Llwybr Dyffryn y Swistir
Swiss Valley Path – Llanelli to Cross Hands (Sustrans Route 47) 14miles approx.
Llwybr Dyffryn y Swistir – Llanelli i Cross Hands (Llwybr Sustrans 47) Tua 22km neu 14 milltir.
Mae'r llwybr gwych hwn, nad yw'n mynd ar y ffordd, yn dilyn trywydd hen Reilffordd Llanelli a'r Mynydd Mawr, drwy gefn gwlad hyfryd Cwm Gwendraeth. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr yn wastad ac mae'n llwybr hygyrch â wyneb tarmac.
Mae'n dringo'n raddol o Barc Dŵr y Sandy yn Llanelli i Gynheidre, gan fynd heibio i gronfeydd dŵr Lliedi yn Nyffryn y Swistir. Yna mae'r llwybr yn eithaf gwastad ar hyd y top, lle mae golygfeydd bendigedig o Gwm Gwendraeth wrth i'r llwybr fynd drwy Barc Coetir y Mynydd Mawr.
Mae holl olion yr hen ddiwydiant glo wedi diflannu ac eithrio mewn ambell le.
Gallwch deithio'r llwybr hwn mewn camau hawdd a mwynhau'r golygfeydd godidog, yr anifeiliaid fferm a'r bywyd gwyllt, a gwelir Bwncathod ac o bryd i'w gilydd Farcutiaid Coch yn cylchu oddi fry.
Ar gyfer teuluoedd yn enwedig, ond hefyd y rhai y mae'n well ganddynt gerdded ar gyflymer ychydig yn fwy hamddenol, mae'r llwybr wedi'i rannu i'r tair rhan isod lle rhoddir cyngor am sut mae cyrraedd yno a beth i'w weld a'i wneud. Wrth gwrs gallwch ddechrau ar y naill ben neu'r llall neu gyfuno rhannau.
Uchafbwyntiau: Mae cymaint i'w weld a'i wneud ar hyd y ffordd, rhwng y bywyd gwyllt, y safleoedd o ddiddordeb, y golygfannau a'r llefydd i gael lluniaeth, felly beth am gymryd eich amser a mwynhau'r profiad i'r eithaf.
Dechrau: Parc Dŵr y Sandy Llanelli, neu dir Clwb Rygbi Cefneithin ger Cross Hands.
Cyfanswm Hyd: 19 cilomedr neu 12 milltir
Lefel Anhawster: Heb ei raddio ond byddai'n wyrdd (hawdd).
Cyfanswm Amser: Tua dwy awr bob ffordd.
Parcio: Doc y Gogledd a Pharc Dŵr y Sandy yn Llanelli, y Tymbl a Cross Hands.
Lluniaeth / toiledau: Y Ganolfan Ddarganfod yn Noc y Gogledd yn Llanelli, Tafarn y Waun Wyllt yn Horeb, y Tymbl a Cross Hands.
Gwasanaeth Bws: 195 Llanelli, Five Roads, Pontyberem (Llun - Sadwrn)
128 Llanelli, Cross Hands, Tumble (Llun - Sadwrn)
Llanelli i Horeb (10 milltir yno ac yn ôl)
Mae Doc y Gogledd neu Barc Dŵr y Sandy yn fannau cychwyn cyfleus ar gyfer y daith hon, gan groesi Pont D'Agen a dilyn llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae'r bont hon hefyd yn cysylltu â chanol tref Llanelli, sy'n fan cychwyn arall os ydych yn dymuno. Mae'n syniad da teithio'r ffordd hon wrth adael y dref gan fod y daith yn ôl yn un hyfryd lawr rhiw, nad oes angen ymdrechu rhyw lawer arni.
Mae'r llwybr yn mynd drwy Ffwrnes â'i dafarndai a'i siop, drwy Bentrepoeth ac uwchlaw Felin-foel, sef cartref y bragdy enwog. Ar ôl ½ milltir arall, mae'r llwybr yn rhedeg uwchlaw cronfeydd dŵr Lliedi yn Nyffryn y Swistir. Mae digonedd o leoedd i stopio, eistedd, cael picnic a mwynhau'r olygfa. Mae'n bosibl mynd i lawr y llwybr serth i gerdded o amgylch y cronfeydd dŵr, ond nid yw'n addas i feiciau; gwell yw eu gadael ar y llwybr.
Aiff y llwybr yn ei flaen drwy goetir, heibio i weddillion hen Waith Brics Horeb, sydd bellach yn gofeb restredig, cyn troi'n fwy agored wrth hen Orsaf Horeb a thafarn gyfagos y Waun Wyllt a hen Gapel. Os gadewch y llwybr yma a theithio tua'r gorllewin am filltir, fe ddewch at bentref Pump-hewl a thafarn y Stag.


Horeb i'r Tymbl (11 milltir yno ac yn ôl)
Dringa'r llwybr yn raddol am filltir o Horeb i Gynheidre cyn rhedeg yn wastad rhwng caeau fferm a choetir am 4½ milltir i'r Tymbl. O Gynheidre gallwch fwynhau golygfeydd gwych o Gwm Gwendraeth a thu hwnt i Sir Benfro a Môr Hafren ar ddiwrnod clir.
Roedd pyllau glo'n arfer bod ar hyd y rheilffordd fwynau hon ac yng Nghynheidre cafodd y pedair siafft eu cau a'u disodli yn y 70au gan lofa ddrifft na chafodd byth ei defnyddio. Mae Canolfan Dreftadaeth Rheilffordd Llanelli a'r Mynydd Mawr yng Nghynheidre bellach yn cynnwys llecyn picnic, trac a siediau atgyweirio, a chynhelir diwrnodau agored yn yr hyn y mae rhai'n ei galw'n rheilffordd fwynau gyntaf y DU.
Mae'r llwybr yn parhau drwy'r ardal hardd ond anghybsell hon i'r Tymbl. Yma bydd angen i chi'r groesi'r Stryd Fawr lle mae pob math o gyfleusterau, ac â'r llwybr ymlaen tua'r gogledd yr ochr arall i'r ffordd i Cross Hands. Yn ymyl y trac y mae postyn milltir Dudgeon Sustrans ac arno'r gerdd addas iawn, Tracks, ac mae'r cyfieithiad Cymraeg ar blac llechi ar y gwaelod – gofalwch eich bod yn aros i'w darllen.


Y Tymbl i Cross Hands (7 milltir yno ac yn ôl)
O'r Tymbl mae'r llwybr yn cyd-redeg â Pharc Gwledig y Mynydd Mawr, ac o'r man uchel hwn mae golygfeydd ysblennydd o Gwm Gwendraeth a thu hwnt i Sir Benfro a Môr Hafren ar ddiwrnod clir, cyn mynd drwy goetir i Garreg Hollt a Cross Hands. Trwy adael y llwybr am rai llathenni yng Ngharreg Hollt (gyferbyn â'r caeau chwarae) gallwch weld y garreg a roddodd i'r pentref ei enw. Yn ôl y chwedl bu i Owain Glyndwr ei tharo â'i gleddyf yn ei dymer. Mae'r llwybr yn mynd yn ei flaen hyd at y brif ffordd a thrwy droi a mynd i'r dwyrain am ½ milltir fe ddewch chi i ganol Cross Hands.

