Celf a Chrefft
Mae trefi Sir Gaerfyrddin yn orlawn o gynnyrch ein hartistiaid a'n gwneuthurwyr aml-dalentog, boed yn gwneud lledr, torri leino, peintio, crochenwaith, gwaith cerameg, cerflunio a llawer mwy.
Does dim rhyfedd. Mae gan Sir Gaerfyrddin fwy na'i siâr o fryniau, mynyddoedd, afonydd ac arfordir, felly mae cymaint o wneuthurwyr celf a chrefft wedi dewis ymgartrefu yma.
Darganfyddwch y gynneddf greadigol sydd ynoch. Ac, ochr yn ochr â hynny, ystyr newydd i 'Gwnaed yn Sir Gâr'.
Cerameg a Gwydr

Gweithdai
Beth am ddatblygu eich gallu ymarferol a'ch sgiliau mewn celf a chrefft o'ch dewis? Rhoi eich llythrennau blaen ei hun neu'ch marc gwneuthurwr ar rywbeth y gallwch ddweud gyda balchder iddo gael ei 'wneud yn Sir Gâr?' Ar draws y sir byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o ganolfannau sy'n cynnig cyrsiau a gweithdai cyffrous i wella sgiliau mewn crefftau traddodiadol a modern fel ei gilydd. Taniwch eich dychymyg mewn cwrs gwaith gof neu lluniwch wregysau ac ategolion lledr. Lluniwch lestr neu potsiwch â phaent. Buddsoddwch mewn eco-weithdy ac mewn dyfodol cynaliadwy. Rhyddhewch eich cyneddfau creadigol. Beth bynnag yw eich oedran, eich gallu, p'un a ydych mewn grŵp neu ar eich pen eich hun, mae gan Sir Gaerfyrddin le a chyfle ar gyfer eich mynegiant creadigol.

Digwyddiadau a Stiwdios Agored
Mae gan Sir Gâr fwy na'i siâr o artistiaid a gwneuthurwyr, a gaiff eu hysbrydoli gan harddwch amrywiol y sir. Maent yn agored i rannu eu storïau â chi ac i'ch croesawu i'w gweld wrth eu gwaith yn eu stiwdios eu hunain. Mae Stiwdio Agored Dyffryn Tywi yn gyfle prin i chi gael cyfranogi o'u harferion ac i ofyn cwestiynau am yr hyn sy'n eu hysbrydoli a'u cymell, yn ogystal â phrynu ffrwyth eu llafur. Manteisiwch ar y ffenestr am ddim hon i'w byd ac i ymweld ag artistiaid niferus wrth eu gwaith mewn lleoliadau amrywiol, sydd i gyd o fewn 15 milltir i dref farchnad hardd Llandeilo.
