Morlan Elli
Llanelli yw'r man ble mae dwyrain Cymru yn cwrdd â'r gorllewin. Ble mae'r Gymru ddiwydiannol yn uno â'r Gymru wledig. A ble mae'r dyffrynnoedd yn ymestyn i lawr i'r môr. Gallech ddweud mai yn y fan yma y daw amrywiol rannau o Gymru at ei gilydd – croesffordd Cymru.
Ni ddylai fod yn syndod felly bod pobl Llanelli yn ymgorffori cymaint o nodweddion Cymreig cryf. Ymdeimlad o berthyn a chymuned, cariad at y celfyddydau, cerddoriaeth ac, wrth gwrs, chwaraeon... yn enwedig y bêl hirgron. Mae gan y dref ymdeimlad dwfn o Gymreictod ac mae nifer fawr o bobl leol yn dal i siarad Cymraeg. Yn wir, ar un adeg yn ystod canol yr 20fed ganrif roedd Llanelli yn cael ei hadnabod fel y dref fwyaf yn y byd lle'r oedd mwy na hanner y boblogaeth yn siarad iaith Geltaidd.
Llanelli yw tref fwyaf Sir Gaerfyrddin a heddiw mae tua 46,000 o bobl yn arddel Llanelli a'r cymunedau o'i hamgylch fel eu cartref. Saif ar Aber Afon Llwchwr, rhyw 12 milltir i'r de-ddwyrain o Gaerfyrddin. Aethom i holi'r gyflwynwraig deledu Mari Grug, sy'n gweithio yn y dref, i sôn mwy wrthym am y dref y mae hi wedi dod i'w hadnabod yn dda.
O Dinopolis i Dinopolis
Mae Mari yn byw yn Sanclêr, ond fel un o gyflwynwyr y rhaglen gylchgrawn nosweithiol Heno, mae hi'n ymweld â'r dref bron bob dydd. Caiff y rhaglen ei darlledu o stiwdios Tinopolis yng nghanol Llanelli. Mae'r cwmni teledu hwn wedi'i enwi ar ôl y llysenw a roddwyd ar y dref tua diwedd y 19eg ganrif.
Bryd hynny roedd tua 90% o dunplat y byd yn cael ei weithgynhyrchu yn ne-orllewin Cymru ac yn Llanelli yr oedd y canolbwynt. Tra bod Mari yn falch o hanes y dref, mae hi'n awyddus i dynnu sylw at y modd y mae'r dref wedi symud oddi wrth ddiwydiant trwm. Mae hi'n dweud fod y dref, yn sgil dirywiad y diwydiant tunplat a diwydiannau traddodiadol eraill, bellach wedi troi ei hwyneb tua'r môr unwaith eto.
Tref Glan Môr Llanelli
Heddiw ymwelwyr, nid glo, tun na chopr, sy'n ymlwybro tua'r arfordir. Mae pobl yn anelu am Barc Arfordirol y Mileniwm a'r traethau eang cyfagos ar gyfer hamdden, pleser a llesiant. Dywed Mari fod Llwybr Arfordir y Mileniwm yn ffordd wych i feicwyr a cherddwyr ddod i adnabod yr ardal. Mae'r llwybr yn rhedeg drwy Barc Arfordirol y Mileniwm ac yn ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru. Mae'n llwybr cerdded a beicio 13 milltir o hyd i gerddwyr ar hyd arfordir deheuol Sir Gaerfyrddin, ac mae'n cysylltu Llanelli â Pharc Gwledig Pen-bre.
Yng nghanol Parc Arfordirol y Mileniwm, yn Noc y Gogledd, mae bistro a brasserie St. Elli's Bay yn lle gwych i gael coffi a thafell o gacen a mwynhau'r golygfeydd anhygoel dros Benrhyn Gŵyr.
Mae'r Gorffennol yn Bresennol
Mae yna fannau eraill yn y dref sydd hefyd o gymorth i adrodd stori anhygoel Llanelli am newid diwydiannol a chymdeithasol. Roedd Plas Llanelly ar un adeg yn gartref i un o deuluoedd mwyaf dylanwadol Llanelli – y Stepneys, a heddiw mae'n agored i bawb. Yn dilyn prosiect mawr a ddilynodd y rhaglen Restoration ar y BBC yn 2003, mae'r tŷ Sioraidd o ddechrau'r 18fed Ganrif yn lleoliad allweddol yng nghanol y dref ac yno ceir bistro poblogaidd iawn
Mae Mari yn argymell eich bod yn dilyn llwybr plac glas y dref i ddysgu mwy am ei hanes diddorol. Ymhlith pethau eraill cewch wybod am gysylltiadau'r dref ag arweinydd mudiad y swffragét, Emily Pankhurst, y pregethwr Methodist John Wesley a'r actores a aeth i Hollywood, Rachel Roberts.
Adeilad hanesyddol arall yw Amgueddfa Parc Howard. Lleolir yr amgueddfa mewn fila o garreg Caerfaddon a saif yng ngerddi'r parc. Un arall o deuluoedd dylanwadol Llanelli a'i hadeiladodd, sef y teulu bragu Buckley. Mae Bragdy Buckley yn un o ddau fragdy sy'n gysylltiedig â Llanelli. Y llall yw Bragdy Felinfoel, sy'n enwog oherwydd iddo gynhyrchu cwrw tun cyntaf y DU yn 1935. Mae'r amgueddfa'n rhan bwysig o CofGar – Gwasanaeth Amgueddfeydd Sir Gaerfyrddin sydd â'r genhadaeth o gadw'r gorffennol yn fyw ac adrodd hanes Sir Gaerfyrddin. Mae Oriel Stori Llanelli yn ymdrin â chyfraniad Llanelli i'r stori honno. Cewch hefyd weld casgliad hardd o grochenwaith Llanelly, a grëwyd yn y dref o 1839 hyd 1922. Mae crochenwaith Llanelly wedi gwneud cyfraniad pwysig iawn i hanes cerameg Cymru ac mae 'plât ceiliog' trawiadol Llanelly yn un o ddelweddau mwyaf eiconig celfyddyd gain Gymreig. Mae arloesi bob amser wedi bod yn rhan o wead Llanelli ac yn yr amgueddfa gallwch ddarganfod Olwyn Sbâr Stepney, sef olwyn sbâr gyntaf y byd a ddyfeisiwyd yn y dref. Yn wir, mae rhai gwledydd gan gynnwys Malta ac India yn dal i alw eu holwyn sbâr yn "Stepney”.
Ysbryd Annibynnol
Heddiw gellir mwynhau creadigrwydd Llanelli yn y nifer cynyddol o orielau a siopau crefft. Un enghraifft yw Oriel Stryd John sy'n cael ei rhedeg gan dîm gŵr a gwraig Ivano a Denise Di Battista. Mae'r oriel yn gartref i stiwdio baentio a phrintio. Yn ogystal â'r eitemau o gelfyddyd gain liwgar sy'n cael eu harddangos, mae yno ystod eang o brintiau argraffiad cyfyngedig, cardiau rhodd ac eitemau addurniadol ac anrhegion.
Dywed Mari wrthym fod siopau annibynnol y dyddiau hyn yn cydfodoli gydag enwau'r stryd fawr yng nghanol y dref. Mae hi'n hoff iawn o Rowberry Shoes yn Rhodfa Stepney sydd yn gwerthu esgidiau dylunydd o bob rhan o Ewrop. Mae'r busnes teuluol lleol hwn wedi bod yn masnachu yn yr ardal ers y 1960au.
Yng nghanol y dref brysur y mae'r farchnad fawr dan do. Mae hwn yn lle gwych i siopa am flodau, pysgod a ffrwythau. Mae'n llawn cynnyrch lleol ac os am damaid i'w fwyta mae Mari'n awgrymu'r ffagots a phys Cymreig yn y Welsh Diner. Neu, os yw eich chwaeth yn fwy cosmopolitaidd, rhowch gynnig ar fwyd stryd iach Taste of Thailand. Os ydych chi'n chwilio am emwaith Celtaidd, llwyau caru, dillad ac anrhegion Cymreig, yna ewch i The Welsh Shop yn rhodfa'r farchnad. Ac mae Siop y Pentan, ar Stryd Cowell, wedi bod yn gwerthu anrhegion, llyfrau a chardiau Cymreig ers 1972.
Mae Cattle and Co yn fusnes bwyd Cymreig lleol sydd â naws Americanaidd. Mae wedi'i leoli yn Nhŷ'r Pwmp eiconig, sydd yn adeilad rhestredig gradd II, yn Noc y Gogledd. Os ydych chi'n ddigon dewr, rhowch gynnig ar yr 'Empire Burger' anferthol. Pe baech yn dal i deimlo'n llwglyd, er mor annhebygol fyddai hynny, rydym yn argymell y Gacen Gaws Lotus Biscoff. Bwyty poblogaidd iawn arall yw Marzano's ar Stryd Cowell. Dyma'r lle i fynd i gael cymysgedd gwych o fwyd tapas, coctels ac adloniant byw. Mae gan Marzano's hefyd gaffi traeth symudol gwych yn agos at Lwybr Arfordir y Mileniwm. Os ydych yn yr ardal ar 3ydd dydd Sadwrn y mis, cofiwch ymweld â'r Farchnad Bwyd a Diod yng nghanol y dref. Byddwch yn gweld nad rhywbeth o'r gorffennol yn unig yw treftadaeth bragu enwog Llanelli. Byddwch yn barod i flasu cwrw lleol o Fragdy Felinfoel a Tinworks yn ogystal ag amrywiaeth eang o luniaeth lleol.
Tynnu'r Torfeydd
Mae selogion rygbi o bob cwr o'r byd yn heidio i Barc y Scarlets, i fwynhau'r awyrgylch ac i glywed Sosban Fach ac Yma o Hyd yn cael eu canu ag angerdd digymar. Cân a ysgrifennwyd gan y canwr o Gymro Dafydd Iwan yw Yma o Hyd ac mae'n anthem briodol i dref sy'n newid o hyd ac sy'n ail-ddychmygu ei dyfodol.
Lle arall sy'n denu cynulleidfaoedd mawr yw Theatr y Ffwrnes. Saif y theatr ym mhen dwyreiniol canol y dref ac mae'n dyst i gariad Llanelli tuag at y celfyddydau a diwylliant. Mae'r theatr egnïol a llwyddiannus hon yn cynnig cymysgedd eclectig o adloniant. Cymerwch olwg ar y digwyddiadau diweddaraf yma https://www.theatrausirgar.co.uk/cy/beth-sy-mlaen. Yn ystod y dydd mae'r lleoliad croesawgar hwn hefyd yn cynnig siop goffi ardderchog i ymwelwyr.
Wedi'i hamgylchynu gan Harddwch
Mae Llanelli wedi'i hamgylchynu gan harddwch a byd natur. Mae'n werth ymweld â Chanolfan Gwlyptir Llanelli. Mae'n glytwaith 450 erw o lynnoedd, pyllau bas, pyllau, nentydd a lagwnau ger morfeydd heli ac arfordir hardd Cilfach Tywyn. Mae golygfeydd a synau'r parc yn newid yn ôl y tymor. Ymhlith y bywyd gwyllt y gallwch ei weld a'i glywed yr hydref hwn y bydd Crehyrod Bach, Glas y Dorlan, y Llwybig, y Pibydd Coesgoch Mannog a'r Pibydd Cambig.
Mae Mari yn byw yn Sanclêr, ond fel un o gyflwynwyr y rhaglen gylchgrawn nosweithiol Heno, mae hi'n ymweld â'r dref bron bob dydd. Caiff y rhaglen ei darlledu o stiwdios Tinopolis yng nghanol Llanelli.
Awgrymiadau Mari
Y pethau y mae 'Rhaid i Ymwelwyr eu Gwneud' – Darganfyddwch yr arfordir o amgylch Llanelli drwy fynd ar Lwybr Arfordir y Mileniwm.
Man i oedi a chymryd llun – Yfwch goctel hamddenol, gan fwynhau'r olygfa o'r arfordir, ar falconi'r bar a'r bwyty yng Nghlwb Golff a Gwledig Penrhyn Machynys.
Y Trysor Cudd – Oriel Gelf Stryd John.
Ei Ffefryn Personol – Unrhyw un o'r siopau teuluol annibynnol.
Y Daith Gerdded Orau – O amgylch y dref gan ddefnyddio llwybr plac glas Llanelli fel canllaw.
Man i gael tamaid blasus – Rhowch gynnig ar flas o Gymru ym Marchnad Llanelli.