MTB Trail Thrillogy
Dewch i fwynhau gwyliau beicio yng ngogledd Sir Gaerfyrddin. Archwiliwch glwstwr defnyddiol o dri lleoliad, sy'n cynnig ystod amrywiol o lwybrau – o lwybrau cyflym i lawr bryniau, llwybrau traws gwlad a ffyrdd coedwig llydan, i drac sengl gradd du.
Ar draws y rhanbarth fe welwch amrywiaeth o lety sy'n addas i feicwyr, o westai a llety gwely a brecwast yn Llanymddyfri a Llandeilo i dafarndai traddodiadol a bythynnod hunanarlwyo ledled cefn gwlad – yn ogystal â bwyd lleol blasus, tafarndai a chroeso cynnes Cymreig.

Mae Sir Gaerfyrddin yn berffaith ar gyfer gwyliau beicio hamddenol. Ni fyddwch yn dod o hyd i gaffis ar y safle na siopau beiciau prysur – yn lle hynny, mae'n debygol y bydd gennych y llwybrau i chi'ch hun. Mwynhewch feicio i lawr bryniau gydag amser a lle i weld harddwch naturiol amrywiol y sir.
DIWRNOD 1: MYND GAN BWYLL
AM: Beth am ddechrau bore dydd Sadwrn ar y llwybrau gwych yng Nghoedwig Crychan? Mae'r llwybr dwy ran hwn ger Llanymddyfri, ar gyrion gogledd-orllewinol Bannau Brycheiniog, yn cynnwys rhwydwaith o ffyrdd fforest a thraciau caled, ond mae digwyddiadau Enduro heriol wedi'u cynnal yno hefyd. O'r naill neu'r llall o'r ddau faes parcio gogleddol, gallwch ddilyn llwybr Golygfa Epynt yn ogystal â llwybr Brynffo–Esgair Fwyog ar gyfer cylchdaith hamddenol 20.6km. Dal i deimlo'n egnïol? Mentrwch i'r de i adran Hanner Ffordd y goedwig drwy gyswllt llwybr Allt Troedrhiw-fer i ychwanegu 13.8km arall – sesiwn gynhesu gymedrol a boddhaol.

PM: Gyda'ch beiciau ar y rac, ewch i'r gorllewin i'r llwybr Coch anhygoel yng Nghwm Rhaeadr. Gan fynd drwy goetir anghysbell, mae'r llwybr 6.7km hwn yn rhoi cryn dipyn o her. Mae'r ddringfa 2.7km gychwynnol ar hyd ffordd dân o'r maes parcio yn gwobrwyo gyda thrac sengl byr ond epig gyda digon o ysgafellau, rholwyr a disgynfeydd creigiog. Byddwch chi eisiau ei thaclo hi ddwywaith, am y cyffro ac am y golygfeydd ysblennydd ar draws y cwm a'r rhaeadr sy'n rhoi'r enw i'r goedwig.
Ar ddiwedd eich diwrnod cyntaf, beth am fynd i dafarn gyfagos draddodiadol? Efallai'r Neuadd Arms yng Nghillycym neu'r Royal Oak yn Rhandirmwyn, mae'r ddau'n gweini bwyd blasus sydd bob amser wedi'i wneud cartref â chynhwysion lleol.
DIWRNOD 2: YMLWYBRO I FRECHFA
AM: Heddiw, ewch i brif ganolfan beicio'r wlad, ar lethrau Cwm Gorlech i'r gogledd o Landeilo. Mae Brechfa yn cynnwys pedwar llwybr sy'n rhychwantu graddau o Wyrdd i Ddu – llwybrau i bob beiciwr.
Dechreuwch yn Abergorlech, man cychwyn llwybr Gorlech gradd Coch: llwybr caled, cyflym i bob tywydd a gynlluniwyd gan Rowan Sorrell. Ar ôl tair dringfa fawr, byddwch yn cael eich gwobrwyo â chyfres o ysgafellau anhygoel, llwybr troellog a digon o gicwyr. Mae'r llwybr 19km ysblennydd yn cynnwys cymysgedd o lwybrau coedwig a thraciau sengl yn ogystal â nodweddion technegol niferus. Mae'n lle perffaith i roi hwb i'ch hyder a'ch sgiliau.

PM: Beth am gael bwyd yn y Black Lion ger y man cychwyn/gorffen yn Abergorlech? Wedyn gallech fynd 5km i lawr yr heol i faes parcio Byrgwm ger pentref Brechfa. Ar ôl cinio, gallech fwynhau llwybr Derwen Glas hir a hwylus, cyn rhoi cynnig ar her go iawn: Raven. Wedi'i gynllunio gan Rowan Sorrell a Brian Rumble, mae hyd yn oed y beicwyr mwyaf profiadol yn cael eu herio ar y llwybr 18.5km hwn gyda'i draciau sengl cul a'i ddisgynfeydd. Mae'n daith gyflym a thonnog gyda neidiau ac ysgafellau yng nghysgodion mwsoglyd y goedwig drwchus.
Ar ddiwedd y dydd, mwynhewch beint – ac efallai byrgyr Raven – yn y Forest Arms ym Mrechfa i orffen dau ddiwrnod o lwybrau a chyffro.
Lleoedd i fwyta:
Neuadd Arms, Cilycwm (ger Cwm Rhaeadr)
Forest Arms, Brechfa
Black Lion, Abergorlech (ger Brechfa)
Wright’s Deli & Cafe, Llanarthne (ger Brechfa)
Cinio a diodydd lleol
The Bear, Llandovery
Bwydlen Lysieuol
Flows on Marrket St., Llandeilo
Cinio a choffi arbennig