English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybr Cynnyrch Lleol Canol y Sir

Mae treftadaeth amaethyddol hynafol Sir Gâr yn golygu bod y sir yn fan cychwyn delfrydol i'r rhai sy'n dymuno blasu cynnyrch Cymreig go iawn. Mae ffermydd lleol sy'n dosbarthu selsig porc gorau i stepen eich drws, a sawl cigydd yng nghanol tref Caerfyrddin sy'n gwerthu ham wedi'i gwneud o rysáit sydd ganrifoedd oed a chig eidion wedi'i halltu mewn siambr halen.

Mae hyd yn oed tuedd gynyddol o ran peiriannau gwerthu llaeth sy'n dod â chynnyrch Dyffryn Tywi yn syth i'ch cegin. A beth am ymweld â distyllfa i weld lle y mae jin a rým Cymreig yn cael eu gwneud?

Yn berffaith ar gyfer: Bwydydd picnic (yn enwedig mêl a chaws), ham a jin.

Helo, Jade ydw i, rwy'n awdur teithio a ffotograffydd sy'n gweithio o Sir Gâr, sir dwi'n ei charu am ei milltiroedd o gefn gwlad gwych a chynnyrch amaethyddol cyfoethog! Rwy'n rhannu fy nheithiau ar fy mlog - Jade Braham’s Odyssey.

EGWYL GOFFI

Dechreuwch eich bore yn Y Sied Goffi yng Nghaerfyrddin, a rhowch gynnig ar naill ai'r Te Brecwast Cymreig neu'r Latte Betys, sy'n llawn gwrthocsidyddion a fitaminau. Mae'r smwddis neu laeth â blas Daioni Organic yn ddewisiadau eraill gwych i blant. Mae'r cyfan yn berffaith gyda'r crempogau wedi'u gweini â mêl Y Sied a ffrwythau tymhorol!

Neu ewch i Parc y Bocs Farmshop and Café yng Nghydweli am rywle sy'n addas i deuluoedd, sy'n gweini prydau cartref wedi'u gwneud yn bennaf o'r hyn sydd yn eu gardd. Mae'r prydau hyn a choffi The Whitford Coffee Company yn gyfuniad gwych.

I goginio brecwast gartref, byddwn i'n archebu eich hoff gynhwysion ar gyfer y bore o Myrddin Heritage (sy'n dosbarthu i'ch drws ar ddydd Iau). Os hoffech fwynhau brecwast gwirioneddol Gymreig, dewiswch goffi Dragon Teifi a'r selsig porc traddodiadol, wedi'u gwneud â llaw o foch cyfrwyog wedi'u magu ar fferm Myrddin Heritage.

HWYL FWYD

Os ydych chi'n hoff iawn o jin sydd wedi ennill sawl gwobr, ewch i Jin Talog lle mae'r cyd-sylfaenwyr yn cynnig teithiau am ddim o gwmpas y ddistyllfa (drwy apwyntiad yn unig). Ar y daith o gwmpas y ddistyllfa byddwch yn dysgu am stori arbennig y cwmni, y broses ddistyllu, eu hethos - sef creu “gin that outlives the tonic” - a'r tri chynhwysyn maen nhw'n eu defnyddio. Yn ogystal, byddwch yn rhoi cynnig ar eu potel boblogaidd, sy'n llyfn ac yn ffres - ni fydd angen y tonic arnoch chi!

Mae'n rhaid i chi roi cynnig ar y daith o gwmpas Coles Brewery - y ddistyllfa gyntaf i wneud rým yng Nghymru - os ydych yn hoff iawn o wirodydd oherwydd byddwch yn dysgu am y peiriannau arbennig a adeiladwyd gan y teulu Coles i ddistyllu mwy nag un gwirod (rým, wisgi, jin a fodca). Cewch gyfle i flasu cynnyrch: mae'r Jin Sierbet Lemwn yn anhygoel! Gallwch ei brynu yn y dafarn gyfagos, y White Hart, sy'n gweini prydau traddodiadol Cymreig fel Cawl a Bara Lawr.

Yn y cyfamser, bydd y rhai sy'n hoffi coginio yn dwlu ar Y Sied, sy'n cynnig dosbarthiadau coginio mewn beudy sydd wedi'i addasu â steil.

GRYM Y FARCHNAD

Mae Marchnad Caerfyrddin dros 800 mlwydd oed ac yn llawn stondinau sy'n gwerthu cawsiau, ffrwythau a llysiau. Mae stondin Cigyddion Albert Rees ar y farchnad yn cynnig ham wedi'i wneud o rysáit sydd ganrifoedd oed. Mae'r pasteiod porc yn wych ar gyfer picnics!

Cynhelir Marchnad Cydweli ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis rhwng 9am a 2pm yng nghanol y dref. Mae'n cynnwys cerddoriaeth fyw, ynghyd â dros 30 o stondinau!

 

LLECYN I GAEL CINIO

Y Warren yw fy hoff fan ar gyfer feganiaid a llysieuwyr yng Nghaerfyrddin. Mae'r fwydlen wedi'i seilio ar gynhwysion lleol a thymhorol, ac mae byrgyr blasus i roi cynnig arno bob amser. Mae gan y byrgyrs fegan y patis llysiau gorau, ac mae cig eidion neu gig oen lleol yn cael ei ddefnyddio yn y byrgyrs arferol. Fy ffefryn ar hyn o bryd yw'r Frechdan Surdoes Bol Porc!

Mae Daffies Bistro hanner ffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo. Mae'r fwydlen yn cynnig amrywiaeth o fwydydd megis brechdanau - mae'r frechdan cyw iâr, bacwn ac afocado yn arbennig o flasus - a chyri! Ar ddydd Sul gallwch fwynhau'r cinio rhost gorau yn Sir Gâr! Mae'r cacennau, bara, a hufen iâ blasus wedi'u gwneud â llaw, ac mae'r bacwn a'r cig eidion yn cael eu halltu gan staff Daffies.

DANTEITHION

Fel awgryma'r enw, mae The Secret Garden Café yng Nghaerfyrddin yn lle arbennig iawn sydd ag ardal eistedd fendigedig yn yr awyr agored a sied fohemaidd lle gallwch archebu danteithion megis browni caramel hallt a croissant mafon!

Yn yr un modd, mae Tea Traders yn y Clos Mawr yn berffaith i'r rhai sy'n hoffi te. Mae'r siop yn cadw dros 100 o wahanol fathau o de dail rhydd, gan gynnwys te'r coetir o Sir Gaerfyrddin, yn eu plith fy ffefryn i, Te Deilen y Fedwen.

DELIS DELFRYDOL

Blasus Delicatessen yw'r siop orau i brynu cynhwysion ar gyfer gwledd al fresco. Mae llawer o gynnyrch blasus yn y siop, gan gynnwys hwyaden a bacwn o'r Mynydd Du gerllaw a Chaws Organig Hafod. Cofiwch roi cynnig ar y Seidr, Mêl Cilgwenyn, cocos a bara cartref.

Waverley Stores yw'r siop orau o bell ffordd i brynu bwyd fegan a llysieuol, gan gynnwys cacen banana a chnau Ffrengig organig a chaws cheddar gyda winwns wedi'u carameleiddio. Gallwch brynu ffrwythau a llysiau ffres yma, ond byddwn i'n dewis y siocled oren ac almon fegan!

PETHAU I FYND Â NHW ADREF

Ewch i'r peiriant gwerthu llaeth 24 awr yn Llanarthne, a phrynu menyn, poteli llaeth y gellir eu hail-ddefnyddio a'u hail-lenwi, a llaeth ffres wedi ei gynhyrchu o fuchod Holstein pedigri. Byddwn i'n argymell cael ail botel o laeth er mwyn blasu un o'r ysgytlaethau am ddim - banana, siocled, neu fefus!

Cyn teithio adref, galwch heibio i Chris Thomas & Sons - y siop orau i brynu ffrwythau a llysiau am bris fforddiadwy. Mae'r eirin gwlanog, y mefus a'r bricyll i gyd yn blasu fel petaent wedi dod o ardal Môr y Canoldir.

Diolch i'w siambr halen, mae'r cigyddion Rogers & Sons yn adnabyddus am eu cig eidion wedi'i halltu. Byddwn i'n argymell prynu stêc neu'r pasteiod stêc ac aren!

CINIAWA

Ewch i fwyty Moryd ger Llansteffan i fwynhau profiad bwyta o'r radd flaenaf. Mae bwydlenni'r bwyty'n canolbwyntio ar fwyd lleol - mae'r bwyd môr yn dod o arfordir Cymru ac mae'r cig eidion a'r cig oen yn dod o Sanclêr. Mae'n rhaid i chi roi cynnig ar y byrgyr cig eidion gyda sglodion wedi'u torri â llaw!

Hefyd, ger Caerfyrddin mae Y Polyn sydd fel arfer yn cynnig stêc syrlwyn Cymreig blasus neu fol porc.

Aros dros nos

Byddwn i'n argymell safle Embrace the Space am brofiad glampio 'oddi ar y grid'. Mae'r yurts yn cynnwys toiledau a chyfleusterau cegin.

Neu i gael profiad mwy moethus, arhoswch yn y Mansion House Llansteffan, sydd ag ystafelloedd gyda golygfeydd o'r môr a bwyty sydd â dwy Roséd AA.

Inspired to stay

Visit our staying pages