English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybr Arfordir Cymru

Llwybr Arfordir Cymru

Gan fod Llwybr Arfordir Cymru yn dathlu ei 10fed pen-blwydd, mae 2022 yn amser perffaith i grwydro ar hyd y llwybr 67 milltir yn Sir Gaerfyrddin, o Amroth yn y gorllewin i Lanelli yn y dwyrain. Mae'r llwybr o Amroth i Bentywyn yn cynnig golygfeydd trawiadol, clogwyni uchel a thraeth enwog Pentywyn lle mae llawer o recordiau cyflymder ar dir yn cael eu torri.

Gall y rhai sy'n hoff o ddiwylliant fynd am dro o amgylch Talacharn, sef lleoliad Cartref Dylan Thomas a'i sied ysgrifennu lle ysgrifennodd yr awdur nifer o'i weithiau. Mae taith gerdded Dylan yn 3 milltir ac yn braf iawn - gallwch weld Castell Talacharn yn hawdd!

Mae teithiau cerdded hyfryd ym mhentref Llansteffan sy'n cynnig golygfeydd o glogwyni, lonydd gwledig tawel a baeau cudd. Ac efallai, yn well na dim, mae adfeilion tywyll eu naws castell Llansteffan ar y pentir yn edrych ar draws Aber Afon Tywi a Bae Caerfyrddin. Mewn mannau, mae Llwybr yr Arfordir yn anelu i mewn i'r tir o amgylch aberoedd yr afon Taf, Tywi a Gwendraeth, gan fynd drwy dref sirol brysur Caerfyrddin.

Mae Parc Gwledig Pen-bre wedi'i leoli mewn 500 erw o goetir sydd ar hyd 8 milltir o draeth euraidd. Dyma'r lleoliad delfrydol i fwynhau natur yn ei holl ogoniant. Wrth i chi adael Pen-bre, byddwch yn ymuno ar unwaith â Llwybr Arfordirol y Mileniwm sy'n 17 milltir o hyd, yn ddi-draffig ac yn wastad ac sy'n cynnig golygfeydd godidog o Benrhyn Gŵyr ac yn eich arwain trwy dref harbwr Porth Tywyn. Gallwch gerdded, beicio neu loncian yr holl ffordd i Lanelli, tref fwyaf Sir Gaerfyrddin, a oedd yn ganolbwynt y diwydiant tun ar un adeg ond sydd bellach yn ennill bri fel cyrchfan hamdden a thwristiaeth.

Wrth gerdded yn Sir Gaerfyrddin cewch werthfawrogi'r gwahanol dymhorau: gall yr un daith gerdded deimlo ac edrych yn wahanol iawn o'r Haf i'r Gaeaf, o'r Gwanwyn i'r Hydref.

Y Bynea i Lanelli - 10km/6milltir
Llanelli i Gydweli - 21km /13m
Cydweli to Lanyfferi - 8km/5m
O Lanyfferi i Gaerfyrddin -14km/9m
O Gaerfyrddin i Lansteffan - 15km/9m

Llansteffan to Sanclêr - 16km/10m
Sanclêr i Dalacharn - 8km/5m
Lacharn i Amroth - 16km/10m

Taflen Llwbyr Arfordir Cymru

Lawrlwythwch neu archebwch y daflen am lwybr Sir Gâr. Mae gan bob taflen adran basbort lle rhennir y rhanbarth cyfan yn rhestr o deithiau cerdded llai o 4 neu 5 milltir rhwng trefi a phentrefi (yn bennaf). Dyma eich cofnod chi o pryd a ble rydych chi wedi ymweld. Gallwch chi deipio neu ysgrifennu’r dyddiad cwblhau a'i dicio oddi ar eich rhestr gyda balchder neu a'i chadw ar eich wal i gynllunio eich taith nesaf!

Awgrymiadau defnyddiol ar gyfer cerdded Llwybr yr Arfordir

Dylai cerdded yr arfordir fod yn brofiad diogel a dymunol. Mae’n werth ystyried y pwyntiau isod, yn enwedig os nad ydych wedi arfer cerdded, os yw’r tywydd yn debygol o fod yn wael neu’n gyfnewidiol neu os ydych yn bwriadu rhoi cynnig ar rai o’r llwybrau hir neu anghysbell.

Ewch i wefan Adventure Smart i gael syniadau ac awgrymiadau defnyddiol ynghylch gwirio'r rhagolygon tywydd, gan wneud yn siŵr bod gennych yr offer priodol a'r sgiliau i'ch cadw'n ddiogel wrth fwynhau'r awyr agored.

Dilynwch y Côd Cefn Gwlad - canllaw defnyddiol i barchu, diogelu a mwynhau'r awyr agored.

Ail-lenwch eich potel ddŵr ar y ffordd

Mae’n ofnadwy o bwysig eich bod chi’n yfed digon o ddŵr ar eich taith. Mae modd i chi ail-lenwi eich potel ddŵr wrth gerdded y llwybr, sy’n wych i’r amgylchedd gan ei fod yn lleihau’r nifer o boteli dŵr plastig a ddefnyddir.

Mae Refill yn gynllun ar draws y DU lle mae caffis, gwestyau, a gwerthwyr ‘bwyd i fynd’ yn caniatáu i bobl ofyn am lenwi eu poteli dŵr â dŵr tap – a hynny i gyd am ddim.

Ewch i wefan Refill a lawrlwytho’r ap Refill er mwyn canfod eich Gorsaf Refill leol, a chael digon o ddŵr ar eich taith.

Llwybr Arfordir Cymru

Cynllunio'ch Ymweliad