English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Llwybr Dyffryn y Swistir

Swiss Valley Path – Llanelli to Cross Hands (Sustrans Route 47) 14miles approx.

Llwybr Dyffryn y Swistir – Llanelli i Cross Hands (Llwybr Sustrans 47) Tua 22km neu 14 milltir.

Mae'r llwybr gwych hwn, nad yw'n mynd ar y ffordd, yn dilyn trywydd hen Reilffordd Llanelli a'r Mynydd Mawr, drwy gefn gwlad hyfryd Cwm Gwendraeth. Mae'r rhan fwyaf o'r llwybr yn wastad ac mae'n llwybr hygyrch â wyneb tarmac.

Mae'n dringo'n raddol o Barc Dŵr y Sandy yn Llanelli i Gynheidre, gan fynd heibio i gronfeydd dŵr Lliedi yn Nyffryn y Swistir. Yna mae'r llwybr yn eithaf gwastad ar hyd y top, lle mae golygfeydd bendigedig o Gwm Gwendraeth wrth i'r llwybr fynd drwy Barc Coetir y Mynydd Mawr.

Mae holl olion yr hen ddiwydiant glo wedi diflannu ac eithrio mewn ambell le.

Gallwch deithio'r llwybr hwn mewn camau hawdd a mwynhau'r golygfeydd godidog, yr anifeiliaid fferm a'r bywyd gwyllt, a gwelir Bwncathod ac o bryd i'w gilydd Farcutiaid Coch yn cylchu oddi fry.

Parcio: Doc y Gogledd a Pharc Dŵr y Sandy yn Llanelli, y Tymbl a Cross Hands.

Lluniaeth / toiledau: Y Ganolfan Ddarganfod yn Noc y Gogledd yn Llanelli, Tafarn y Waun Wyllt yn Horeb, y Tymbl a Cross Hands. 

Uchafbwyntiau: Mae cymaint i'w weld a'i wneud ar hyd y ffordd, rhwng y bywyd gwyllt, y safleoedd o ddiddordeb, y golygfannau a'r llefydd i gael lluniaeth, felly beth am gymryd eich amser a mwynhau'r profiad i'r eithaf.

Ar gyfer teuluoedd yn enwedig, ond hefyd y rhai y mae'n well ganddynt gerdded ar gyflymer ychydig yn fwy hamddenol, mae'r llwybr wedi'i rannu i'r tair rhan isod lle rhoddir cyngor am sut mae cyrraedd yno a beth i'w weld a'i wneud. Wrth gwrs gallwch ddechrau ar y naill ben neu'r llall neu gyfuno rhannau.

 

Llanelli i Horeb

Llanelli i Horeb (10 milltir yno ac yn ôl)

 

Mae Doc y Gogledd neu Barc Dŵr y Sandy yn fannau cychwyn cyfleus ar gyfer y daith hon, gan groesi Pont D'Agen a dilyn llwybr 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol. Mae'r bont hon hefyd yn cysylltu â chanol tref Llanelli, sy'n fan cychwyn arall os ydych yn dymuno. Mae'n syniad da teithio'r ffordd hon wrth adael y dref gan fod y daith yn ôl yn un hyfryd lawr rhiw, nad oes angen ymdrechu rhyw lawer arni.

Mae'r llwybr yn mynd drwy Ffwrnes â'i dafarndai a'i siop, drwy Bentrepoeth ac uwchlaw Felin-foel, sef cartref y bragdy enwog. Ar ôl ½ milltir arall, mae'r llwybr yn rhedeg uwchlaw cronfeydd dŵr Lliedi yn Nyffryn y Swistir. Mae digonedd o leoedd i stopio, eistedd, cael picnic a mwynhau'r olygfa. Mae'n bosibl mynd i lawr y llwybr serth i gerdded o amgylch y cronfeydd dŵr, ond nid yw'n addas i feiciau; gwell yw eu gadael ar y llwybr.

Aiff y llwybr yn ei flaen drwy goetir, heibio i weddillion hen Waith Brics Horeb, sydd bellach yn gofeb restredig, cyn troi'n fwy agored wrth hen Orsaf Horeb a thafarn gyfagos y Waun Wyllt a hen Gapel. Os gadewch y llwybr yma a theithio tua'r gorllewin am filltir, fe ddewch at bentref Pump-hewl a thafarn y Stag.

Cyrraedd yno: Mae gwasanaethau X12, 195 ac 196 yn rhedeg rhwng Caerfyrddin a Llanelli a rhwng Abertawe a Llanelli. Mae gwasanaeth trên rheolaidd o Abertawe a Chaerfyrddin i Lanelli. Mae'r orsaf fysiau tua ¼ milltir o'r llwybr ac mae'r orsaf reilffordd ¼ milltir o'r llwybr yn Seaside, ger Doc y Gogledd.

Mae llefydd parcio yn Noc y Gogledd a Pharc Dŵr y Sandy yn Llanelli, ond dim ond ar y ffordd yn Horeb oni bai eich bod yn gofyn yn y dafarn.

Cyfleusterau: Ceir toiledau, bwyty / caffi, hufen iâ / diodydd a man llogi beiciau yn y Ganolfan Ddarganfod yn Noc y Gogledd. Mae tafarn / bwyty Brewers Fayre ym Mharc Dŵr y Sandy a thafarndai a siopau yn y Ffwrnes. Yn Felin-foel gallwch adael y llwybr i ddisgyn ½ milltir i'r pentref lle mae gwesty, tafarndai a siopau. Fel arall, ewch ymlaen i Horeb lle gallwch gael lluniaeth gerllaw yn nhafarn y Waun Wyllt, neu deithio ar hyd y ffordd dawel am filltir i Bump-hewl, i dafarn y Stag.

 

Horeb i'r Tymbl

Horeb i'r Tymbl (11 milltir yno ac yn ôl)

 

Dringa'r llwybr yn raddol am filltir o Horeb i Gynheidre cyn rhedeg yn wastad rhwng caeau fferm a choetir am 4½ milltir i'r Tymbl. O Gynheidre gallwch fwynhau golygfeydd gwych o Gwm Gwendraeth a thu hwnt i Sir Benfro a Môr Hafren ar ddiwrnod clir.

Roedd pyllau glo'n arfer bod ar hyd y rheilffordd fwynau hon ac yng Nghynheidre cafodd y pedair siafft eu cau a'u disodli yn y 70au gan lofa ddrifft na chafodd byth ei defnyddio. Mae Canolfan Dreftadaeth Rheilffordd Llanelli a'r Mynydd Mawr yng Nghynheidre bellach yn cynnwys llecyn picnic, trac a siediau atgyweirio, a chynhelir diwrnodau agored yn yr hyn y mae rhai'n ei galw'n rheilffordd fwynau gyntaf y DU.

Mae'r llwybr yn parhau drwy'r ardal hardd ond anghybsell hon i'r Tymbl. Yma bydd angen i chi'r groesi'r Stryd Fawr lle mae pob math o gyfleusterau, ac â'r llwybr ymlaen tua'r gogledd yr ochr arall i'r ffordd i Cross Hands. Yn ymyl y trac y mae postyn milltir Dudgeon Sustrans ac arno'r gerdd addas iawn, Tracks, ac mae'r cyfieithiad Cymraeg ar blac llechi ar y gwaelod – gofalwch eich bod yn aros i'w darllen.

Cyrraedd yno: Mae gwasanaethau 196,166,128,164 yn rhedeg rhwng Llanelli a Cross Hands drwy Gwm Gwendraeth, ond mae'n eithaf anodd cyrraedd y llwybr hwn drwy drafnidiaeth gyhoeddus, ac mae angen cynllunio'n ofalus.

Mae modd parcio ar y ffordd yn Horeb neu gallwch ofyn yn y dafarn. Yn y Tymbl mae modd parcio ar y ffordd yn ymyl y llwybr ac yng Nghlwb y Mynydd Mawr lle mae'r llwybr yn croesi'r B4310 (gofynnwch yn y clwb). Hefyd gallwch barcio ar y ffordd yng Nghynheidre lle ceir mynediad i'r llwybr.

Cyfleusterau: Yn Horeb, mae tafarn y Waun Wyllt gerllaw, neu teithiwch ar hyd y ffordd dawel am filltir i Bump-hewl, lle mae tafarn y Stag. Gallwch gael lluniaeth yn y Tymbl yng Nghlwb y Mynydd Mawr, yn ogystal â sawl siop a man cludfwyd.

 

Y Tymbl i Cross Hands

Y Tymbl i Cross Hands (7 milltir yno ac yn ôl)

O'r Tymbl mae'r llwybr yn cyd-redeg â Pharc Gwledig y Mynydd Mawr, ac o'r man uchel hwn mae golygfeydd ysblennydd o Gwm Gwendraeth a thu hwnt i Sir Benfro a Môr Hafren ar ddiwrnod clir, cyn mynd drwy goetir i Garreg Hollt a Cross Hands. Trwy adael y llwybr am rai llathenni yng Ngharreg Hollt (gyferbyn â'r caeau chwarae) gallwch weld y garreg a roddodd i'r pentref ei enw. Yn ôl y chwedl bu i Owain Glyndwr ei tharo â'i gleddyf yn ei dymer. Mae'r llwybr yn mynd yn ei flaen hyd at y brif ffordd a thrwy droi a mynd i'r dwyrain am ½ milltir fe ddewch chi i ganol Cross Hands.

Cyrraedd yno: Mae gwasanaethau 196,166,128,164 yn rhedeg rhwng Llanelli a Cross Hands drwy Gwm Gwendraeth. Yn y Tymbl mae modd parcio ar y ffordd yn ymyl y llwybr ac yng Nghlwb y Mynydd Mawr lle mae'r llwybr yn croesi'r B4310 (gofynnwch yn y clwb). Mae digon o lefydd parcio yn Cross Hands.

Cyfleusterau: Yn y Tymbl mae Clwb y Mynydd Mawr, yn ogystal â sawl siop a man cludfwyd. Mae llawer o siopau a mannau cludfwyd yn Cross Hands, ynghyd â siop feiciau.