English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybr Cynnyrch Lleol y Dwyrain

Mae'r llwybr hwn yn canolbwyntio ar rai o'r cynhyrchwyr bwyd a diod a'r llefydd bwyta annibynnol gorau sydd i'w gweld yn nhrefi Llanelli, Llandeilo, Llanymddyfri a Rhydaman ac o'u cwmpas. O gelato hufennog, cynnyrch wedi'i bobi'n ffres i goffi artisan, darganfyddais fod yno amrywiaeth enfawr o fwyd a diod anhygoel i'w phrofi.

Mae tref farchnad liwgar Llandeilo yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer y daith hon gyda chaffis gwych, nosweithiau bwyd arbennig a Bannau Brycheiniog yn gefndir i'r cyfan.

Binny yw fy enw i ac rwyf yn flogwraig Bwyd a Theithio o Lundain, ac yn dod yn wreiddiol o Kenya. Mae de Cymru bob amser wedi bod yn agos at fy nghalon, gan mai dyma'r lle cyntaf i mi symud iddo o Kenya pan es i Brifysgol Caerdydd.

Alla i ddim aros i rannu'r hyn a wnes i ddarganfod yn ystod fy ymweliad â Sir Gâr, wrth i mi ddatgelu'r bwyd a diod Cymreig gorau gan gynhyrchwyr annibynnol a chrefftus anhygoel y sir.

EGWYL GOFFI

Cofiwch gael hoe yn Diod yn Llandeilo, sy'n lle delfrydol i gael paned o goffi naill ai i ddechrau'r diwrnod neu i'w mwynhau'n hamddenol gyda chacen yn y prynhawn rhwng ymweld â gwahanol siopau. 

O fod unwaith yn gymuned lofaol mae Rhydaman yn dod yn adnabyddus am goffi o safon uchel, yr aur du newydd! Diolch i'r crwt lleol Scott James a'i dŷ rhostio Coaltown Roastery, dyma leoliad hynod ddiddorol i fwynhau coffi arbennig wedi'i falu'n ffres gan wylio'r broses gynhyrchu o'r ffa i'r gwpan ar yr un pryd.

Am siop goffi sy'n gweini bwydlen brecwast swmpus anhygoel rhaid i chi fynd i Hwyl, yn Llanelli, sydd hefyd yn gweini coffi gwyn fflat gan ddefnyddio ffa coffi Coaltown. Mae eu caws ar dost wedi'i weini ar fara surdoes, gydag wyau wedi'u potsio a tsilis ffres ar ei ben, yn cael ei argymell yn fawr. Rwy'n dal i freuddwydio amdano.

HWYL FWYD

P'un a ydych yn newydd i gwrw crefft neu'n hoff iawn ohonynt, mae rhaid i chi fynd i Siop Boteli ac Ystafell Flasu'r Beer Park yn Llanelli.

Cawsom sesiwn o flasu Cwrw Cymreig gan samplu detholiad o gwrw a seidrau i gyd o Sir Gaerfyrddin, yn amrywio o Felinfoel, y bragdy hynaf yng Nghymru, Pererin, bragdy mwyaf newydd Cymru, ac Evan Evans, Coles, Zoo Brew a Tin Works.

Gadawon ni gyda'n bagiau'n llawn o ddeuddeg gwahanol gwrw Cymreig ar ôl ein sesiwn flasu!

GRYM Y FARCHNAD

Yn lle crwydro rhwng silffoedd yr archfarchnad ewch i brynu llysiau lleol a bwyd môr ffres gan gyflenwyr lleol ym Marchnad Awyr Agored Rhydaman ar Stryd y Cei bob dydd Gwener rhwng 9:00am - 4:30pm. Delfrydol os ydych chi'n aros mewn llety hunanarlwyo! Rwyf yn argymell eich bod yn cael Bara Lawr, a chacennau gan y pobyddion lleol i ddilyn!

Mae'r Farchnad Dan Do yn Llanelli, sydd ar agor o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 8.30am a 5pm, yn drysorfa go iawn gyda'r cynnyrch yn amrywio o losin, ffrwythau a llysiau i gocos. Mae'r Welsh Diner yno'n lle delfrydol i gael cinio ac mae eu byrgyrs cig eidion 100% o Gymru yn cael eu hargymell yn fawr.

Mae'n werth mynd i bentref bychan Talyllychau, gyda'i abaty hanesyddol ac sydd ond taith fer i'r gogledd o Landeilo, er mwyn ymweld â'u marchnad wib sy'n cael ei chynnal bob dydd Sul. Nid yn unig y mae yno olygfeydd trawiadol o Goetiroedd Talyllychau, ceir yno hefyd amrywiaeth wych o gynnyrch ffres gan bobyddion lleol, gwneuthurwyr caws a thyfwyr.

LLECYN I GAEL CINIO

I gael brechdanau bara fflat blasus ewch draw i BLAS yn Rhydaman, sydd â seddi dan do ac yn yr awyr agored. Neu, i gael pysgod a sglodion penigamp aethom i St Ellis Bay Bistro sydd â golygfeydd glan môr gwych dros Fae Caerfyrddin.

I lysieuwyr rwy'n argymell eich bod yn ymweld â'r Bear Inn, Llanymddyfri, y dref farchnad sy'n borth i Fannau Brycheiniog. Mae gan eu bwydlen 100% Llysieuol ystod flasus o brydau wedi'u hysbrydoli gan fwyd Asiaidd fel Cyrri Coch Thai a Dal o Sri Lanca.

TRÎT

I bobl sy'n dwlu ar siocled mae ymweld â 'Heavenly Exquisite Desserts and Chocolate Emporium', yn Llandeilo yn gwireddu breuddwyd. Byddwch yn barod i gael eich syfrdanu gan yr amrywiaeth o siocledi a wneir â llaw ar y safle, yr hufen iâ o wahanol flasau, y cacennau ac i gael trît sawrus, peis chwedlonol Llandeilo.

I gael eich siâr o Gelato, ewch i Gelateria Frank's yn Rhydaman a dewis o blith blasau traddodiadol (pistachio oedd fy ffefryn i) neu rhowch gynnig ar eu harbenigeddau tymhorol - Picen ar y Maen ar gyfer Dydd Gŵyl Ddewi ym mis Mawrth neu Granita Mefus ar gyfer yr haf.

Pan fydd yna beiriant gwerthu ysgytlaeth 24 awr gallwch fod yn sicr fod y lleoliad hwn yn werth mynd iddo! Ewch i faes parcio tŷ rhostio Coaltown yn Rhydaman a byddwch yn gweld stondin Llaeth Beynon gyda pheiriant gwerthu llaeth, sydd hefyd yn gwerthu ysgytlaeth mewn cwpanau ailgylchadwy. Gall y blasau newid ond pan wnaethom alw heibio roedd Myffin Llusi Duon Bach a Charamel Hallt ar gael yno.

DELIS DELFRYDOL

Allwch chi ddim peidio mynd i Wright's Food Emporium yn Llanarthne sydd wedi'i ddisgrifio fel y cyrchfan eithaf am Fwyd a Diod Cymreig a gallaf weld pam, wrth i mi dreulio oesoedd yn llenwi fy masged gyda'u hystod eithriadol o gynnyrch bwyd a diod. Neu am ginio cyflym - mae pobl yn teithio milltiroedd am hyn - rhowch gynnig ar eu Cubano Bol Porc yn eu caffi gyda ham Myrddin rhost lleol.

Mae ymweliad â Siop Fferm a Gril Cwmcerrig yn Gorslas hefyd yn wych i gael picnic a phethau i bori arnynt fel Cawsiau Cymreig, craceri, diodydd, siytnis, peis a llawer mwy!

PETHAU I FYND Â NHW ADREF 

Fy mhrif argymhellion am bethau i fynd â nhw adref gyda chi fyddai detholiad o gwrw crefft lleol o Siop Boteli ac Ystafell Flasu'r Beer Park yn Llanelli.

Os ydych chi'n gaws-a-holic fel fi, stociwch i fyny ar gawsiau Cymreig lleol o Siop Fferm a Gril Cwmcerrig yn Gorslas. Rwy'n argymell y cawsiau Perl Wen a Perl Las byd-enwog a wneir gan Laethdy Caws Cenarth.

Yn Wright's Food Emporium yn Llanarthne codwch botel o'u saws tomato 'Catsup,' bariau o Heist Chocolate sy'n cael ei wneud yng Nghymru (mae'r un Llaeth Grawnfwyd yn flasus dros ben) yn ogystal â bara Focaccia a rholiau selsig wedi'u gwneud yn ffres - oedd yn ormod o demtasiwn i ni ac a ddiflannodd ar y ffordd adref.

CINIAWA

Gwnaethom wir fwynhau ein pizzas yn Pitchfork and Provision yn Llandeilo ar eu nos Wener pizza ac os bydd y tywydd yn caniatáu gallwch eistedd y tu allan.

Caiff toes eu pizzas ei wneud yn ffres, ac roeddem yn dwlu ar y Margherita a'r Salami Diavolo.

Os am rannu platiau mewn awyrgylch hyfryd ewch i Flow's ar Stryd y Farchnad, unwaith eto yn Llandeilo, sydd â bwydlen wahanol bob wythnos o brydau ar steil Tapas wedi'u gwneud â chynnyrch lleol. Mae'r bruschetta gydag afocado, wyau a tsili ar ei ben yn flasus tu hwnt!

 

Aros dros nos

Cawsom amser hyfryd dros ben tra'n aros yn Llwynhelig Manor, llety gwely a brecwast teuluol sy'n croesawu cŵn yn Llandeilo. Roedd yn fan cychwyn delfrydol i archwilio'r ardal o amgylch ac roedd golygfeydd ysblennydd i'w cael o'n fflatiau hunanarlwyo, the Gardener’s Cwtch.

Fel arall, mae fflat y Ginhaus drws nesaf i'r deli Ginhaus yng nghanol Llandeilo, sy'n drysorfa o jins lleol, charcuterie a Little Croft Chocolate sy'n cael ei wneud i lawr yr heol.

Neu os hoffech goginio dan gynfas rhowch gynnig ar glampio gourmet yn Gilfach Gower gyda chig cynaliadwy yn cael ei gynhyrchu yn y caeau o'ch cwmpas.

Inspired to stay

Visit our staying pages