Amgueddfa a Gerddi Parc Howard
Bydd Amgueddfa Parc Howard yn ailagor ddydd Sadwrn 14 Tachwedd
gydag oriau agor newydd ar gyfer y gaeaf (dydd Sadwrn a dydd Sul 11am – 3pm).
Amgueddfa a Gerddi Parc Howard
Dewch i ymweld ag Amgueddfa Sir Gaerfyrddin i ddarganfod gweithiau celf a hynafiaethau cyfareddol a hynod o orffennol Sir Gaerfyrddin. Dyma'r lle perffaith i fwynhau hanes rhan o Gymru sy'n llawn treftadaeth, mythau a chwedlau.
Saif yr amgueddfa mewn parcdir ym mhrydferthwch Dyffryn Tywi ac am ganrifoedd yma yr oedd palas Esgob Tyddewi. Gan fod y safle wedi bod yn cael ei ddefnyddio'n barhaus ers 1290 cafodd ei adnabod fel crud y Dadeni Dysg yng Nghymru, sy'n cydnabod y cysylltiad â sylfeini'r iaith Gymraeg fodern a llenyddiaeth Gymraeg. Mae'r adeilad presennol yn enghraifft brin o bensaernïaeth 'Arts and Crafts' pan ddaeth cyfle i ailadeiladu'r palas yn 1904 yn dilyn tân trychinebus.
Mae orielau'r amgueddfa yn amgylchynu cwrt dan do ac yn eich tywys ar daith drwy 50,000 o flynyddoedd o hanes dynol. Dewch i ddarganfod esgyrn anifeiliaid o Oes yr Iâ, ffosiliau, aur Rhufeinig, chwedl Derwen Myrddin, cerrig beddau o gyfnod y Brenin Arthur, a chelf werin y credir bod ganddi bwerau gyfriniol. Mwynhewch yr arddangosiadau o fywydau'r gorffennol, megis bwthyn Elsa, sef bwthyn Cymreig traddodiadol, hen gegin y palas, dulliau gwledig o gynhyrchu bwyd, a chapel hardd y palas sydd wedi'i gadw mewn cyflwr arbennig.
Amseroedd Agor
Medi – 1 Tachwedd
Dydd Mawrth, dydd Iau, dydd Sadwrn a dydd Sul, 10:30-16:30
2 Tachwedd – Ebrill 8
Dydd Sadwrn a dydd Sul, 11:00-15:00
Pan fyddant yn ymweld â'r amgueddfa, bydd disgwyl i bobl ddilyn y canllawiau diogelwch newydd sy'n cynnwys cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr a ganiateir yn yr amgueddfa ar unrhyw un adeg, er mwyn cadw pellter cymdeithasol.
Cyfeiriad
Heol Felinfoel, Llanelli, Sir Gaerfyrddin, SA15 3LJ
Mynediad am ddim
Rhif ffôn: 01554 742220
Twitter: @CarmsMuseums, Facebook: Amgueddfeydd Sir Gâr – Carmarthenshire Museums, Instagram: carmarthenshire_museums
Enw ar Tripadvisor: Carmarthenshire County Museum
Fila urddasol o gerrig nadd yw Amgueddfa Parc Howard gyda gerddi prydferth o'i chwmpas. Mae'r arddangosfeydd a geir yno yn adrodd stori tref ryfeddol, ei phobl, ei chymeriadau a'r hyn a ddigwyddodd yno. Mae'r amgueddfa hefyd yn gartref i'r casgliad cyhoeddus mwyaf o grochenwaith Llanelli a gweithiau celf gan arlunwyr lleol.


Cyfleusterau
-
Hygyrchedd
-
Toiledau