Mae gennym ddigonedd o erddi a mannau gwyrdd sy'n croesawu ymwelwyr. Ein dwy brif ardd, wrth gwrs, yw Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru ac Aberglasne, sydd ill dwy'n derbyn llawer iawn o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae ein parciau gwledig a'n mannau gwyrdd yn cynnig tirwedd amrywiol, o'r Arfordir i'r cefn gwlad. Mae yna Barc Gwledig Pen-bre sy'n llawn gweithgarwch, a thawelwch hyfryd y Mynydd Mawr, llwybrau cerdded yn Llyn Llech Owain a Llwybr Gardd y Fforest yn Fforest Brechfa.
Gardd Fotaneg
Mae'r Ardd yn ymestyn dros 568 erw o gefn gwlad Sir Gâr sy'n cynnwys gwarchodfa natur yn ogystal â gardd ffurfiol, gyda Thŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Norman Foster yn ganolbwynt trawiadol iddi. Mae'r ardd yn gartref i rai o'r planhigion prinnaf a'r rhai sydd dan fwyaf o fygythiad yn y byd.
Cyfleusterau
-
Accessibility
-
Parking
-
Toilets
-
Cafe
-
Visitor Center
Aberglasne
Gardd dreftadaeth yng nghalon Dyffryn Tywi. 10 erw o drysorau garddwriaethol gan gynnwys tair gardd furiog. Mae'r atyniadau unigryw yn cynnwys gardd Gloestr Elisabethaidd/Jacobeaidd a Rhodfa Barapet. Mae ambell i syrpreis annisgwyl i'w gweld ar hyd y llwybr coetir ac yn y Ninfarium.
Cyfleusterau
-
Parking
-
Toilets
-
Cafe
-
Visitor Center
Gerddi Hywel Dda
Dyma'r unig ardd yn Ewrop sy'n gysylltiedig â'r Gyfraith ac sy'n cadw ar gof ac yn dathlu gorchestion Hywel Dda, Brenin Cymru oll yn y 10fed ganrif. Mae'r ardd ar ffurf chwech o erddi llai, gyda phob un ohonynt yn cynrychioli rhan wahanol o'r cyfreithiau.
Cyfleusterau
-
Parking
-
Toilets
Gerddi Norwood
Mae Gerddi Norwood yn ddarn tair erw o baradwys sy'n llochesu ar ochr ddeheuol heulog Dyffryn Teifi. Ceir saith o erddi, pob un ohonynt â'i thema unigryw ei hun, ar hyd y llwybr canolog a elwir yn Long Walk. Cadwch lygad ar agor am nifer o gerfluniau diddorol ar hyd y ffordd.
Cyfleusterau
-
Cafe
-
Toilets
-
Parking
Y Cynllun Gerddi Agored Cenedlaethol
Bob blwyddyn daw gerddi agored er budd elusen yn fwyfwy poblogaidd, sy'n golygu bod garddwyr ledled y DU yn agor eu gerddi i'r cyhoedd at achos da. Nid yw Sir Gaerfyrddin yn eithriad yn hyn o beth, ac mae yma erddi ar hyd a lled y Sir sy'n eich gwahodd i mewn, o fis Ebrill i fis Medi. Mae'r rhan fwyaf yn cynnig lluniaeth ac mae rhai yn caniatáu cŵn. Mae pob gardd sy'n cymryd rhan yn y Cynllun Gerddi Cenedlaethol (NGS) i'w gweld yn llyfryn a gwefan yr NGS.
Cyfleusterau
-
Parking
Llyn Llech Owain
Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn enwog am ei lwybr hardd wrth ochr y llyn, y parc antur i blant, a choffi a chacen yn y caffi a gaiff ei redeg yn lleol. Ceir rhwydwaith o lwybrau troed, llawer ohonynt ag arwynebau cadarn sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn, ac mae llwybr sydd wedi'i adeiladu'n arbennig yn caniatáu mynediad diogel drwy'r goedwig ac o amgylch y llyn.
Cyfleusterau
-
Dog friendly
-
Accessibility
-
Parking
-
Toilets
-
Cafe
Parc Gwledig Pen-bre
Mae Parc Gwledig Pen-bre yn y de yn gorwedd yn erbyn cefnlen ysblennydd Penrhyn Gŵyr ac mae'n un o brif atyniadau ymwelwyr Cymru sy'n darparu cymysgedd unigryw o arfordir a chefn gwlad. Mae'r traeth 8 milltir yn boblogaidd iawn yn yr haf ond mae hefyd yn wych yn y gaeaf ac mae'r parcdir yn lle gwych i gicio pêl neu daflu ffrisbi.
Cyfleusterau
-
Dog friendly
-
Parking
-
Cafe
-
Toilets
-
Accessibility
Gwarchodfeydd natur a choetiroedd
Mae Sir Gâr yn cynnig rhai o'r cynefinoedd bywyd gwyllt a choetiroedd heddychlon gorau yng Nghymru. Gan gynnwys Coed Tre-gib ger Llandeilo, sef Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig sydd â dros 100 o rywogaethau planhigion, ynghyd â Gardd Goedwig Brechfa sy'n cynnwys 89 o'r 180 o rywogaethau coedwig sy'n tyfu yn Ynysoedd Prydain.Neu beth am fwynhau taith gerdded drwy goetir derw a gwernen hudolus, heibio i afonydd ysblennydd yng ngwarchodfa Gwenffrwd-Dinas, Llanymddyfri sy'n gartref i bob math o adar.
Cyfleusterau
-
Parking
Llecyn delfrydol i gael picnic
Mae digon o safleoedd picnic i'w cael ledled y Sir, sy'n rhoi cyfleusterau i bobl leol ac ymwelwyr, ynghyd â lle i orffwys a mwynhau peth o'n bywyd gwyllt a'n cefn gwlad. Mae pob safle picnic wedi ei leoli mewn lleoliad trawiadol, yn aml gyda golygfeydd godidog o'r ardal o amgylch. Dewch o hyd i'ch man picnic diarffordd eich hun; ar y traeth yn Llansteffan, wrth ochr Afon Tywi neu yng nghanol Fforest Brechfa, i enw ond rhai o'r llefydd mwyaf poblogaidd i fwynhau cinio yn yr awyr iach. Mae gan ein Parciau Gwledig hefyd safleoedd picnic gwych ac mae yna ardal barbeciw ym Mharc Gwledig Pen-bre.

Tai a Gerddi Hanesyddol
Os hoffech rywbeth gwahanol, mae gan rai o'n plastai hynafol erddi hardd a llwybrau hyfryd ble gallwch fynd am dro hamddenol ymhlith y coed a'r llwyni aeddfed, y gerddi cymen a'r dolydd a choetiroedd mwy gwyllt. Mae Tŷ Dinefwr ym Mharc Dinefwr yn enghraifft wych o hyn, yn ogystal â Pharc Howard yn Llanelli.
Gardd fawr arall yn Llanelli sydd ar agor i'r cyhoedd yw Castell y Strade. Mae gan Gastell y Strade ardd deras ffurfiol sy'n wynebu'r de a'r dwyrain o gwmpas y tŷ gyda lawntiau a borderi helaeth. Mae cenedlaethau o'r teulu wedi manteisio ar yr hinsawdd fwyn a'r pridd asidig i greu gardd goetir sydd o ddiddordeb mawr.
