English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Sir Gâr - o'r winllan i'r bragdy a thu hwnt

Mae gan Sir Gâr hanes hir o gynhyrchu alcohol sy'n dyddio'n ôl i'r Oesoedd Canol. Fodd bynnag, yn yr oes fodern y mae sector alcohol Sir Gâr wedi datblygu i fod yn un o'r lleoliadau mwyaf cyffrous, arloesol a bywiog yn y wlad.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae nifer fawr o ddistyllfeydd a bragdai bwtîc bach wedi ymddangos ledled y sir, ynghyd â datblygiad rhai o'r gwinllannoedd harddaf yn y DU, sydd i'w gweld ymhlith ein bryniau gwledig, tonnog.

Mewn gwirionedd, mae cymaint o winllannoedd, distyllfeydd a bragdai ledled Sir Gâr fel bod llawer o bobl bellach yn cynllunio eu teithiau o amgylch y lleoliadau hyn. 

Gyda hyn mewn golwg, rydym wedi llunio ein canllaw i fannau gorau Sir Gâr i fwynhau rhai o'r gwinoedd, diodydd jin, cwrw, diodydd rỳm, seidrau, wisgi, stowtiau a fodca gorau a llawer mwy.

Gwirodydd Gwych 

Mae distyllfeydd bwtîc yn ymddangos ledled Cymru, ac mae Sir Gâr wedi bod ar flaen y gad ers amser maith, gyda nifer o wneuthurwyr jin, rỳm, fodca a wisgi yn creu rhai o'r gwirodydd arobryn gorau a hynny mewn sypiau bach. Hoffech chi gael diwrnod neu ddau yng nghefn gwlad Sir Gâr yn mwynhau taith o gwmpas distyllfa, sesiwn blasu unigryw, neu weithdy gwneud jin personol? Yna ewch ati i ddarllen hyn…

Jin Talog

Jin Talog - Cafodd Jin Talog, wneuthurwr jin botaneg arobryn, ei sefydlu gan ddau fachgen o Gymru a symudodd i Lundain, gan dreulio gormod o amser yn y byd corfforaethol cyn dychwelyd i'w gwreiddiau i sefydlu brand jin a magu defaid o frid prin. Y canlyniad yw buddugoliaeth gyda nifer fawr o wobrau i'w henw i brofi hynny. Mae teithiau a phrofiadau blasu ym meudy Jin Talog ar gael ar gais.

Coles Distillery – Mae Coles Distillery, yr unig gynhyrchwyr rým yng Nghymru, ym mhentref gwledig hardd Llanddarog. Cafodd un o'r distyllwyr, Marcus, y syniad pan oedd ar ei wyliau yn Jamaica ac ar ôl peth ymchwil ynghylch yr hyn sydd ynghlwm wrth greu rým o ansawdd a ble y gallent ddod o hyd i'r prif gynhwysyn ar gyfer creu rým – triagl – crëwyd rým cartref cyntaf erioed Cymru. Gallwch archebu taith i weld y gwahanol wirodydd yn cael eu gwneud (maen nhw'n gwneud wisgi hefyd!). Maent hefyd yn bragu cwrw ac yn rhedeg y tafarn to gwellt ar y safle - The White Hart Inn, a adeiladwyd ym 1371 - felly gallwch aros am ginio hefyd!

Three Oaks Distillery - Yng Nghapel Hendre yn Nyffryn Aman, wrth odre mynyddoedd Bannau Brycheiniog, fe ddewch o hyd i Three Oaks Distillery, gwneuthurwr gwirodydd premiwm wedi'u gwneud â llaw mewn sypiau bach. Yn deillio o daith y sylfaenydd gyda Zoo Brew, ei chwaer gwmni sy'n gwneud cwrw iawn, lansiodd Three Oaks ystod graidd o wirodydd premiwm yn 2019 - gan gynnwys fodca a gin. Defnyddir grawn Cymreig a dŵr o fynyddoedd Sir Gâr wrth gynhyrchu eu gwirodydd.

Gwin Godidog 

Dychmygwch. Rydych wedi ymgolli yng nghefn gwlad Cymru. Wedi'ch amgylchynu gan winwydd llawn grawnwin. Rydych yn sipian ar wydraid oer o win gwyn Cymreig. Efallai rydych yn bwyta caws Cymreig a chracers. Mae bywyd yn dda... Nawr gwnewch hynny yn realiti drwy drefnu taith o amgylch gwinllannoedd clodwiw Sir Gâr sydd ar hyd y bryniau gwyrdd, tonnog.

Gwinllan Hebron - Cafodd Winllan Hebron ei phlannu gan Jemma Vickers a Paul Rolt yn 2010 ar ôl iddynt symud yn ôl i Gymru ar ôl 9 mlynedd drawsnewidiol yn trawsnewid gwinllan sefydledig yn winllan organig heb ymyrraeth arobryn yn Andalucia, Sbaen. Cafodd Hebron ei sefydlu yn nhroedfryniau Mynyddoedd y Preseli sy'n llawn mwynau gan ddefnyddio dulliau gwinwyddaeth adferol heb ymyrraeth, ac yn 2019, y cynhyrchion cyntaf i Hebron eu cyhoeddi oedd gwin coch Cymreig prin, "1", a gwin gwyn pefriog, "Silver Linings". Sawl blwyddyn yn ddiweddarach mae'r winllan yn ffynnu ac mae teithiau, sesiynau blasu a tapas ar gael i ymwelwyr. Gallwch hyd yn oed aros yn Hebron yn yr ysgubor laeth sydd wedi'i haddasu ar y safle. 

Bwyty, Ystafelloedd a Gwinllan Jabajak - Mae Jabajak, sef busnes sy'n cael ei redeg gan deulu yng nghefn gwlad prydferth Cymru ar gyrion Mynyddoedd Bluestone ac o fewn ei winllan ei hun, yn cynnig 'Bwyty gydag Ystafelloedd' mewn lleoliad tawel a gwledig. Arwyddair y cwmni yw 'wine is at the heart of everything we do' a gellir profi hyn yn llawn drwy’r ddwy daith sydd ar gael – Profiad Blasu Gwin Drws Selar a'r Profiad Blasu Gwin yn Ddall. 

Gwinllan Spring Hollow - Mae Gwinllan Spring Hollow, sydd yn Nyffryn Teifi ym mhentrefan gwledig Cwm-pen-graig, wedi'i phlannu â llaw ar lethrau deheuol gyda phriddoedd tywodlyd dros lechi a siâl yn darparu draenio rhagorol. Sefydlwyd gan Wayne a Sally Campbell, sydd gyda'i gilydd yn angerddol am win da ac yn dilyn egwyddorion organig a biodynamig sy'n anelu at gynhyrchu'r gwinoedd mwyaf naturiol posibl. Gellir prynu eu gwin Rondo coch a rosé, gwin gwyn Solaris a gwin pefriol Brut ar wefan y cwmni ac mae teithiau tywys a sesiynau blasu yn cynnig cyfle i ymwelwyr grwydro a dysgu yn rhai o'r amgylcheddau mwyaf tawel sy'n wledd i'r llygaid. 

 

Sir Gâr Grefftus 

Cwrw crefft, lagers, IPAs, stowtiau a chwrw...mae Sir Gâr yn gwneud popeth! Mae'r diolch am hynny i'r llu o fragdai micro arbennig - yn hen a newydd sydd i'w gweld ledled trefi a bryniau gwledig y sir. Y tro nesaf y byddwch yn Sir Gâr, beth am fynd ati i ddarganfod pob un ohonynt?

Bragdy Coles - Caiff cwrw Coles ei gynhyrchu yn y White Hart Inn yn Llanddarog a adeiladwyd yn y 13eg ganrif, gan ddefnyddio'r haidd bragu gorau, conau cyfan, burum a dŵr puraf Cymru o 300 troedfedd islaw'r bragdy lle mae wedi hidlo drwy'r graig galchfaen ers miliynau o flynyddoedd. Mae'r ystod o gwrw yn cynnwys stowtiau golau euraidd i stowtiau tywyll, lagers a chwrw anarferol fel betys, danadl, tsili a mwy. Ewch i'r dafarn am ginio neu swper a rhowch gynnig ar gwrw amrywiol Coles sydd ar gael.

Felinfoel Brewery Company -Mae Felinfoel wedi bod yn gwneud cwrw crefft ers 1878 a dyma'r bragdy a greodd gwrw crefft cyntaf y byd mewn can gan olygu mai'r rhain yw'r canwyr hynaf o gwrw crefft yn y byd. Fel y mae'r enw'n awgrymu, mae bragdy Felinfoel wedi'i leoli yn Felin-foel, pentref bach sy'n ffinio Llanelli (sef canolfan tunplat y byd yn y 19eg ganrif, a dyna pam y cyflwynwyd y can cwrw crefft gan Felinfoel!). Mae cynhyrchion Felinfoel ar gael mewn archfarchnadoedd ledled y DU ac mae'r bragdy hefyd yn berchen ar nifer o dafarndai ledled Sir Gaerfyrddin, lle mae eu cynhyrchion ar gael o'r gasgen. 

Bragdy Evan-Evans – Wedi'i leoli yn nhref farchnad Llandeilo, mae gan Fragdy Evan Evans 250 mlynedd o dreftadaeth a bragdy modern o'r radd flaenaf sy'n edrych allan dros fryniau Llandeilo. Mae'r bragdy yn bwerdy cwrw crefft Cymreig, gyda phum brand yn cael eu gwneud yn fewnol, gan gynnwys Celt, Ynys Dân a Cwrw. 

Zoo Brew – Mae Zoo Brew, a sefydlwyd yn 2019, yn gwmni newydd yn y maes cwrw crefft yn Sir Gâr, ond mae eisoes yn gwneud argraff gan lansio cynnyrch gan gynnwys Towy Tiger, cwrw ambr traddodiadol; Merlin's Own, cwrw golau braf; ac Amman Eagle, cwrw euraidd ffres â blas leim.

Bragdy Pererin - Ym mhentref arfordirol Llansteffan, Pererin yw bragdy mwyaf newydd Sir Gâr a lansiwyd yn 2022 o Taylor’s Tow Bar. Mae'r bragdy yn cynhyrchu un cwrw premiwm, sef Pererin Pure Pale Ale. Cewch hyd iddo ar dap ar draws y sir o Inn at the Sticks i'r Fox & Hounds, ac mae ar gael i'w brynu mewn potel o Blasus Delicatessen a'r Sied Goffi.

Gwerthwyr

Gallwch fynd i'r delis a'r siopau potel hyn i ddod o hyd i wirodydd, gwinoedd a chwrw crefft Cymreig.

Diod Llandeilo – Yng nghanol tref farchnad hyfryd Llandeilo mae Diod, sydd wedi'i addurno yn yr arddull Sgandinafaidd, yn gwerthu gwin Cymreig yn ogystal â brechdanau, coffi a chacennau blasus. Ewch yno i ddewis gwinoedd Cymreig o winllannoedd ledled Cymru, yn ogystal â dewis ardderchog o wirodydd Cymreig. Mae Diod hefyd yn trefnu digwyddiadau dros dro gyda'r hwyr, gan gynnwys nosweithiau sushi, coctels a chanapés, nosweithiau bwyd pigo a mwy. 

Wright’s Food Emporium - Wedi'i leoli mewn hen dafarn y pentref yn Llanarthne, mae Wright's Food Emporium yn cyfuno caffi o'r radd flaenaf gyda siop hardd sy'n llawn cynnyrch lleol lliwgar, gan gynnwys gwirodydd, gwinoedd a chwrw Cymreig. Mae popeth mor hyfryd fel eich bod chi eisiau symud i mewn ar unwaith. Mae'r bwyty mewnol yn gweini diodydd jin a thoneg gan ddefnyddio Jin Talog lleol, gwin blodau'r ysgaw Mydflower (a wneir ym Mannau Brycheiniog) a chwrw Bluestone o Sir Benfro. 

Beer Park Llanelli - Mae Beer Park Llanelli, sy'n cael ei ddisgrifio fel y lle ar gyfer popeth sy'n ymwneud â chwrw, yn gwerthu'r ystod fwyaf o gwrw yng Nghymru – 600 o gwrw o 200 o fragdai! Ar hyn o bryd mae gan Gymru oddeutu 96 o fragdai gweithredol ac mae Beer Park yn gwerthu'r rhan fwyaf ohonynt, ynghyd â chasgliad gwych o'r Almaen a Gwlad Belg. Mae'r cwmni hefyd yn cynnal digwyddiadau ar y safle yn ei ystafell flasu breifat, neu gallwch alw heibio a dewis cwpwl o ganiau, poteli neu focsys o'u hystod enfawr. 

Parc y Bocs – Mae'r siop fferm a'r caffi hwn yng Nghydweli yn lle gwych i fwynhau brecwast neu ginio, ac yna cael golwg o amgylch y siop fferm sydd â chyflenwad da sy'n gwerthu llysiau o'i gerddi marchnad ei hun, yn ogystal â bwyd anifeiliaid anwes naturiol. Ac, wrth gwrs, mae digon o gwrw crefft a seidr o Gymru ar gael yno. 

Cwmcerrig – Mae'r siop fferm deuluol arobryn hon yn un y mae'n rhaid ymweld â hi tra yn ardal Llanelli. Mae'r cigyddion ar y safle yn gwerthu'r cig o fferm y teulu - mae eu cig oen Texel a chig eidion Henffordd o'r safon uchaf; ac mae'r delicatessen a'r popty yn stocio cynnyrch o bob rhan o Gymru. Mae cwrw, seidr a gwirodydd Cymreig hefyd ar gael yn y siop.