English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybrau Beicio Mynydd

Fforest Brechfa

Fforest Brechfa yw un o gyfrinachau gorau Sir Gaerfyrddin ac mae'r golygfeydd syfrdanol a'r cymoedd dwfn yn wych ar gyfer beicio mynydd.

Mae Llwybr Gorlech yn cynnwys tair dringfa a disgynfa sylweddol sy'n ymestyn am 19km. Gall beicwyr mwy profiadol brofi eu sgiliau ar lwybr heriol gradd du Raven, tra bo Llwybr Derwen yn fan cychwyn perffaith i deuluoedd a dechreuwyr.

Cyfleusterau / lluniaeth: Mae meysydd parcio am ddim â chyfleusterau i gael picnic a barbeciw. Mae tafarn y Black Lion, Abergorlech, sydd rownd y gornel o'r maes parcio, yn gyfleus dros ben i'r sawl sy'n beicio ar Lwybr Gorlech. 

Cyrraedd yno: Mae Abergorlech ar y B4310 tua 10 milltir i'r gogledd-ddwyrain o Gaerfyrddin ac 8 milltir i'r gogledd o Landeilo.

Manylion pellach: Cyfoeth Naturiol Cymru

Llwybr Raven

Mae llwybr gradd du Raven yn enwog bellach am ei fod mor heriol, ac fe'i dyluniwyd gan Rowan Sorrel a Brian Rumble, felly mae'n sicr o fod at ddant y beiciwr mwyaf eithafol hyd yn oed. Bydd Llwybr Raven yn profi eich holl sgiliau, gan fod cynifer o ddisgynfeydd cyflym untrac rhwng y coed, neidiau ac ati, sy'n eich tywys i rannau mwyaf anghysbell y fforest. Bydd coed enfawr yn tyrru drosoch wrth i chi fynd fel cath ar dân drwy'r fforest, a cheir ambell lannerch â golygfeydd gwych o'r ardal wledig gyfagos. Mae wedi'i raddio'n ddu am reswm!

Gradd: Du – Difrifol

Hyd: 18.5km

Beic: Beic mynydd o safon

Man cychwyn/gorffen: Byrgwm

 

Llwybr Gorlech

Mae llwybr gradd coch Gorlech wedi'i enwi ar ôl y nant brydferth sy'n rhedeg drwy fforest Brechfa, ond peidiwch â gadael i hyfrytwch yr enw eich twyllo! Oes mae gennych olygfeydd gwych a choed enfawr, ond yn ogystal â'r lleoliad mae rhinweddau lu yn perthyn i Lwybr Gorlech gan gynnwys hynodrwydd technegol y llwybr ei hun. Mae Llwybr Gorlech yn galed, yn gyflym, ac yn wych ym mhob tywydd, a bydd y nodweddion technegol niferus a heriol yn profi eich sgiliau i gyd, ac mae hynny oll cyn wynebu'r ddisgynfa olaf! Ond does dim rhaid i chi ein credu ni, cymerwch gip ar yr adolygiadau!

Gradd: Coch – Anodd

Hyd: 19km

Beic: Beic mynydd o safon

Man cychwyn/gorffen: Abergorlech

Llwybrau Derwen

Mae dau lwybr Derwen yn cynnig rhywbeth arbennig! Llwybr beicio mynydd i'r teuluoedd mwyaf anturus! Mae'r llwybr wedi ei raddio'n wyrdd (hawdd) ond mae darn glas (cymedrol) hefyd. Mae'r llwybrau'n addas i deuluoedd sydd â rhywfaint o brofiad o feicio ac o feicio mynydd. Bydd y darn gwyrdd yn baratoad hwylus ar gyfer y darn glas, sydd ychydig yn fwy heriol. Mae Llwybr gwyrdd Derwen yn 9.2km o hyd tra bo'r un glas yn 4.7km o hyd, sef cyfanswm o 13.9km os byddwch yn beicio'r ddau. Yn wahanol i lwybrau gwyrdd eraill, nid yw Llwybr Derwen Brechfa i gyd ar ffyrdd y fforest, ceir darnau untrac sy'n rhan o'r goedwig Dderi, dringfeydd graddol, disgynfeydd hwyliog, a throeon a fydd yn gyflwyniad go iawn i heriau beicio mynydd, heb fod yn ormod o her! Mae dau fan gwych hefyd i stopio a mwynhau'r olygfa a hyd yn oed bwrdd picnic neu ddau. Dewch â'r teulu a dechreuwch ar y llwybr gwyrdd ac ewch ymlaen i'r glas.

Gradd: Gwyrdd – Hawdd a Glas – Cymedrol

Hyd: Gwyrdd 9.2km, Glas 4.7km

Beic: Beiciau mynydd a beiciau hybrid, hynny yw beiciau â theiars ceinciog!

Man cychwyn/gorffen: Byrgwm

Cwm Rhaeadr, Cil-y-cwm

Mae Coedwig Cwm Rhaeadr, sydd ym mharthau uchaf Dyffryn Tywi ger Rhandir-mwyn a Llanymddyfri, yn un o gyfrinachau pennaf Sir Gaerfyrddin. Mae Llwybr Beicio Mynydd Cwm Rhaeadr yn untrac gradd coch o safon ac mae'n cynnwys disgynfa dros grib garegog, sydd â golygfeydd trawiadol o'r dyffryn a'r rhaeadr.

Mae gan Gwm Rhaeadr enw da am feicio cyflym a golygfeydd ysblennydd. Mae'r llwybr yn dechrau drwy ddringfa raddol 2.5km drwy'r goedwig, hyd nes eich bod yn dod mas ar dop y dyffryn. Oddi yma gallwch edmygu'r rhaeadr a chael eich gwynt atoch, cyn mynd fel y cythraul am i lawr ar hyd yr untrac technegol sy'n ymlwybro drwy'r goedwig. Mae rhannau untrac, troeon, a neidiau wrth ichi hedfan rhwng y coed ar y llwybr 3.5km am i lawr. Er mai llwybr byr yw hwn, mae'n un gwerth chweil. Mae'r holl gylchgronau'n dwlu arno ac yn rhoi adolygiadau da iawn. Ewch ddwywaith os ydych am lwybr hirach.

Gradd: Coch – Anodd

Hyd: 6.7km

Beic: Beic mynydd o safon yn unig

Man cychwyn/gorffen: Cil-y-cwm

Lluniaeth: Neuadd Arms yng Nghil-y-cwm

Manylion pellach: Cyfoeth Naturiol Cymru

Hafod Trails

Mae Hafod Trails, a agorwyd yng ngwanwyn 2024, yn Hafod Wen ar gyrion Fforest Brechfa.

Mae Hafod Trails ar gyfer cymysgedd o alluoedd, gan gynnig 5 llwybr, sy'n cynnwys rhai glas, coch a du sy'n mynd i lawr 100m yn fertigol. Mae'r llwybrau yn addas i deuluoedd, beicwyr profiadol a hyd yn oed rasys enduro, ac maen nhw'n cynnig cymysgedd o lif ac agweddau technegol a theimlad naturiol eich bod 'oddi ar' y llwybr fel petai.

Mae gwasanaeth cludo effeithlon iawn ar gael i gyrraedd yr holl lwybrau sy'n cynnwys trelars hawdd eu llwytho a fydd yn mynd â chi i ben y llwybrau, felly mae'r daith i gyd lawr rhiw ar ôl hynny!

Y bwriad yw creu neidiau yn y dyfodol ond fyddwch chi ddim yn gweld unrhyw beth pwrpasol i neidio i'r awyr, ar wahân i roleri dwbl neu ddefnyddio'r nodweddion naturiol. Hefyd mae'n barc beiciau ar gyfer plant a theuluoedd i raddau helaeth, wedi'r cyfan dyna lle dechreuodd y cyfan ar gyfer Hafod, a gafodd ei ddatblygu mewn gwirionedd mewn ymateb i'r parciau beicio mwy.

Ar hyn o bryd mae Hafod Trails ar agor ddydd Gwener i ddydd Sul a Gwyliau Banc (archebu ymlaen llaw yn unig) gyda gwasanaethau i gludo beicwyr i fyny i ben y llwybrau mewn tryc, a hynny rhwng 10am a 4pm. Mae'r pris yn dechrau ar £20 (dan 15 oed), ac yn ogystal â'r llwybrau, bydd y safle'n cynnig bwyd cartref lleol drwy gydol yr oriau agor, gan roi cyfle i feicwyr ymlacio a chymryd seibiant cyn mynd nôl ati i feicio.

Gradd: o las - addas i feicwyr newydd, i ddu - beicwyr profiadol

Lluniaeth: Ar y safle

Beic: Un sy'n addas ar gyfer eich gallu a'r llwybrau rydych chi'n mynd arnynt

Manylion pellach: www.hafodtrails.co.uk

Llwybrau oddi ar y ffordd

Os ydych chi'n chwilio am lwybrau haws i ddechrau eich anturiaethau beicio mynydd, neu'n chwilio am lwybrau sy'n addas i deuluoedd mae gennym barciau gwych sy'n gallu cynnig amrywiaeth gwych i chi.

Parc Gwledig Pen-bre

Parc gwledig penigamp â choedwig fawr a thraeth euraid wyth milltir o hyd. Mae nifer o lwybrau beicio addas i deuluoedd yn y goedwig. Mae modd llogi beiciau ar y safle yn y Ganolfan Sgïo.

Gradd: Heb ei raddio, ond buasai’n Wyrdd (hawdd) petai wedi

Beic: Beiciau mynydd a beiciau hybrid, h.y. beiciau â theiars ceinciog!

Man cychwyn/gorffen: Maes parcio’r parc gwledig

Lluniaeth: Mae bwyd a diod ar gael yn y parc ac mae dewis o dafarndai a chaffis gwych gerllaw ym Mhen-bre, Porth Tywyn a Chydweli.

Manylion pellach: www.parcgwledigpenbre.cymru

Llyn Llech Owain

Parc gwledig gwych wedi'i leoli o amgylch llyn hanesyddol a mytholegol, sy'n adnabyddus am ei fywyd gwyllt. Mae llwybrau a pharc chwarae i blant ond hefyd llwybr beicio a beicio mynydd o amgylch y llyn. Mae'n llwybr byr ond mae'n cynnig golygfeydd gwych. Mae caffi ar y safle yn darparu lluniaeth ac mae digon o leoedd parcio.

Gradd: Heb ei raddio, ond petai wedi'i raddio byddai'n Wyrdd – Hawdd

Beic: Beiciau mynydd a beiciau mynydd/ffordd hybrid, hynny yw beiciau â theiars ceinciog!

Man cychwyn/gorffen: Maes parcio'r parc gwledig

Lluniaeth: Mae gan Lyn Llech Owain gaffi ar y safle, mae detholiad o dafarndai a chaffis / bwytai ar gael yn Cross Hands a Gors-las gerllaw hefyd.

Manylion pellach: www.parcgwledigpenbre.cymru

 

Crychan Forest

Mae Coedwig Crychan wedi bod yn boblogaidd gyda cherddwyr a marchogion erioed; mae'r coedwigoedd helaeth, y coed mawr hardd, y bywyd gwyllt a'r golygfeydd gwych yn golygu bod y goedwig yn ffefryn gan bawb. Bellach gallwch fwynhau'r goedwig o'ch beic, ac mae nifer o lwybrau beicio y maent oll yn addas i deuluoedd sy'n chwilio am lefydd i feicio oddi ar y ffordd mewn lleoliad trawiadol.
Dewiswch o bum llwybr gwahanol y gallwch ymuno â nhw o'r pedwar maes parcio sydd yn y goedwig:

Brynffo – Esgair Fwyog – 7.1km
Golygfa Epynt – 13.5km
Cwm Coed Oeron – 12.8km
Allt Troedrhiw-fer – 4km
Allt Troedrhiw-fer – cyswllt Golygfa Epynt – 4.9km

Gradd: Heb eu graddio ond petaent wedi'u graddio byddent yn Wyrdd – Hawdd

Hyd: 4km – 15km

Beic: Beiciau mynydd a beiciau hybrid, hynny yw beiciau â theiars ceinciog!

Man cychwyn/gorffen: Pedwar maes parcio Coedwig Crychan.

Lluniaeth: Mae gan Lanymddyfri ddewis o dafarndai a chaffis da.

Manylion pellach: www.crychanforest.org.uk

MTB Trail Thrillogy

Dewch i fwynhau gwyliau beicio