Y Picnic Perffaith
Y Picnic Perffaith
Gallwch ddod o hyd i'ch hoff leoliad drwy ddefnyddio canllaw diweddaraf Sir Gaerfyrddin, sy'n dangos 10 o'r lleoliadau gorau yn y sir, o ben mynydd i aber afon. Mae pob lleoliad hefyd yn cynnwys awgrymiadau ynghylch y llefydd gorau i osod eich blanced bicnic ac agor eich fflasg i gael y profiad gorau posibl o fwyta yn yr awyr agored.
Ymhlith y lleoliadau hyn y mae Bae Scott sy'n llawn rhamant, urddas Tŵr Paxton, hud a lledrith Fforest Brechfa a hyd yn oed glannau Afon Teifi yng Nghenarth. Dyma ein hoff lefydd i fanteisio ar yr awyr iach wrth fwynhau powlen o gawl twym, darnau trwchus o fara a siocled Cymreig gorau'r wlad.
Dathlwch yng nghanol golygfeydd dramatig cefn gwlad ac arfordir Sir Gaerfyrddin, a chofiwch bacio eich cwpan amldro, 'keep cup', a chyllyll a ffyrc o'ch cartref (neu hyd yn oed cyllyll a ffyrc bambŵ) i leihau'r defnydd o blastig untro!
Aeth y blogiwr, Hungry City Hippy, i ymweld â ni. Dyma beth oedd ganddi i’w ddweud…