English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybrau i'r teulu cyfan

Sir Gaerfyrddin - Canolbwynt Beicio Cymru

Os hoffech ddianc rhag yr holl fynd a dod mae Sir Gaerfyrddin yn cynnig llwybrau di-draffig bendigedig ar hyd Lôn Geltaidd y gorllewin ynghyd â llwybrau i'r teulu cyfan.

Parc Arfordirol y Mileniwm, Llanelli(Llwybr Sustrans rhif 4)

Dechrau: Bynea neu Parc Pen-bre

Pellter: 22km/13 milltir

Gradd Anhawster: 2/10

Amser i gwbwlhau: tua 2 neu 3 awr

Llwybr arfordirol hygyrch sydd heb draffig ac sydd ag wyneb llyfn. Mae'r rhan fwyaf ohono'n wastad ac mae'n dilyn arfordir trawiadol Sir Gaerfyrddin, ar hyd Llwybr Arfordir Cymru am bellter o tua 22km o'r Bynea yn y Dwyrain i Barc Gwledig Pen-bre yn y Gorllewin.

Lawrlwythwch y map a bant â chi ar y llwybr

Llwybr Dyffryn Swistir –  (Llwybr Sustrans rhif 47)

Dechrau: Parc Dwr Y Sandy neu RFC Cefneithin 

Pellter: 19km/12 milltir

Gradd Anhawster: 3/10

Amser i gwbwlhau: tua 2 awr

Mae'r llwybr gwych hwn, nad yw'n mynd ar y ffordd, yn dilyn trywydd hen Reilffordd Llanelli a'r Mynydd Mawr, drwy gefn gwlad hyfryd Cwm Gwendraeth. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr yn wastad ac mae'n llwybr hygyrch â wyneb tarmac.

Lawrlwythwch y map a bant â chi ar y llwybr

 

Llwybr Glan-Afon Dyffryn Aman (Llwybr Sustrans rhif 437)

Dechrau: Pantyffynnon RFC neu Brynaman RFC

Pellter: 11km/7 milltir

Gradd Anhawster: 3/10

Amser i gwbwlhau: tua 1.5 neu 2 awr

Mae'r llwybr di-draffig hyfryd hwn yn ymestyn am bron 8 milltir o Bantyffynnon i Frynaman ar hyd Afon Aman, ac mae golygfeydd gwych tuag at y Mynydd Du a Mynydd y Betws. Mae'r llwybr yn cynnwys coetir, ffermdir, pyllau afon a choredau ac mae digonedd o fywyd gwyllt ar bob rhan o'r daith.

Lawrlwythwch y map a bant â chi ar y llwybr