English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mae pentrefi dymunol Cil-y-cwm a Rhandir-mwyn yn llechu ym mlaenau Dyffryn Tywi, sef ardal hynod o brydferth ymhell o dwrw ac anrhaith y byd diwydiannol. Mae’r ardal yn gyforiog o gynefinoedd sydd yn cynnal amrywiaeth hynod o blanhigion ac anifeiliaid, yn enwedig adar. Er bod Gwarchodfa Natur Genedlaethol (Coedwig Allt Rhyd y Groes), Ardal Gadwraeth Arbennig (Mynydd Mallaen, sef ardal helaeth o rostir yr ucheldir), ynghyd ag un o warchodfeydd mwyaf prydferth y Gymdeithas Genedlaethol Er Gwarchod Adar (Dinas) yn yr ardal, mae’n dal i fod yn un o berlau cudd Sir Gâr.

Mae cymunedau wedi bod yn y fro ers o leiaf 5000 o flynyddoedd. Ar y bryniau cyfagos mae carneddau, claddfeydd a meini hir a godwyd gan bobl Oes yr Efydd, yn ogystal â nifer o fryngaerau o Oes yr Haearn. Arferai llengoedd Rhufain deithio trwy’r ardal yn rheolaidd – mae’r ffordd Rufeinig rhwng eu caer yn Llanymddyfri a’r mwyngloddiau aur ym Mhumsaint yn mynd ychydig i’r de o bentref Cil-y-cwm.

Yn yr oesoedd canol, yr oedd cwmwd Mallaen, sydd yn cynnwys ardal Cil-y-cwm, yn eiddo i Dywysogion Deheubarth; o bryd i’w gilydd byddai’r tywysogion yn dianc i’r ardal fynyddig hon i gael lloches yn ystod y rhyfeloedd â’r Eingl-Normaniaid yn y ddeuddegfed ganrif a’r drydedd ganrif ar ddeg.

O’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen bu cynnydd o ran magu da byw yng Nghymru; ac yn sgîl hynny yr oedd galw mawr am borthmyn er mwyn gyrru anifeiliaid i drefi mawrion a dinasoedd Lloegr. Yr oedd Cil-y-cwm yn ganolfan bwysig ar un o brif ffyrdd y porthmyn i’r dwyrain. Byddai’r gwteri coblog, sydd yn dal i fod yn y golwg ar hyd y brif stryd, yn cael eu defnyddio i fwydo’r anifeiliaid a oedd wedi eu crynhoi yno; mae’r olion hyn yn dystiolaeth bwysig o fwrlwm y fasnach hon slawer dydd.

Ers oes yr arth a’r blaidd, dibynnai’r gymuned leol ar amaethu, ac mae hynny wedi dylanwadu’n fawr ar ei chymeriad. Yn ystod y canrifoedd diwethaf mae’r plastai mawrion a’u hystadau enfawr, megis Neuadd Fawr, wedi cyrraedd anterth eu grym ac yna wedi cilio i ebargofiant, ond erys traddodiad amaethyddol yr ardal yn gryf.

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

Lawrlwytho taith gerdded     Plotaroute

Pam Cerdded?

Mae Cil-y-cwm yn gorwedd yn un o ddyffrynnoedd harddaf Sir Gaerfyrddin, sydd heb ei ddifetha gan ddiwydiant, ac mae ar gyrion y Sir ac yn fan sy’n aml yn cael ei esgeuluso gan ymwelwyr.

Pa mor Hir?

Mae'r llwybr yn 4.6 milltir o hyd (7.4Km).

Pa mor Anodd?

Mae'r dirwedd gymysg sydd â rhannau bryniog ar hyd y ffordd yn cynnig golygfeydd gwych.

Man Cychwyn - ym Mhentref Cil-y-cwm.

Lluniaeth - Mae tafarn bentref yng Ngil-y-cwm. Llanymddyfri yw'r dref agosaf ac mae'n cynnwys yr holl fwynderau.

Parcio - ym Mhentref Cil-y-cwm

Bywyd Adar

I'r rhai sy'n frwdfrydig am wylio adar, mae'n rhaid ymweld â'r ardal hon. Mae cynefinoedd amrywiol iawn o goetir deri hynafol, coetir planhigfa, afonydd, rhostir yr ucheldir a thir amaethyddol yn darparu cynefinoedd delfrydol ar gyfer amrywiaeth eang o adar preswyl ac adar mudol. Helpodd un o'r prosiectau cadwraeth mwyaf hirhoedlog yn y byd i achub y Barcud Coch ym Mhrydain Fawr. Dylai pob ymwelydd lwyddo i weld y barcud coch. Ymhlith yr adar eraill yn yr ardal y mae'r Croesbig, yr Hebog Tramor, y Gigfran, y Gwybedog Brith, Telor y Coed a'r Tingoch. Mae rhostir yr ucheldir yn gartref i'r Cwtiad Aur, Mwyalchen y Mynydd a'r Cudyllod bach. Mae Bronwen y Dŵr, y Siglen Lwyd, Pibydd y Dorlan a'r Hwyadwydd gyffredin i'w gweld yn yr afonydd a'r nentydd.

 

Mannau o Ddiddordeb

1 & 2. Mae eglwys y pentref yn perthyn i'r canoloesoedd cynnar a'r gred yw ei bod hi'n dyddio'n ôl i ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg ac mae ynddi baentiadau wal ddiddorol iawn. Y mae Ysgoldy Fach, hen ysgoldy o'r 18fed ganrif ynghudd y tu ôl i'r eglwys gan edrych dros afon Gwenlais. Mae Capel Annibynwyr Capel y Groes yn agos i'r Ysgoldy Fach.

3. Ar un adeg roedd y pentref yn fan aros pwysig i borthmyn. Defnyddiwyd y cwteri cerrig crynion ar ochr y ffordd ar un adeg i fwydo da byw ar eu taith hir tua'r dwyrain i'r farchnad.

4. Ar ôl dringo'r bryn, cewch weld golygfeydd gwych o rai o'r tirweddau gorau yng Nghymru.

5. Mae’r golygfeydd gwych o raeadrau Craig Rhossan yn wel fyth yn ystod glaw trwm!

6. Mae gan y dyffryn rannau sylweddol o goetir sy'n cynnwys cymysgedd amrywiol iawn o goed o ran oedran a mathau sydd yn ei dro yn darparu cymysgedd bwysig o gynefinoedd ar gyfer bywyd gwyllt. Mae rhai o'r coedwigoedd yn blanhigfeydd cymharol fodern sy'n cynnwys coed Sbriws, coed Llarwydd a choed Pinwydd sy'n cael eu cwympo yn eu tro yn rheolaidd, ac mae llawer o'r llethrau mwyaf serth wedi’u gorchuddio gan hen goedwigoedd o goed derw mes di-goes o gymeriad gwahanol iawn. Mae llawer o'r coedwigoedd planhigfa dan reolaeth Cyfoeth Naturiol Cymru ac maent yn Dir Mynediad Agored lle gall y cyhoedd grwydro.

7. I'r gogledd-orllewin o'r man hwn y mae adfeilion Plasty Neuadd Fawr, a gellir ei weld y tu hwnt i gaeau mawr parcdir yr ystâd sydd wrth ochr y ffordd.