer grwpiau teulu, neu bobl sydd â phroblemau symudedd. Gellir cael mynediad i'r llwybr yn rhwydd o bob pentref ar hyd y daith ac felly gellir cwblhau'r nifer o rannau gwahanol un cam ar y tro.

Y Man Cychwyn - Mae dechrau'r daith gerdded ger Heol yr Orsaf, ar y llwybr beicio. Trowch i'r dde ar Heol yr Orsaf ac ewch heibio i'r tir rygbi i'r llwybr sydd wedi'i darmacio ar hyd Afon Aman.

Y Maes Parcio - Canolfan y Mynydd Du, Brynaman Uchaf a hefyd yn Rhydaman

Trafnidiaeth Gyhoeddus - ✔         Lluniaeth - ✔

Taith gerdded Dyffryn Aman

 

Mannau o ddiddordeb

1. Saif Brynaman ar ymyl y Mynydd Du a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Roedd glo a mwyn haearn ar gael yn lleol ac arweiniodd hyn at adeiladu dwy ffwrnais chwyth i fwyndoddi haearn, gweithfeydd tunplat, ffatri friciau, rheilffordd a gorsaf - ac mae'r cyfan oll wedi mynd erbyn hyn. 

2. Oddi ar y llwybr beicio ar ochr arall Afon Aman y mae Parc Natur Ynys Dawela ac mae modd cael mynediad iddo dros bont droed gul. Arferai pwll glo fod ar y safle hwn ac mae bellach yn ardal sydd â choetir a dolydd sy'n llawn blodau. 

3. Mae'r afon a'i glannau yn gynefinoedd pwysig ar gyfer bywyd gwyllt. Mae'n bosibl gweld amrywiaeth o adar y dŵr megis hwyadwyddau, glas y dorlan, hwyaid gwylltion, bronfraith fach y dŵr a sigl-i-gwt.

4. Byddwch yn mynd i Gastell-nedd Port Talbot am ychydig cyn croesi dwy heol i gyrraedd y Garnant. Yn y man lle y mae Afon Cwm Garnant ac Afon Aman yn cydlifo, mae maes parcio bach sydd â man eistedd lle roedd ‘The Palais Cinema’ yn arfer bod.

5. O safle'r ‘Palais’, croeswch yr afon i barcdir.

6. Ewch heibio i'r bont grog gul (sy'n darparu mynediad i'r brif heol) ac yna i mewn i ran fwy coediog o'r daith i lawr i Bontaman a'r heol i mewn i ganol tref Rhydaman.

7. Erbyn 1911 roedd Rhydaman yn aneddiad diwydiannol ffyniannus, ac yn awdurdod ar y maes glo yn Sir Gaerfyrddin ym mhob ffordd.   Yn ôl y chwedlau bu'r Brenin Arthur a'i farchogion yn hela'r Twrch Trwyth ar lethrau Dyffryn Aman. Mae'r twrch yn nodwedd ar fyrddau gwybodaeth y llwybr hanesyddol ac yn y cerfluniau metel mawr yn Rhydaman.

Y Mynydd Du

Afon Aman

Brechfa

Brechfa: Y Daith Gerdded Fer