English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Rhyddhewch eich cyneddfau creadigol

Beth am ddatblygu eich gallu ymarferol a'ch sgiliau mewn celf a chrefft o'ch dewis? Rhoi eich llythrennau blaen ei hun neu'ch marc gwneuthurwr ar rywbeth y gallwch ddweud gyda balchder iddo gael ei 'wneud yn Sir Gâr? Beth bynnag yw eich oedran, eich gallu, p'un a ydych mewn grŵp neu ar eich pen eich hun, mae gan Sir Gaerfyrddin le a chyfle ar gyfer eich mynegiant creadigol.

Gwneud crochenwaith ar olwyn crochenydd - cwrs hanner diwrnod Siramik

Location pin iconLanclynadda, Heol Alltwalis, Alltwalis, Caerfyrddin, SA32 7DY

Mae'r cwrs hanner diwrnod hwn ar olwyn crochenydd yn Stiwdio Siramik yn sgil ddifyr iawn i'w dysgu. Mae digon o le a golau yn y stiwdio hon sydd yng nghanol prydferthwch cefn gwlad, ac mae 6 olwyn crochenydd yno.

Mae'r cwrs yn cynnwys : Paratoi'r clai, Dysgu sut i ganoli'r clai ar yr olwyn, Creu silindr o'r clai hwn a Gwneud siapiau o'r silindr.  Byddwch yn gwneud 4 i 5 pot yn ystod yr hanner diwrnod.

Mae Yoka Kilkelly, sy'n grochenydd ac yn dysgu crochenwaith, wedi bod yn gwneud serameg ers yn ifanc iawn. Mae Siramik bellach yn gyfleuster addysgu arobryn sydd wedi hen ennill ei blwyf, ond mae hefyd yn cynhyrchu ei lestri ei hun wedi'u taflu a'u haddurno â llaw i chi eu defnyddio, eu dal a'u mwynhau.

Archebwch ar-lein

Penwythnos castio efydd

Location pin iconCilyrynys, Porthyrhyd, SA32 8PX

Cynhelir gweithdy'r penwythnos castio efydd mewn ffowndri arbenigol ym mryniau cefn gwlad Sir Gaerfyrddin.

Mae'r cwrs yn cynnwys hyfforddiant, deunyddiau ac offer i wneud gwrthrych bach neu gerflun mewn efydd hyd at 2 gilogram o bwysau.

Mae croeso i grwpiau a phlant hefyd.

Bydd yr arweinydd cwrs profiadol, Mark Halliday RCA, yn eich arwain drwy bob cam o'r broses, o fodelu'ch cwyr a dysgu sut i ddefnyddio cragen seramig, i wneud mowld ac yna gweld eich cerflun neu wrthrych yn cael ei arllwys.

 

Archebwch ar-lein

Cyrsiau gofannu 2 ddiwrnod

Location pin iconY Croft, Sanclêr, Caerfyrddin, SA33 4EJ

Fel y gwelwyd yn y Sunday Telegraph a'r Guardian yn ogystal â chylchgronau, gan gynnwys The Countryman, The Simple Things a Good Housekeeping.

Ar y cwrs dau ddiwrnod gallwch ddisgwyl dysgu am y canlynol; mathau gwahanol o efeiliau a sut maent yn gweithio, offer a chyfarpar gofannu sylfaenol, gwybodaeth sylfaenol am fetelau, mathau gwahanol o wres, ac ar gyfer beth cânt eu defnyddio.

Byddwch yn gwneud tua 4 eitem i fynd adref gyda chi - fel arfer pethau fel pocer syml, gwahanol fachau yn cynnwys rhai coginio, ac un eitem arall mwy o faint (naill ai braced basged hongian neu ganhwyllbren).

Gof a hyfforddwyd yn y celfyddydau (BA celfyddyd gain anrh.) yw Aaron, a dreuliodd 6 blynedd yn gweithio fel gof arddangos yn Amgueddfa Werin Cymru.

Archebwch ar-lein

Diwrnod Profiad Gof

Location pin iconMile End, Trefechan, Caerfyrddin, SA31 3QL

Amser i ddwyno'ch dwylo a gadael i'r gwreichion hedfan. Dyma gyfle i wneud pethau diddorol i fynd adref gyda chi. Profiad gwych lle gall dechreuwyr roi cynnig ar un o'r crefftau hynaf.

Mae'r cwrs yn agored i bawb dros 16 oed ac yn gallu darparu ar gyfer grwpiau, cyplau, partïon plu a phartïon ceiliogod. Byddwch yn treulio'r diwrnod wrth yr einion gan weithio gyda dur poeth, gwreichion a thân.

Yn ystod y dydd bydd sylw'n cael ei roi i'r pethau sylfaenol a byddwch yn creu ystod o eitemau gan gynnwys bachau, cylchau allweddi, agorwyr llythyrau, poceri tân a llawer o fanion eraill.

Mae'r cyrsiau'n cael eu rhedeg gan gof llawn amser proffesiynol o'r enw Will Holland AWCB o Phoenix Forge. Caiff y cyrsiau eu cynnal mewn efail broffesiynol bwrpasol, sy'n amgylchedd gwaith digon hamddenol.

Archebwch ar-lein

Dosbarth Gwneud Bwyelli

Location pin iconMile End, Trefechan, Caefyrddin, SA31 3QL

Eich cyfle i wneud eich bwyell law eich hun!

Prin yw'r pethau sy'n rhoi mwy o foddhad na rhoi lwmpyn o ddur i mewn i'r fflamau  a gadael i'r gwreichion hedfan o dan eich morthwyl wrth i chi lunio'ch bwyell eich hun.

Dysgwch sut i ofannu dur poeth mewn grwpiau bach i greu bwyell law yr un. Mae hwn yn gwrs ardderchog i grwpiau ac mae angen gweithio fel tîm i symud y metel i le rydych am iddo fynd. Erbyn diwedd y dydd bydd gennych fwyell law i fynd â hi gyda chi.

Mae Phoenix Forge yn cael ei redeg gan y gof hynod ddawnus William Holland. Mae ganddo dros ddegawd o brofiad dysgu, ac mae'r dosbarthiadau wedi'u teilwra i  lefel sgiliau a gallu pob unigolyn er mwyn sicrhau y gallwch lunio'ch darnau eich hun i fynd adref gyda chi.

Archebwch ar-lein

Diwrnod Gofannu / Gwneud Cyllyll

Location pin iconMile End, Trefechan, Caerfyrddin, SA31 3QL

Treuliwch y diwrnod yn dysgu'r grefft sy'n perthyn i wneud cyllyll yn Phoenix Forge.

Dechreuwch gydag ymarfer gofannu syml i gynhesu ac i arfer gweithio gyda'r efail, cyn cychwyn ar greu cyllell go iawn. Fel arfer, byddwch yn gwneud rhywbeth tebyg i gyllell ddeugarn ar gyfer y gegin. Rydych yn gorffen y diwrnod trwy wneud dolen addas i ffitio'ch cyllell a'ch dwylo. Erbyn diwedd y dydd bydd pawb wedi gwneud cyllell i fynd gyda nhw.

Mae'r dosbarth ar gyfer pobl dros 18 oed yn unig neu rai dan 18 oed sydd yng nghwmni gwarcheidwad.

Mae Phoenix Forge yn cael ei redeg gan y gof hynod ddawnus William Holland. Mae ganddo dros ddegawd o brofiad dysgu, ac mae'r dosbarthiadau wedi'u teilwra i  lefel sgiliau a gallu pob unigolyn er mwyn sicrhau y gallwch lunio'ch darnau eich hun i fynd adref gyda chi.

Archebwch ar-lein

Cwrs gwneud sebon drwy broses oer draddodiadol

Location pin iconNeuadd Bentref Eglwys Brechfa, Caerfyrddin, SA32 7RA

Bwriad y cwrs gwneud sebon hwn yw eich cyflwyno i'r grefft o wneud sebon drwy'r broses oer draddodiadol.

Ar y cwrs ymarferol hwn byddwch yn dysgu sut i wneud sebonau lleithio hyfryd gan ddefnyddio cynhwysion naturiol.

Nid oes angen unrhyw brofiad blaenorol o wneud sebon; mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio fel eich bod yn ddigon hyderus erbyn diwedd y dydd i wneud sebon yn eich cartref eich hun.

Byddwch yn cael canllaw gwneud sebon cam wrth gam ynghyd â thaflenni ryseitiau. Gwnewch sebon ar gyfer eich cartref eich hun neu fel rhoddion i deulu neu ffrindiau. Neu, os ydych yn ystyried dechrau busnes, mae'r cwrs hwn yn ffordd wych o ddechrau gwireddu'ch breuddwyd. Ewch â'ch creadigaethau sebonog eich hun adref.

Archebwch ar-lein

Cwrs bomiau baddon

Location pin iconNeuadd Bentref Eglwys Brechfa, Caerfyrddin, SA32 7RA

Bydd y cwrs hwn yn ddiwrnod addysgol iawn oherwydd byddwch yn dysgu gydag arbenigwr sebon a chroen mwyaf blaenllaw Cymru, ac yn cael cyfle i holi cwestiynau.   Ar ben hynny, byddwch yn dysgu gyda grŵp o bobl o'r un anian â chi, ac yn sicr yn mwynhau gwneud pob math o gynhyrchion ffisiog.

O ganlyniad, byddwch yn gorffen y diwrnod yn creu eich ystod gyntaf o hanfodion baddon.

Byddwch yn defnyddio llawer o gynhwysion naturiol i wneud eich triniaethau baddon botanegol, halwynau, clai, llewyrch a dewis mawr o liwiau. Mwy na dim, mae'n debyg mai un o'r nodweddion y mae disgwyl eiddgar amdano ar y cwrs hwn yw'r cacennau bom swigod, y mae modd eu gorffen mewn lliw o'ch dewis chi. Felly bydd yn ychwanegiad gwych at y pleser sy'n perthyn i gymryd bath.

Archebech ar-lein

Cwrs cannwyll a thryledwr

Location pin iconNeuadd Bentref Eglwys Brechfa, Caerfyrddin, SA32 7RA

Dysgwch sut i wneud eich canhwyllau a'ch tryledwyr ystafell eich hun.

Byddwch yn dysgu sut i ddefnyddio amrywiaeth o gwyr soi, olewau hanfodol ac olewau persawr, yn ogystal â lliwiau ac effeithiau gorffen trawiadol. Byddwch yn dysgu beth sy'n angenrheidiol er mwyn gwerthu'ch canhwyllau a'ch tryledwyr. Byddwn yn trafod gofynion cyfreithiol sut i addurno a labelu eich cannwyll a'ch tryledwr. Gallwch hefyd greu eich dyluniad label cannwyll eich hun a'i argraffu eich hun.

Erbyn diwedd y cwrs hwn, bydd gennych ddealltwriaeth dda o'r mathau o dryledwyr, y cwyrau llysiau sydd ar gael, a'r cwyrau gorau i'w defnyddio ar gyfer y gwahanol fathau o ganhwyllau. Byddwch yn dysgu sut mae wiciau lliw ac arogl yn effeithio ar gwyrau a'r gwahaniaeth rhwng mathau gwahanol o gwyr. Byddwch yn defnyddio cynhwysion naturiol yn unig wrth wneud y cynhyrchion hyn.

Archebwch ar-lein

Gweithdy ffeltio gwlyb gyda Fabulous Feltings

Location pin iconAbercamlais, Cil-y-cwm, Llanymddyfri, SA20 0SW

Mwynhewch weithdy ffeltio gwlyb yn stiwdio bwthyn Jane ar lan yr afon.

Ar y cwrs byddwch yn dysgu naill ai: - 3 math o ffeltio gwlyb (Basic, nuno, cobweb) ac yn mynd â 3 sampl adref - neu ffeltio gwlyb sylfaenol ynghyd â defnyddio gwrthydd i wneud darn 3D neu pot ffelt.

Ar ddiwedd y dydd byddwch wedi dysgu'r grefft sy'n perthyn i ffeltio gwlyb, wedi ailgysylltu â'ch ochr greadigol, ac yn mynd adref â darnau gwaith gwych.

Archebwch ar-lein

Dosbarth Gwneud Cleddyfau

Location pin iconMile End, Trefechan, Caerfyrddin, SA31 3QL

Rhowch gynnig ar y cwrs gofannu gorau un, a dysgwch grefft hynafol gwneud cleddyfau.

Dros y 3 diwrnod byddwch wedi ymdrin â'r holl dechnegau nid yn unig mewn theori ond yn ymarferol, i greu eich cleddyf go iawn eich hun neu gleddyf ail-greu barod i'r frwydr.

Rhaid i rai dan 18 oed fod yng nghwmni gwarcheidwad.

Mae'r cwrs hwn fwyaf addas i bobl sydd â rhywfaint o brofiad blaenorol, oherwydd faint o ofannu a thechnegau sydd ynghlwm wrth wneud eich cleddyf.

Mae Phoenix Forge yn cael ei redeg gan y gof hynod ddawnus William Holland. Mae ganddo dros ddegawd o brofiad dysgu, ac mae'r dosbarthiadau wedi'u teilwra i  lefel sgiliau a gallu pob unigolyn er mwyn sicrhau y gallwch lunio'ch darnau eich hun i fynd adref gyda chi.

Archebwch ar-lein

Cwrs Elïau a Thrwythau Naturiol i'r Croen

Location pin iconNeuadd Bentref Eglwys Brechfa, Caerfyrddin, SA32 7RA

Yr UNIG Gwrs Elïau a Thrwythau Naturiol i'r Croen yng Nghymru!

Yn y cwrs hwn, dim ond cynhwysion naturiol byddwch yn eu defnyddio a'r cyfuniad cywir o olewau, emylsyddion, a chadwolion i gynhyrchu elïau a thrwythau a fydd yn hydradu, meddalu, a lleithio'ch croen y ffordd naturiol er mwyn gwneud trwythau glanhau, trwythau i'r dwylo a'r corff, elïau i'r wyneb, elïau menyn i'r corff, eli i'r traed, ac olewau wyneb.

Byddwch yn dysgu sut i gyfuno olewau i gyflawni tasg, byddwch yn dysgu am olewau trwm ac olewau ysgafn, a hefyd effaith rhai mathau o fenyn fel Shea ar eich croen.

Ar ddiwedd y dydd, byddwch yn mynd â'ch holl greadigaethau gwych adref ynghyd â ryseitiau a chyfarwyddiadau cam wrth gam. Hefyd, tystysgrif ar gyfer Cwblhau'r Cwrs Gofal Croen.

Archebwch ar-lein

Gwŷdd Pegiau - gwehyddu pad sedd

Location pin iconPant, Meinciau Road, Mynyddygarreg, Cydweli, SA17 4RP

Ymunwch â Smallholding Secrets am ddiwrnod o wehyddu ac ymlacio. Byddwch yn dysgu sut i baratoi cnu, trefnu gwŷdd pegiau a gwehyddu pad sedd syml i fynd adref gyda chi.

Bydd dewis o gnu o wahanol fridiau o ddefaid fel y gallwch ychwanegu amrywiaeth o wead a lliw at eich pad sedd. Daw'r cnu o'u defaid eu hunain (Ryeland x Kerry Hill, a brîd prin Balwen) ac oddi wrth ffermwr lleol sydd â sawl brîd.

Gyda'r alpacas a'r defaid yn pori'n dawel yn y cae o'ch blaen, mae hwn wir yn rhywle i roi'ch gofidiau i'r neilltu a chanolbwyntio ar y dasg sydd ar waith.

Archebwch ar-lein