English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Sir Gaerfyrddin yn serennu ar y sgrin

 

Mae Sir Gaerfyrddin wedi dod yn ffefryn gyda sgowtiaid lleoliad o fyd teledu a ffilm, a hynny oherwydd y tirweddau syfrdanol, y trysorau hanesyddol a'r llu o leoliadau atmosfferig.

Mae ein canllaw set jetters yn gyfle i ailymweld â lleoliadau sydd wedi serennu ar y sgrin, boed mewn cyfres boblogaidd ar y teledu, ffilm fawr yn Hollywood neu’n un o nifer o gynyrchiadau newydd ‘Celtic Noir’, y genre tywyll a gafaelgar sy’n tynnu ar dirweddau unigryw a mytholeg gyfoethog y sir. Yn wir, mae Sir Gaerfyrddin a Celtic Noir yn sicr yn creu lle i gystadlu â Nordic Noir gyda'r holl ffilmio sy'n digwydd ar draws y sir gyda thref farchnad ddeniadol Llanymddyfri yn ffefryn go iawn.

Cewch eich syfrdanu gan ein harfordiroedd a'r chwilota sy'n ffefryn gan Ainsley Harriott fel rhan o the Best of Britain by the Sea. Neu, crwydrwch o amgylch Talacharn, lleoliad syfrdanol ar gyfer llawer iawn o gyfres boblogaidd y BBC 'Un Bore Mercher' ac yna galwch draw i Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin, canolbwynt y ffilm ddiweddar '‘Save the cinema’ ac sy'n rhan o stori wir lle arbedwyd y tirnod hanesyddol hwn rhag cael ei ddymchwel.

 

Cynyrchiadau Teledu

1. Out There, 2025

Yn serennu: Martin Clunes

Lleoliad ffilmio: Llanymddyfri

Mae drama gyffrous ‘Celtic Noir’ arall a gomisiynwyd gan ITV wedi’i ffilmio yn Sir Gaerfyrddin ac yn cael ei darlledu yn gynnar yn 2025. Mae Out There, gyda Martin Clunes a Louis Ashbourne Serkis, a ysgrifennwyd gan Ed Whitmore a Marc Evans wedi'i chynhyrchu gan Buffalo Pictures ac mae tref farchnad Llanymddyfri yn ymddangos trwy gydol y gyfres. 

Llinellau cyffuriau a'r cynnydd mewn troseddau yng nghefn gwlad Prydain sydd dan sylw. Fel ffermwr, mae Martin Clunes yn wynebu bygythiadau i'w gymuned wledig.

Bwyta... The Bear, Llanymddyfri

Cysgu... Gwely a Brecwast y Drovers, Llanymddyfri

Chwarae... Cerdded i fyny i Lyn Y Fan Fach

 

2. Y Golau, 2022

Yn serennu: Joanna Scanlan, Iwan Rheon ac Alexandra Roach

Lleoliadau ffilmio: Llanymddyfri, Llangadog, Llandeilo, Caerfyrddin 

Mae’r ddrama gyffrous hon sy'n serennu Joanna Scanlan, Iwan Rheon ac Alexandra Roach yn sôn am ddynes sy’n dal i alaru am ei merch a ddiflannodd 18 mlynedd yn ôl. A all hi ddarganfod y gwir? 

Disgwylir ail gyfres o’r ‘Celtic Noir’ poblogaidd hwn cyn hir.

Bwyta... Y Castell, Llangadog

Cysgu... Y Cawdor, Llandeilo 

Chwarae... Parc a Chastell Dinefwr, Llandeilo 

3. Disney+ series Willow, 2022

Yn serennu: Warwick Davis

Lleoliad ffilmio: Pentywyn

Cafodd y ffilmio ar gyfer ail-wneud y ffilm ffantasi Willow o'r 1980au ei gynnal ar draeth Pentywyn gyda'r actor Warwick Davis yn serennu.

Mae Warwick yn ail-chwarae ei rôl yn y ffilm Willow wreiddiol, a wnaed yn 1988, lle mae’n chwarae rhan y corrach Willow Ufgood sy’n amddiffyn babi o’r enw Elora Danan rhag brenhines ddrwg (Jean Marsh).

Bwyta... Bwyty Tsieineaidd Lotus, Pentywyn 

Cysgu... Caban, Pentywyn

Chwarae... Cerddwch ar hyd y rhan o Lwybr Arfordir Cymru rhwng Amroth a Phentywyn 

4. Best of Britain By the Sea, 2022

Yn serennu: Ainsley Harriott a Grace Dent

Lleoliad ffilmio: Pentywyn, Llansteffan, 

Mae Ainsley Harriott a Grace Dent yn ymweld â rhai o berlau glan môr Sir Gaerfyrddin ac yn blasu ryseitiau blasus fel rhan o gyfres sy’n edrych ar y mannau arfordirol gorau o amgylch y DU. Roedd y ffilmio yn cynnwys chwilota am fwyd môr ar Draeth Llansteffan a Chawl Cymreig traddodiadol.

Bwyta... Cawl yn  Y White Hart, Llanddarog

Cysgu... Inn at the Sticks, Llansteffan 

Chwarae... Fforio Arfordirol gyda Craig

5. A Discovery of Witches, 2018 - 2022

Yn serennu: Matthew Goode, Teresa Palmer, Valarie Pettiford

Lleoliad ffilmio: Plasty a Gerddi Aberglasne, Llangathen

Defnyddiwyd rhan o Abserglasne ar gyfer Sept-Tours, sef cartref teulu de Clermont yn y ddrama deledu oruwchnaturiol wych hon. Mae Aberglasne wedi'i henwi'n un o'r 10 gardd ffurfiol orau yn y DU gan RHS. Mae'r tiroedd 10 erw yn cynnwys gardd glawstrog unigryw o Oes Elisabeth, Ninfarium sydd wedi ennill gwobrau, gardd dan do sy'n llawn planhigion isdrofannol ac ystafelloedd te hyfryd.

Bwyta… Mae Y Polyn, Capel Dewi, rhwng Caerfyrddin a Llandeilo yn gweini bwyd gwych.

Cysgu… Mae dau fwthyn gwyliau 5* hyfryd i'w rhentu ar safle gerddi  Aberglasne hefyd.

Chwarae... Mae'n werth ymweld â Llandeilo i weld yr ystod o siopau bwtîc annibynnol.

6. Un Bore Mercher, 2017 - 2021

Yn Serennu: Eve Myles

Lleoliadau ffilmio: Y rhan fwyaf o Sir Gaerfyrddin!

Mae'r rhaglen wedi'i lleoli mewn tref ffug o'r enw Abercorran, sef Talacharn mewn gwirionedd, a Sir Gaerfyrddin unwaith eto sydd wedi darparu llawer o brif leoliadau'r gyfres. 

Traeth Pentywyn - Saith milltir o dywod euraidd sy'n ymestyn i'r gorwel yn y pellter - dyna draeth go iawn. Nid oes rhyfedd ei fod mor boblogaidd ymhlith teuluoedd.

Talacharn - Yn Nhalacharn y mae cartref Faith, a gallwch weld y castell a'r Stryd Fawr ddeniadol ar y sgrin fach.

Llansteffan - Cafodd y lleoliad newydd hwn ei gynnwys yn yr ail gyfres. Mae gan Lansteffan, ar aber Afon Tywi, gastell Normanaidd ysblennydd a thraeth arbennig iawn. Mwynhewch sglodion a physgod blasus o Florries ar Draeth Llansteffan.

Caerfyrddin - Mae'r Neuadd Sirol hanesyddol yng Nghaerfyrddin yn cael ei defnyddio fel y llys. Mae Faith hefyd i'w gweld ym mhrif sgwâr y dref yn aml.

Bwyta… Mae The Warren, yng Nghaerfyrddin yn cynnig bwyd maethlon a dewisiadau gwych i lysieuwyr.

Cysgu…  Mansion House, Llansteffan

Chwarae... Os ydych am fod yn egnïol... ewch ar feic i fwynhau taith gylch dros 60 milltir o Gestyll Dyffryn Tywi.

7. Dr Who 

Yn serennu: David Tennant, Lindsay Duncan

Lleoliadau ffilmio: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne

Y gromen yn y gerddi gwych hyn, a ddyluniwyd gan Norman Foster and Partners, yw'r tŷ gwydr un bwa mwyaf yn y byd, ac fe'i defnyddiwyd fel y Ganolfan Hydroponeg mewn pennod arbennig o Dr Who o'r enw The Waters of Mars. Hefyd yn y gerddi y mae Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, Plas Pili-Pala trofannol, lleoedd chwarae a gwarchodfa natur genedlaethol, yn ogystal â chaffis.

Bwyta… Mwynhewch fwyd lleol blasus yn Wright’s Food Emporium, Golden Grove Arms, Llanarthne. 

Cysgu… Ewch i Home Farm House yr Ymddiriedaeth Genedlaethol ar Ystâd Dinefwr.

Chwarae... Crwydrwch y gerddi, wrth gwrs!

8. Traitors

Yn serennu: Keeley Hawes, Emma Appleton, Michael Stuhlbarg

Lleoliadau ffilmio: Castell y Strade, Llanelli

Drama gyffrous Channel 4 â chwe rhan am was sifil Prydeinig a ddaeth yn ysbïwr ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae'r lleoliadau ffilmio wedi cynnwys Castell y Strade, sef plas rhestredig Gradd II o Oes Fictoria, mewn lleoliad tawel y tu allan i Lanelli. Mae Patrick Mansel Lewis, y perchennog presennol, yn arwain Teithiau Treftadaeth awr o hyd yn y prynhawn ar y dydd Sul cyntaf a'r trydydd dydd Sul bob mis rhwng Ebrill a Medi, sy'n costio £10 i oedolion ac yn cynnwys lluniaeth ysgafn, 01554 774626.

Bwyta…  Ewch i  Machynys Bar & Brasserie 

Cysgu… Mwynhewch aros yng Ngwesty'r Diplomat, Llanelli.

Chwarae... Ewch i Barc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli 

9. Decline & Fall, BBC TV 2017

Yn serennu: Jack Whitehall, Eva Longoria and David Suchet

Lleoliadau ffilmio: Castell y Strade a Pharc Gwledig Gelli Aur

Roedd tair rhan i'r gyfres deledu hon a oedd yn addasiad clyfar o nofel Evelyn Waugh. Aeth David Suchet a Jack Whitehall i ffilmio yng Nghastell y Strade ar gyfer rhai o'r golygfeydd allweddol, gan ddefnyddio'r plasty Gothig diarffordd a mawreddog i'w botensial llawn. Gwnaethant hefyd ffilmio ym Mharc Gwledig Gelli Aur, lle mae'r tiroedd a'r caffi bellach ar agor i'r cyhoedd ac mae'r ystâd yn cael ei hadnewyddu.

Bwyta… Rhowch gynnig ar The Welsh House, Caerfyrddin

Cysgu…  Plas Glangwili, gwesty gwely a brecwast moethus ger Fforest Brechfa.

Chwarae.... Ewch ar daith ar  Reilffordd Ager Gwili

10. Top Gear

Yn serennu: Paddy Mc Guinness, Freddie Flintoff & Chris Harris

Heol y Mynydd Du: Mae heol y Mynydd Du (A4069) yn ffordd enwog sy’n troelli, gan ostwng a dringo yn rhan orllewinol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae golygfeydd heb eu hail arni a byddwch am yrru arni dro ar ôl tro. Gofalwch rhag taro dafad!  Gallwch ddisgwyl rhannau cyflym a thyn, a hynny dan olygfeydd godidog. Mae’r ffordd hon wedi dod yn boblogaidd iawn ers iddi gael sylw ar Top Gear nôl yn 2011, ac fe’i gelwir hefyd yn ‘Top Gear road’, ar ôl i Jeremy Clarkson gael ei ffilmio yn gyrru arni. 

Traeth Pentywyn: Dyma draeth arobryn ac iddo ddwy ran. I gyfeiriad y gorllewin mae clogwyni trawiadol â llwybrau ar hyd eu hymylon ynghyd â llawer o byllau glan môr yn cysylltu â Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro (cafodd yr ardal hon ei defnyddio yn ystod yr Ail Ryfel Byd i ymarfer ar gyfer glaniadau 'D-Day'!).  I gyfeiriad y dwyrain, mae 7 milltir o draeth tywodlyd godidog, lle torrwyd recordiau cyflymder y byd ar dir, ac mae'r Weinyddiaeth Amddiffyn yn ei ddefnyddio'n rhan-amser.  Noder: Dyma le torrodd yr actor Idris Elba record brydeinig cyflymder y byd dros dir Syr Malcolm Campbell.

Bwyta… BLAS, Rhydaman

Cysgu… Ystâd Glynhir

Chwarae… Cofiwch hefyd alw yn Siop goffi arbennig Coaltown Coffee.

Ffilm

1. Save The Cinema, 2022

Yn serennu: Samantha Morton, Tom Felton, Jonathan Pryce, Adeel Akhtar, Erin Richards.

Lleoliad ffilmio: Caerfyrddin

Wedi’i lleoli yn y 90au, mae Save The Cinema wedi’i hysbrydoli gan fywyd Liz Evans, (Samantha Morton), triniwr gwallt ac asgwrn cefn y gymuned leol yng Nghaerfyrddin. Mae’r stori wir hon yn adrodd ei stori wrth geisio atal Theatr y Lyric rhag cael ei dymchwel gan deirw dur a’i throi’n ganolfan siopa. Gyda'r bygythiad o ddymchwel yn dod yn fwyfwy tebygol, mae Liz a'i ffrindiau yn cau eu hunain yn y sinema a chyda chymorth y postmon sydd wedi troi'n gynghorydd lleol, Richard (Tom Felton), maen nhw'n llunio cynllun mawreddog.  

Bwyta... Y Barbican, Caerfyrddin

Cysgu... Plas Glangwili gwesty gwely a brecwast moethus ger Fforest Brechfa.

Chwarae... Gwyliwch sioe yn Theatr y Lyric wrth gwrs!

2. Six Minutes to Midnight, 2020

Yn serennu: Judi Dench, Jim Broadbent, James D’Arcy, Eddie Izzard

Lleoliad ffilmio: Llansteffan

Parc Gwledig Gelli Aur, bedair milltir o Landeilo, oedd y prif leoliad ffilmio ar gyfer y ffilm gyffrous hon wedi'i seilio yn y 1930au, yn ogystal â Llansteffan. Yn ystod y gwaith ffilmio mwynhaodd y Fonesig Judi hufen iâ Joe's ac aeth i'r Cawdor lle'r oedd hi'n dwlu ar y proffiteroliau.

Bwyta… Mae Tregeyb Arms, Llandeilo yn gweini bwyd ardderchog.

Cysgu… Llwynhelig Manor, Llandeilo.

Chwarae... Mwynhewch draeth Llansteffan, ei dywod meddal llawn cregyn cocos, lle mae yna feinciau a byrddau picnic. Gallwch barcio gerllaw mewn maes parcio mawr.

3. Pride, 2014

Yn serennu: Bill Nighy, Imelda Staunton, Dominic West

Lleoliad ffilmio: Carreg Cennen Castle

Mae'r ffilm gomedi-ddrama hon yn seiliedig ar stori ymgyrchwyr hoyw a helpodd lowyr yn ystod streic hir Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn ystod haf 1984. Mae wedi'i ffilmio mewn nifer o leoliadau yng Nghymru, ond yr un hawsaf ei adnabod yw'r castell trawiadol hwn, a gafodd ei adeiladu ar fryn oddeutu 1277 ym mhentref Trap, bedair milltir i'r de o Landeilo. 

Bwyta… Mae Pitchfork and Provision, Llandeilo, yn cynnig prydau hyfryd (a tecawê) o fwydydd lleol….

Cysgu… Yn Y Plough yn Rhos-maen, tua milltir i ffwrdd o Landeilo yn ardal brydferth Dyffryn Tywi.

Chwarae... Gallwch weld rhannau o'r lleoliad ffilmio drwy gerdded ar un o'r teithiau cerdded godidog sy'n mynd o amgylch y castell.

4. The Edge of Love, 2008

Yn serennu: Keira Knightley, Sienna Miller, Matthew Rhys

Lleoliad ffilmio: Talacharn

Wrth gwrs, cafodd rhai rhannau o'r ffilm hon, sy'n seiliedig yn fras ar fywyd Dylan Thomas, eu ffilmio yn Nhalacharn, y dref brydferth lle y bu'r awdur enwog a'i deulu'n byw. 

Bwyta… Mae The Ferryman Deli, yng nghanol y dref, yn lle gwych i gael cinio. Neu gallwch roi cynnig ar y swper ym mwyty Dexters yng Ngwesty Brown's

Cysgu… Gwesty Brown’s, Dyma oedd hoff dafarn Thomas, sydd wedi troi'n westy

Chwarae... Mae'r atyniadau'n cynnwys Cartref Dylan Thomas, ei sied ysgrifennu a thaith gerdded dwy filltir sy'n dathlu ei gerdd am ei ben-blwydd yn 30 oed.

5. Stardust, 2007

Yn serennu: Michelle Pfeiffer, Charlie Cox, Claire Danes, Robert de Niro 

Lleoliad ffilmio: Llyn Y Fan Fach

Nid yw'n peri syndod bod llawer o ffilmiau yn ogystal â'r ffilm ramantus boblogaidd hon wedi tynnu sylw at Lyn y Fan Fach, sef y llyn rhewlifol 20,000 oed ger Llangadog. Cadwch lygad amdano yn King Arthur (2004, Clive Owen a Keira Knightley) hefyd. Lleolir y llyn ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

Bwyta… I gael bwyd cartref go iawn, Y Castle, Llanymddyfri yw'r lle perffaith.

Cysgu… Gallwch aros yn  Y Cawdor, yr adeilad coch mawr a thrawiadol yng nghanol tref farchnad Llandeilo.

Chwarae... Mae gweithgareddau ar gael ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gan gynnwys cerdded, beicio a gwylio adar, a chofiwch edrych i'r wybren dywyll ryfeddol yn ystod y nos.

6. Monty Python and the Holy Grail, 1975

Yn serennu: John Cleese, Michael Palin, Eric Idle, Graham Chapman, Terry Gilliam

Lleoliad ffilmio: Castell Cydweli, Cydweli

Ar ddechrau'r ffilm gwlt hon, sy'n barodi doniol dros ben o chwedl y Brenin Arthur, mae'n dangos y Brenin (Chapman) a'i sgweier Patsy (Gilliam) yn agosáu at Gastell Cydweli, ar ddiwrnod niwlog iawn. Mae'n gastell Normanaidd sydd mewn cyflwr da yn edrych dros y dref ac Afon Gwendraeth.

Eat… Ewch i siopa a mwynhau cinio yn Siop Fferm a Chaffi Parc Y Bocs

Sleep… Arhoswch ym Mhorth Tywyn gerllaw ym Nik The Greek Restaurant with Rooms.

And play... Gallwch gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, 5.25 milltir/8.5 cilometr, sy'n rhoi golygfeydd godidog ar draws tri aber afon a Phenrhyn Gŵyr.