Mae tref farchnad hardd Llandeilo yn cyfuno traed y ffermwyr â ffasiwn wledig. Ar ben bryn yn edrych allan dros Afon Tywi, mae ei strydoedd culion a’i thai Sioraidd lliwiau golau yn rhedeg i lawr at y bont garreg, un bwa, drawiadol islaw. Does dim rhyfedd i Landeilo gael ei henwi gan y Sunday Times ymhlith y lleoedd gorau i fyw yng Nghymru.
Ond, yn wahanol i lawer o leoedd eraill yn y byd sy’n haeddu eu lle ar Instagram, fyddwch chi ddim yn eich cael eich hun yn gwneud eich ffordd drwy ganol ugeiniau o bobl yn tynnu lluniau efo’u ffonau symudol bob 25 metr.
Cafodd Meinir Howells ei magu ar fferm yng Nghapel Isaac, lai na 2 filltir o Landeilo. Mynychodd yr ysgol yn y dref ac mae hi’n dal i ffermio gerllaw gyda Gary, ei gŵr. Mae hi’n adnabyddus fel cyflwynydd sioe ffermio ar S4C; mae ffermio a Llandeilo yn dal yn agos at ei chalon. Dywedodd fwy wrthym am y dref y mae hi mor hoff ohoni.
Mae Llandeilo wedi newid ychydig ers ei dyddiau ysgol hi ond, i Meinir, mae’r teimlad cryf o gymuned yn dal yn amlwg. Dywed fod y bobl sydd wedi tyfu i fyny yma bob amser yn awyddus i ddychwelyd a bod y bobl sy’n dod i mewn i’r ardal bob amser yn cael croeso. Yn naturiol, mae hi o’r farn fod ffermio wrth galon y gymuned; “tynnwch y ffermwr hwnnw allan ac fe gollwch y gymuned, y Gymraeg, y diwylliant a phopeth sy’n mynd gydag ef.”
Steil Bwtîc
Heddiw, mae Llandeilo yn gyrchfan siopa boblogaidd ymhlith ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Cânt eu denu i Landeilo oherwydd ei bod yn braf o brin o’r siopau cadwyn sydd mor gyffredin mewn trefi eraill ym Mhrydain. Yn hytrach, mae Llandeilo’n ymfalchïo yn ei dewis eang o fasnachwyr annibynnol a siopau hen bethau anghyffredin. Mae perchnogion y siopau yn cymryd y gelfyddyd o osod ffenestr o ddifrif yma ac yn aml ceir cystadleuaeth am yr arddangosfa dymhorol fwyaf cywrain ac unigryw.
Llandeilo yw cartref gwreiddiol brand dillad a dull o fyw rhyngwladol Toast. Heddiw, mae Stryd Rhosmaen a’r strydoedd oddi arni, yn llawn o siopau safonol a siopau bwtîg megis Bellissimo, Dot Clothing, The Lighthouse, Monsho, Relm Wear Rig Out a Barr & Co.
Mae’r Lleol ar y Fwydlen
Pan fyddwch wedi siopa nes bron cwympo, byddwch yn bendant yn chwilio am siop goffi neu far i gael hoe ac i edmygu’r pethau a brynwyd gennych. Unwaith eto, mae Llandeilo’n ennill gydag amrywiaeth o gaffis, barau a thai bwyta llawn cymeriad. Mae Meinir yn awyddus i dynnu sylw at eu hymrwymiad i ddefnyddio cynnyrch lleol.
Gallwch siopa, bwyta, yfed ac ymlacio yn Davis and Co. Bwyd lleol yn cael ei baratoi'n ffres ar gyfer pob archeb. Bwyd blasus dros ben, ac mae croeso i gŵn y tu mewn a'r tu allan.
Os mai siocled sydd arnoch ei eisiau, yna Heavenly yw’r lle i chi. Mae Meinir yn hoff o’u hufen iâ yn arbennig. Roeddem wrth ein bodd â’r un blas teisen gaws fefus!
Ar gyfer picnic perffaith ewch draw i Pitchfork and Provision; becws a chaffi annibynnol yng nghanol Llandeilo. Ac os mai rhywbeth melys sydd at eich dant, rhaid mynd i Duffnuts i gael donyts ac ysgytlaeth cartref blasus.
Gwlad y Cestyll
Mae gan Gymru fwy o gestyll y filltir sgwâr nag unrhyw wlad arall yn y byd ac mae gan y gornel hon o Sir Gaerfyrddin fwy na’i siâr ohonynt.
Y tu allan i Landeilo, mae i Gastell Dinefwr le o bwys yn hanes Cymru. Dyma hefyd ddewis Meinir o le i fynd am dro yn y wlad. Y gaer hon, sy’n sefyll ar gopa bryn yn edrych allan dros Ddyffryn Tywi, oedd y fan lle’r arferai’r Arglwydd Rhys gynnal ei lys yn y 12fed ganrif, gan wneud penderfyniadau pwysig ynghylch Cymru. Mae ystâd 800-acer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol lle saif y castell hefyd yn gartref i Blas Dinefwr o’r ail ganrif ar bymtheg, Gwarchodfa Natur Genedlaethol tir parc gyntaf Cymru a pharc tirlun o’r 18fed ganrif, yn amgáu parc ceirw canoloesol.
Oddeutu pum milltir i’r de-ddwyrain o Landeilo, fe ddewch ar draws olion Castell Carreg Cennen. Rydym yn sicr y cewch drafferth i ddod o hyd i gastell mwy dramatig na hwn. Yn sefyll ar glogwyn calchfaen 90-metr o uchder, mae amlinelliad Carreg Cennen yn amlwg iawn ar y gorwel am filltiroedd o gwmpas. Dywedir mai Urien, un o farchogion y Brenin Arthur, a’i hadeiladodd yn gaer iddo’i hun. Mae’r cyfuniad o’i leoliad trawiadol, ei hanes cyfoethog a’i gysylltiad â chwedl Myrddin yn golygu bod Carreg Cennen yn ymddangos yn rheolaidd ar restrau o’r lleoedd mwyaf rhamantus yng Nghymru.
Ail-lenwi ac Adfywio
Ar ôl y wledd i’r llygaid yn y prynhawn, cewch wledd i’r stumog os ewch am ginio yn y Cawdor. Mae’r lliw coch llachar ar y tu allan yn ei gwneud yn anodd methu â’i weld ar stryd fawr Llandeilo. Mae tu mewn y gwesty’n fwy hamddenol o lawer; soffa drwchus gyfforddus, tanau coed a bar clyd. P’un a fyddwch yn dewis cinio ffurfiol yn y tŷ bwyta neu bryd hamddenol yn y bar, ni ddylai neb adael heb roi cynnig ar y pwdin taffi hen-ffasiwn.
Llenwch y bola yn barod am ddiwrnod arall ar grwydr yn Flows ar Stryd y Farchnad; Bar Caffi yng nghanol Llandeilo sy'n gweini bwyd a diod blasus. Maen nhw'n defnyddio cynhwysion lleol ble bynnag bo modd, ac yn cynnig popeth o Wyau Benedict a Florentines i fagels Brecwast. Os ydych chi'n mwynhau Tapas, gwnewch yn siŵr eich bod yn mynd yno ar nos Sadwrn (mae'n well archebu!)
Sir Gerddi Cymru
Mae dwy ardd wahanol iawn ond yr un mor atyniadol yn cystadlu am eich sylw yn y rhan hon o Sir Gaerfyrddin.
Mae Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a agorodd yn 2000, yn 560 o aceri gydag amrywiaeth o erddi ar themâu a’r tŷ gwydr â’r rhychwant sengl mwyaf yn y byd ymhlith ei hatyniadau. Os byddwch yn ymweld â’r ‘Pi’, cerflun cyfoes mawr yn y gerddi, cewch weld un arall o’n trysorau hanesyddol gerllaw, Tŵr Paxton. Adeiladwyd y ffug-dŵr Neo-Gothig er anrhydedd i’r Arglwydd Nelson a chynlluniwyd ‘Pi’ yn benodol fel y ffrâm berffaith ar ei gyfer.
Ychydig o funudau i ffwrdd, ond fyd ar wahân o’i gymharu, caech faddeuant am feddwl eich bod wedi crwydro i mewn i set drama gyfnod yng Ngerddi Aberglesni. Mae ei erddi muriog ffurfiol yn dyddio o Oes Elizabeth gyda gardd gloestr unigryw yn ganolog.
Cafodd Meinir Howells ei magu ar fferm yng Nghapel Isaac, lai na 2 filltir o Landeilo. Mynychodd yr ysgol yn y dref ac mae hi’n dal i ffermio gerllaw gyda Gary, ei gŵr. Mae hi’n adnabyddus fel cyflwynydd sioe ffermio ar S4C; mae ffermio a Llandeilo yn dal yn agos at ei chalon. Dywedodd fwy wrthym am y dref y mae hi mor hoff ohoni.
Mae Llandeilo wedi newid ychydig ers ei dyddiau ysgol hi ond, i Meinir, mae’r teimlad cryf o gymuned yn dal yn amlwg. Dywed fod y bobl sydd wedi tyfu i fyny yma bob amser yn awyddus i ddychwelyd a bod y bobl sy’n dod i mewn i’r ardal bob amser yn cael croeso. Yn naturiol, mae hi o’r farn fod ffermio wrth galon y gymuned; “tynnwch y ffermwr hwnnw allan ac fe gollwch y gymuned, y Gymraeg, y diwylliant a phopeth sy’n mynd gydag ef.”
Awgrymiadau Meinir
Y Lle Gorau i fynd am Dro - o amgylch ystad Castell Dinefwr
Yr hyn y mae’n rhaid i Ymwelwyr ei Wneud - mynnu cael cynnyrch lleol
Y Lle i Dynnu Llun - yr olygfa o’r bont fwa garreg gyda’r bythynnod yn y cefndir
Y Trysor Cudd - Abaty Talyllychau
Ei Ffefryn Personol - Cig oen Cymreig lleol
Y Lle i gael Lluniaeth - Mae yna ormod o ddewis