English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Parc Arfordirol y Mileniwm

Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli (Sustrans 4) tua 22km neu 13 milltir.

Llwybr arfordirol hygyrch sydd heb draffig ac sydd ag wyneb llyfn. Mae'r rhan fwyaf ohono'n wastad ac mae'n dilyn arfordir trawiadol Sir Gaerfyrddin, ar hyd Llwybr Arfordir Cymru am bellter o tua 22km o'r Bynea yn y Dwyrain i Barc Gwledig Pen-bre yn y Gorllewin.

Mae cymaint i'w weld a'i wneud ar hyd y ffordd, rhwng y bywyd gwyllt, y safleoedd o ddiddordeb, y golygfannau a'r llefydd i gael lluniaeth, felly beth am gymryd eich amser a mwynhau'r profiad i'r eithaf.

Ar gyfer teuluoedd yn enwedig, ond hefyd y rhai y mae'n well ganddynt fynd ar gyflymder ychydig yn fwy hamddenol, mae'r llwybr wedi'i rannu'n bedair rhan fer. Gallwch ddechrau’r naill ben neu gyfuno rhannau.

 

Uchafbwyntiau: Y bywyd gwyllt a'r golygfeydd!

Dechrau: Y Bynea neu Barc Gwledig Pen-bre

Cyfanswm Hyd: 22 cilomedr neu 17 milltir

Lefel Anhawster: heb ei raddio ond byddai'n wyrdd (hawdd)

Amcangyfrif o'r amser: 2 awr bob ffordd

 

 

 

Parcio: Y Bynea, The Gateway Resort, Doc y Gogledd, y Meysydd Gŵyl, Harbwr Porth Tywyn a Pharc Gwledig Pen-bre.

Llogi beiciau: Krankz, Porth Tywyn a Chanolfan Sgïo Parc Gwledig Pen-bre. 

Lluniaeth / toiledau: The Gateway Resort, Canolfan y Gwlyptir, Clwb Golff Machynys, y Ganolfan Ddarganfod yn Noc y Gogledd, Caffi'r Pafiliwn yn y Pwll, Harbwr Porth Tywyn, Parc Gwledig Pen-bre.

Trenau: Os ydych am feicio’r llwybr cyfan mewn un cyfeiriad yn unig, ceir
gorsafoedd trên ym Mhen-bre a Phorth Tywyn, Llanelli a’r Bynea.

Gwasanaeth Bws: 110/111 Bynea to Llanelli (Llun - Sadwrn)
X11 Bynea to Kidwelly (Llun - Sadwrn)
X12, 195 a 196 yn rhedeg rhwng Llanelli a Chaerfyrddin

Pont Llwchwr i Ganolfan y Gwlyptir, Penclacwydd (4 milltir yno ac yn ôl)

Mae'r llwybr yn dilyn glannau'r aber o'r pen dwyreiniol ym Mhont y Bacas (sy'n las ac yn wyn) dros y ffordd a'r rheilffordd yn y Bynea i Ganolfan y Gwlyptir ym Mhenclacwydd. Wrth ichi ddisgyn i'r rhodfa bren gallwch weld traphont reilffordd Brunel dros afon Llwchwr, ac wrth ichi fynd ar hyd Morfa Bacas cadwch lygad am fywyd gwyllt ar fanciau tywod yr aber, gan gynnwys crehyrod, crehyrod bach, a bwncathod yn cylchu oddi fry. Gellir gweld pentref Penclawdd, sydd ar arfordir gogleddol Penrhyn Gŵyr ac sy'n enwog am gocos, bara lawr a chig oen y glastraeth, ar ochr arall yr aber ac wrth ichi fynd yn eich blaenau mae'r golygfeydd o Benrhyn Gŵyr yn odidog. Mae digon o leoedd ar hyd y llwybr i aros am ennyd, i eistedd ac i fwynhau'r golygfeydd a gwrando ar y bywyd gwyllt.

Nodyn: Adeg llanwau uchel y gwanwyn mae'r rhan ger y rhodfa bren ym Morfa Bacas yn gallu bod dan ddŵr am gyfnod byr.

Canolfan y Gwlyptir, Penclacwydd i Ddoc y Gogledd, Llanelli (7 milltir yno ac yn ôl)

Mae'r llwybr yn parhau tua'r gorllewin gan fynd heibio i Ganolfan y Gwlyptir i Benrhyn Gwyn ger Machynys a chyrion Cwrs Golff Jack Nicklaus, ac ar hyd yr arfordir am ddwy filltir i Ddoc y Gogledd, Llanelli.

Wrth fynd tuag at Benrhyn Gwyn mae golygfeydd hyfryd o Arfordir Gogledd Gŵyr gan gynnwys morfeydd Llanrhidian, twyni Llanmadog, a thwyni tywod trawiadol Whitford, lle mae'r goleudy haearn bwrw hanesyddol. Ta ble mae'r llanw a tha beth yw'r golau, mae'r aber yn gefnlen wych i'r traethlin ac mae sawl man lle gallwch aros i fwynhau'r golygfeydd, y bywyd gwyllt a'r awyrgylch.

Gan barhau i gyfeiriad Llanelli ar hyd yr arfordir, fe groeswch afon Lliedi ger mynedfa'r hen ddoc llanw a chyrraedd Doc y Gogledd. Mae bistro a brasserie St. Elli's Bay yn lle gwych i gael coffi a thafell o gacen a mwynhau'r golygfeydd anhygoel dros Benrhyn Gŵyr. O'r promenâd anhygoel mae modd mynd i draeth Llanelli a cheir golygfannau a nifer o nodweddion a cherfluniau ar hyd y daith.

Canolfan Ddarganfod Doc y Gogledd, Llanelli i Harbwr Porth Tywyn (7 milltir yno ac yn ôl)

Yn Noc y Gogledd, gallwch fwynhau traeth Llanelli a golygfeydd ardderchog o'r aber draw at Ogledd Penrhyn Gŵyr a Thwyni Tywod Whitford a'r goleudy haearn bwrw hanesyddol. Mae bistro a brasserie St. Elli's Bay yn y Ganolfan Ddarganfod yn cynnwys ciosg hufen iâ, caffi/bwyty a thoiledau. O'r promenâd anhygoel mae modd mynd i'r traeth a cheir golygfannau trawiadol a nifer o nodweddion a cherfluniau ar hyd y daith.

Mae'r llwybr yn dilyn y promenâd am ½ milltir ac wedyn yn dringo dros y bont wedi'i thirlunio sy'n mynd dros y rheilffordd i fyny hyd at yr olygfan wrth Gerflun y Nodwydd, lle mae golygfeydd hynod o'r aber a Phenrhyn Gŵyr a (y tu cefn ichi) Parc Dŵr y Sandy (lle mae'r llwybr yn cysylltu â chanol tref Llanelli a Llwybr Beicio Dyffryn y Swistir). Mae yna seddi a llefydd i fwydo'r hwyaid a'r elyrch wrth ymyl y llyn hyfryd, ac mae'n arwain at dafarn/bwyty y Sandpiper sydd gyferbyn.

Wedyn aiff y llwybr yn ei flaen am ddwy filltir gan fynd heibio i safle a maes parcio'r Meysydd Gŵyl tuag at y Pwll lle mae rhagor o gerfluniau a llynnoedd pysgota o'ch blaen, heibio i Gaffi'r Pafiliwn ac i Borth Tywyn a'i harbwr, marina, traeth a goleudy. Dyma'r man lle glaniodd Amelia Earhart yn 1928, sef y fenyw gyntaf i hedfan dros Gefnfor yr Iwerydd, a cheir cofeb iddi ar yr ochr ddwyreiniol ger gorsaf y bad achub. Yma gallwch chi orffwys a mwynhau'r harbwr neu groesi i'r dref gyfagos.

Mae taith fer heibio i ochr orllewinol y marina yn arwain at y goleudy ac mae golygfeydd gwych o Benrhyn Gŵyr a'r aber, ta ble mae'r llanw arni. I'r dwyrain y tu hwnt i'r clwb cychod y mae traeth Porth Tywyn a'i barc carafanau.

Harbwr Porth Tywyn i Barc Gwledig Pen-bre

Mae Harbwr Porth Tywyn a'i lanfa a'i oleudy yn gefndir hyfryd i'r aber, a gwelir golygfeydd o Ogledd Penrhyn Gŵyr a Goleudy Whitford. Roedd Porth Tywyn yn enwog am fod Amelia Earhart wedi glanio yno yn 1928 (y fenyw gyntaf i hedfan ar draws Cefnfor yr Iwerydd), ac yn ddiweddar mae’r dref a’i gorffennol diwydiannol wedi cael adfywiad sylweddol drwy ddatblygiad y llwybr beicio, y marina, a'r harbwr. Drwy feicio am ychydig heibio i ochr orllewinol y marina, fe ddewch at y goleudy lle mae golygfeydd ysblennydd o Benrhyn Gŵyr a'r aber; tua'r dwyrain y tu hwnt i'r clwb cychod y mae traeth Porth Tywyn a'r parc carafanau.

Gan fynd i'r gorllewin heibio i hen Harbwr Pen-bre a chyrion y twyni gallwch fwynhau profiad anhygoel o wylltir yr aber. Er nad yw'n addas ar gyfer nofio, ceisiwch badlo, gan fod yr aber yn gyforiog o fywyd gwyllt yn y dŵr a'r tu allan i'r dŵr.

Gan barhau ar hyd y llwybr, byddwch wedyn yn cyrraedd Parc Gwledig Pen-bre a'i rwydwaith o ffyrdd a llwybrau beicio sy'n arwain at y traeth a llu o atyniadau eraill.