English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybrau i'r teulu cyfan

Gall taith feic i'r teulu fod yn ffordd wych o dreulio amser gyda'ch gilydd, mynd allan i'r awyr agored a blino'r rhai ifanc fel eu bod yn cysgu yn hwyrach ymlaen.

Mae beicio gyda phlant ifanc yn aml yn haws ac yn fwy diogel ar lwybrau di-draffig, felly os ydych chi am ddianc rhag prysurdeb traffig, mae gan Sir Gâr rai llwybrau di-draffig gwych ar Lwybr Celtaidd y Gorllewin, ochr yn ochr â llwybrau gwych sy'n addas i deuluoedd.

Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli

Parc Arfordirol y Mileniwm

Llwybr arfordirol hygyrch sydd heb draffig ac sydd ag wyneb llyfn. Mae'r rhan fwyaf ohono'n wastad ac mae'n dilyn arfordir trawiadol Sir Gaerfyrddin, ar hyd Llwybr Arfordir Cymru am bellter o tua 22km o'r Bynea yn y Dwyrain i Barc Gwledig Pen-bre yn y Gorllewin.

Lawrlwythwch y map a bant â chi ar y llwybr

Dechrau: Bynea neu Parc Pen-bre

Pellter: 22km/13 milltir

Gradd Anhawster: 2/10

Amser i gwbwlhau: tua 2 neu 3 awr

Llwybr Dyffryn Swistir

Llwybr Dyffryn y Swistir

Mae'r llwybr gwych hwn, nad yw'n mynd ar y ffordd, yn dilyn trywydd hen Reilffordd Llanelli a'r Mynydd Mawr, drwy gefn gwlad hyfryd Cwm Gwendraeth. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr yn wastad ac mae'n llwybr hygyrch â wyneb tarmac.

Lawrlwythwch y map a bant â chi ar y llwybr

Dechrau: Parc Dwr Y Sandy neu RFC Cefneithin 

Pellter: 19km/12 milltir

Gradd Anhawster: 3/10

Amser i gwbwlhau: tua 2 awr

Llwybr Glan-Afon Dyffryn Aman

Llwybr Glan yr Afon Dyffryn Aman

Mae'r llwybr di-draffig hyfryd hwn yn ymestyn am bron 8 milltir o Bantyffynnon i Frynaman ar hyd Afon Aman, ac mae golygfeydd gwych tuag at y Mynydd Du a Mynydd y Betws. Mae'r llwybr yn cynnwys coetir, ffermdir, pyllau afon a choredau ac mae digonedd o fywyd gwyllt ar bob rhan o'r daith.

Lawrlwythwch y map a bant â chi ar y llwybr

Dechrau: Pantyffynnon RFC neu Brynaman RFC

Pellter: 11km/7 milltir

Gradd Anhawster: 3/10

Amser i gwbwlhau: tua 1.5 neu 2 awr

Llwybr Cwm Tywi

Llwybr Cwm Tywi

Mae prosiect newydd cyffrous wedi cychwyn yn Nyffryn Tywi hardd, wrth i'r hen reilffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo gael ei hadfywio yn atyniad hamdden o bwys ac yn atyniad i ymwelwyr.

Bydd yn darparu llwybr di-draffig 16 milltir o hyd drwy un o'r ardaloedd mwyaf prydferth yng Nghymru, a bydd yn dilyn cwrs Afon Tywi bron wrth iddi lifo o Landeilo i Gaerfyrddin ar ei ffordd i Fae Caerfyrddin. 

 

Parc Gwledig Pen-bre

Parc Gwledig Pen-bre

Profwch dros 500 erw o harddwch. Mae yna lwybrau o gwmpas y parc a thrwy'r coetiroedd. Os hoffech fynd ar daith hirach, gallwch ymuno â Llwybr Arfordirol y Mileniwm.

Mae modd llogi beiciau, beiciau unigol neu ein beiciau teuluol â 4 sedd ac amrywiaeth o feiciau addasol ar gyfer gweithgaredd hwyliog i'r teulu i bawb y tu mewn i'r parc.