Lwybrau Cynnyrch Lleol 100% Sir Gâr
I roi cynnig ar y cynnyrch lleol mwyaf ffres, mae angen i chi fynd yn ôl i'r ffynhonnell. Bydd ein Llwybrau Cynnyrch Lleol 100% Sir Gâr yn eich helpu i wneud hynny ac yn eich arwain at y lleoedd mwyaf blasus yn y sir, gan gynnwys cwmnïau rhostio coffi, cynhyrchwyr caws, gwinllannoedd, siopau poteli, cigyddion, delis a mwy.
Dewch i ddarganfod peiriannau gwerthu ysgytlaeth cudd ar hyd ffyrdd gwledig troellog a'r caffis a'r delis gorau yn ein trefi marchnad wrth i ni eich tywys o amgylch y sir gan roi sylw i dri rhanbarth gwahanol.
Cawsom gymorth gan dri awdur bwyd, gan eu gwahodd i ddod i flasu ein bwyd a'n helpu i lunio'r canllawiau hyn a fydd yn rhoi gwybodaeth i chi er mwyn eich helpu i siopa, coginio, bwyta ac yfed y cynnyrch gorau o Sir Gaerfyrddin.
Rydym yn dathlu ein Cymreictod yn ogystal â chroesawu amrywiaeth wrth i gyrïau Asiaidd gael eu coginio gan ddefnyddio'r llysiau lleol mwyaf ffres, ac yna taith fer i un o gynhyrchwyr caws enwocaf y sir a thaith i'r farchnad i chwilio am bot o fara lawr, ein caviar ein hunain.
Gobeithio y byddwch yn mwynhau.

Llwybr Cynnyrch Lleol Canol y Sir
Uchafbwyntiau
Ardaloedd:Caerfyrddin, Cydweli, Llansteffan, Talog, Llanarthne
Yn berffaith ar gyfer: Bwydydd picnic (yn enwedig mêl a chaws), ham a jin.

Llwybr Cynnyrch Lleol y Gorllewin
Uchafbwyntiau
Ardaloedd: Sanclêr, Talacharn, Pentywyn, Hendy-gwyn ar Daf, Cenarth, Castellnewydd Emlyn
Y gorau am: Gwin o Gymru, caws byd-enwog, bwyd môr ffres, a chig eidion wedi'i fagu yng Nghymru.

Llwybr Cynnyrch Lleol y Dwyrain
Uchafbwyntiau
Ardaloedd: Llanymddyfri, Llandeilo, Rhydaman, Llanelli
Y gorau am: Cwrw crefft Cymreig, coffi mewn sypiau bach a gelato wedi'i wneud ar y safle.

Llwybr o'r winllan i'r bragdy
Uchafbwyntiau
Ardaloedd: Sir Gâr gyfan
Y gorau am: Cwrw crefft Gymreig, Gwin o Gymru a Gwirodydd Sir Gâr