Beicio Epig
Milltiroedd ar filltiroedd o lonydd gwledig, Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol, llwybrau beicio mynydd pwrpasol, un o'r felodromau hynaf yng Nghymru, llwybrau oddi ar y ffordd - mae gan Sir Gâr y cyfan.
Cyrchfan sy'n addas i feiciau yn llawn hanes, cymeriad a diwylliant Cymru.
P'un a ydych chi'n feiciwr mynydd brwd, yn hoffi beicio ar yr hewl neu'n chwilio am ddiwrnod allan i'r teulu, gallwn eich tywys drwy'r llefydd gorau i fynd allan ar ddwy olwyn, yn ogystal ag argymell rhai arosfannau gwych i chi ar hyd y ffordd.
Llwybrau Beicio ar y Ffordd
6 o lwybrau beicio ar y ffordd wedi'u plotio i chi gael eu mwynhau. Rhwng 18 a 40 cilometr gan fanteisio ar rai o olygfeydd a bryniau gorau Sir Gâr.
Llwybrau beicio ar y ffordd sy'n berffaith ar gyfer pob lefel ffitrwydd, gan gynnwys taith 15km neu ffyrdd o glocio 100km yn gyflymach gyda'r dringfeydd mwy serth dros y Mynydd Du.
Ewch allan i grwydro Sir Gâr ar 2 olwyn.
Llwybrau i'r teulu cyfan
Os hoffech ddianc rhag prysurdeb y traffig, mae Sir Gâr yn cynnig llwybrau di-draffig bendigedig ar hyd Llwybr Celtaidd y Gorllewin ynghyd â llwybrau i'r teulu cyfan.
Llwybrau Beicio Mynydd
Mae gan Sir Gâr rai o'r trysorau cudd gorau ar gyfer beicio mynydd yng Nghymru, o Frechfa i Gwm Rhaeadr, i Goedwig Crychan. Cyfle i fwynhau golygfeydd hardd a llwybrau gwych yng nghanol ein sir.