Nid oes rhaid i archwilio Sir Gaerfyrddin gostio dim - mae digon o weithgareddau am ddim sy'n gadael i chi fwynhau harddwch naturiol, treftadaeth gyfoethog a diwylliant bywiog y sir heb wario ceiniog. O lwybrau cerdded a beicio prydferth i amgueddfeydd diddorol, adfeilion cestyll, traethau tawel ac orielau creadigol, mae rhywbeth at ddant pawb.
Ond cofiwch, er bod mynediad i'r atyniadau hyn yn rhad ac am ddim, efallai y bydd rhai lleoedd yn codi tâl am barcio, felly mae'n werth gwirio ymlaen llaw.
P'un a ydych chi'n cynllunio diwrnod tawel yn yr awyr agored neu'n cael cipolwg ar hanes a chelf leol, mae'r awgrymiadau hyn yn cynnig ffyrdd rhad o wneud y gorau o'ch ymweliad.
Amgueddfa Sir Gâr a Pharc yr Esgob
Camwch i hanes cyfoethog Sir Gaerfyrddin yn Amgueddfa Sir Gâr, sy'n swatio ym mharcdir hardd Dyffryn Tywi. Mae'r safle hwn, a arferai fod yn balas Esgob Tyddewi, bellach yn cael ei adnabod fel crud y Dadeni Dysg yng Nghymru, sy'n cydnabod y cysylltiad â sylfeini'r iaith Gymraeg fodern a llenyddiaeth Gymraeg. Mae pensaernïaeth celf a chrefft yr amgueddfa, a'r cwrt dan do, yn eich croesawu i archwilio orielau sy'n llawn trysorau - o ffosiliau oes yr iâ ac aur Rhufeinig i Dderwen chwedlonol Myrddin a cherrig beddau canoloesol sy'n gysylltiedig â'r Brenin Arthur. Crwydrwch drwy leoedd hanesyddol sydd wedi'u hail-greu, fel bwthyn Elsa, sef bwthyn Cymreig traddodiadol, hen gegin y palas, a chapel y palas sydd wedi'i gadw mewn cyflwr arbennig. Mae'n daith ddiddorol drwy 50,000 o flynyddoedd o hanes lleol, sy'n berffaith ar gyfer meddyliau chwilfrydig a'r rhai sy'n dwlu ar dreftadaeth.


Cestyll
Dewch i ddarganfod swyn cestyll Sir Gaerfyrddin y gallwch ymweld â nhw am ddim. Mae pob un ohonyn nhw’n cynnig cipolwg unigryw ar orffennol canoloesol Cymru. Gallwch archwilio adfeilion trawiadol Castell Castellnewydd Emlyn a Chastell Dryslwyn, neu grwydro drwy'r safleoedd hanesyddol yng Nghaerfyrddin, Llanymddyfri a Llansteffan. Mae'r cestyll hyn mewn tirweddau syfrdanol - clogwyni arfordirol, bryniau tonnog a dyffrynnoedd afon - sy'n berffaith ar gyfer pobl sy'n frwd dros hanes a ffotograffwyr. P'un a ydych chi'n dringo waliau cerrig hynafol neu'n cael picnic gyda golygfeydd panoramig, mae'r cestyll yn ffordd fythgofiadwy o gysylltu â'r straeon a'r chwedlau a luniodd yr ardal.
Llwybrau cerdded a beicio di-draffig
Mae Sir Gaerfyrddin yn baradwys i gerddwyr a beicwyr sy'n awyddus i archwilio'n ddiogel heb boeni am draffig. Mae Parc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli yn cynnig llwybr gwych a gwastad ar y cyfan, sydd ag wyneb da ac sy'n ymestyn am tua 13 milltir ar hyd arfordir syfrdanol Sir Gaerfyrddin. Gan ddilyn Llwybr Arfordir enwog Cymru, mae'r llwybr di-draffig hwn yn mynd o'r Bynea yn y dwyrain i Barc Gwledig Pen-bre yn y gorllewin, ac mae'n berffaith ar gyfer teithiau cerdded hamddenol, teithiau beicio i'r teulu, neu i fwynhau golygfeydd o'r môr.
Mae llwybr Dyffryn Tywi yn ychwanegiad newydd cyffrous, sydd wedi trawsnewid hen drac rheilffordd rhwng Caerfyrddin a Llandeilo yn llwybr di-draffig 16 milltir. Mae'r llwybr prydferth hwn yn olrhain Afon Tywi hardd drwy gefn gwlad bryniog a phentrefi pert, gan gynnig ffordd heddychlon ac adfywiol o gysylltu ag un o ardaloedd naturiol mwyaf trawiadol Cymru.


Parciau Gwledig
Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn warchodfa natur 180 erw o amgylch llyn heddychlon a mawnog brin, sydd wedi'i dynodi'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. Gyda llwybrau cerdded ag wyneb da (gall cadeiriau olwyn fynd ar lawer ohonynt), rhodfa bren dros y fawnog, llwybrau beicio mynydd, a chanolfan ymwelwyr sydd â golygfeydd o'r llyn, mae'n lle gwych i deuluoedd a’r rhai sy'n dwlu ar natur. Gerllaw, mae Parc Coetir y Mynydd Mawr yn hen lofa sydd wedi'i thrawsnewid yn gymysgedd o goetiroedd a glaswelltir, gyda llwybrau cerdded, safleoedd picnic a thraciau ar gyfer beicio a marchogaeth, sy’n berffaith ar gyfer diwrnod hamddenol yn yr awyr agored.
Traethau
Gydag wyth milltir o dywod euraidd, golygfeydd hyfryd o'r aber, a glannau diogel i deuluoedd, mae arfordir Sir Gâr yn un o drysorau cudd Cymru. P'un a ydych chi am adeiladu cestyll tywod gyda'r plant, cerdded y ci ar hyd glannau tawel, neu roi cynnig ar weithgareddau arfordirol fel padlfyrddio, mae traeth addas ar gyfer pob math o achlysur. O draeth euraidd enfawr Cefn Sidan â'i statws Baner Las a'i gyfleusterau sy'n addas i deuluoedd, i'r harbwr hanesyddol ym Mhorth Tywyn heb anghofio trysorau Morfa Bychan neu Drwyn Telpyn, mae'r amrywiaeth yn ddiddiwedd. Mae Traeth Pentywyn, sy'n saith milltir o hyd, yn enwog fel man recordiadau cyflymder y byd, ac mae bellach yn ganolbwynt ar gyfer chwaraeon antur a theithiau cerdded ar hyd yr arfordir. Mae gan Lansteffan a Glanyfferi swyn pentrefi glan môr traddodiadol, gyda phyllau creigiau, cestyll, a hyd yn oed croesfan fferi afon hyfryd. Hefyd, mae gan Draeth Llanelli a Pharc Arfordirol y Mileniwm lwybrau hygyrch a mannau agored eang sy'n ddelfrydol ar gyfer cerdded, beicio, neu ymlacio wrth y môr.


Rhaeadrau Cenarth
Mae pentref cyfareddol Cenarth, sydd ar ffin orllewinol Sir Gaerfyrddin, yn gartref i Raeadrau Cenarth, sef cyfres o raeadrau bach ar Afon Teifi. Yn y lle unigryw hwn mae Sir Gaerfyrddin yn cwrdd â Cheredigion a Sir Benfro. Yn edrych dros y rhaeadrau mae Canolfan Genedlaethol y Cwrwgl, sy'n dathlu'r cychod traddodiadol a arferai gael eu defnyddio yma i bysgota brithyll y môr. Mae taith gerdded heddychlon yn dechrau wrth Bont Cenarth o'r 18fed ganrif, gan ddilyn llwybr pren uchel ar hyd yr afon a drwy goetir. Mae ymwelwyr yn aml yn gobeithio gweld yr eogiaid enwog yn neidio i fyny'r rhaeadrau ar eu taith i silio - golygfa naturiol wirioneddol arbennig.
Amgueddfa Wlân Cymru
Mae Amgueddfa Wlân Cymru, sydd wedi'i lleoli ym Melin hanesyddol y Cambria yn Nre-fach Felindre, yn dathlu diwydiant gwlân Cymru a oedd yn ffynnu ar un adeg. Gallwch ddilyn y daith ddiddorol o gnu'r ddafad i ddefnydd ar lwybrau hunan-dywys, archwilio arddangosfeydd am wneud brethyn a ffasiwn, a rhoi cynnig ar sgiliau traddodiadol fel cribo a nyddu. Mae'r amgueddfa yn adeiladau rhestredig y felin, sydd wedi'u hadfer, ac mae’n tynnu sylw at lysenw'r pentref yn Huddersfield Cymru am ei rôl wrth gynhyrchu gwlân, gan gynnig profiad ymarferol ac addysgol i bob oedran.


Cronfa Ddŵr Llyn Brianne
Wedi'i lleoli bron i 300 metr uwchlaw lefel y môr ym Mynyddoedd Cambria, Llyn Brianne yw'r gronfa ddŵr argae fwyaf yn Ewrop sydd wedi'i hadeiladu â cherrig, ac mae'n dal dros 64 miliwn metr ciwbig o ddŵr. Cafodd ei chreu ddechrau'r 1970au drwy godi argae ar draws Afon Tywi a'r dyfrffyrdd cyfagos, a dyma lyn mwyaf de Cymru yn ôl cyfaint. Mae'r argae hefyd yn gartref i orsaf bŵer hydro-electrig. Gall ymwelwyr fwynhau gwylio adar, pysgota, syllu ar y sêr, beicio mynydd, a llwybrau cerdded o amgylch y llyn a'r goedwig gyfagos, sy’n golygu ei fod yn lle syfrdanol i'r rhai sy'n dwlu ar yr awyr agored.
Marchnad Caerfyrddin a Llanelli
Am awyrgylch bywiog a bargeinion gwych, mae'n anodd curo marchnadoedd traddodiadol Sir Gaerfyrddin. Mae Marchnad Caerfyrddin, sydd â hanes sy'n rhychwantu dros 800 mlynedd a gwreiddiau sy'n dyddio'n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid, yn baradwys i bobl sy'n dwlu ar fwyd, ac mae'n cynnig rhai o'r cynhyrchion lleol gorau yng Nghymru. Mewn neuadd olau ac agored, cewch stondinau sy'n llawn cigoedd ffres, pysgod, cawsiau, nwyddau wedi'u pobi, a ffrwythau a llysiau lliwgar. Yn ogystal â bwyd, mae'r marchnadoedd yn cynnwys amrywiaeth o grefftau, hen bethau, ffasiwn, a siopau arbenigol, gan gynnwys cigyddion, gwerthwyr pysgod, delis, caffis, a hyd yn oed siopau trin gwallt. Mae’r masnachwyr cyfeillgar yn cynnig croeso cynnes a digon o dynnu coes, sy'n golygu bod ymweliad â'r farchnad nid yn unig yn daith siopa ond yn brofiad cymdeithasol. Mae Marchnad Llanelli yn cynnig amrywiaeth debyg o stondinau, sy'n arddangos cynnyrch artisan lleol a hanfodion dyddiol. P'un a ydych chi'n chwilio am anrhegion unigryw, neu’n mwynhau pryd sylweddol neu'r awyrgylch bywiog, mae'r marchnadoedd hyn yn cynnig ffenestr ddiddorol i dreftadaeth gyfoethog a phresennol cyffrous Sir Gaerfyrddin.


Parc Howard
Archwiliwch dreftadaeth ac arloesedd Llanelli yn Amgueddfa Parc Howard, sef hen blasty trawiadol wedi'i leoli mewn gerddi hardd. Mae'r amgueddfa yn cynnwys arddangosfeydd ar ddyfeisiadau lleol - fel olwyn sbâr gyntaf y byd (y Stepney), a sylfaenydd Specsavers - yn ogystal ag orielau rhyngweithiol fel Oriel Imaginarium, lle mae chwarae a chreadigrwydd yn dod yn fyw. Gyda mannau wedi'u hadnewyddu sy'n arddangos paentiadau a chrochenwaith, mae Parc Howard yn lle cyfeillgar i deuluoedd sy'n llawn hanes, dychymyg ac ysbryd cymunedol.
Llwybr pen-blwydd Dylan Thomas
Dilynwch ôl troed Dylan Thomas ar y llwybr pen-blwydd 2 filltir yr ysgrifennodd amdano yn ei gerdd enwog, 'Poem in October’. Gan ddechrau yng nghartref prydferth Dylan Thomas, sy'n edrych dros yr aber, mae'r llwybr yn mynd â chi heibio i Gastell Talacharn, ar hyd Railsgate Pill, ac i fyny i Fryn Syr John. Gallwch fwynhau golygfeydd arfordirol ysblennydd o'r aber, Gŵyr, Ynys Bŷr, a thu hwnt, yn ogystal â bywyd gwyllt a byrddau gwybodaeth am Thomas a'r ardal.


Tŵr Paxton
Ar ben bryn ger Llanarthne yn Nyffryn Tywi, mae Tŵr Paxton yn strwythur Neo-Gothig trawiadol a adeiladwyd rhwng 1805 a 1808 yn gofeb i'r Prif Lyngesydd, yr Arglwydd Nelson. Mae'n debyg ei fod wedi'i ddylunio gan Samuel Pepys Cockerell. Mae'r tŵr 200 oed yn cynnig golygfeydd panoramig dros y dyffryn ac mae'n dirnod hanesyddol o bwys. Gall ymwelwyr archwilio'r tŵr, edmygu ei bensaernïaeth unigryw a mwynhau'r wlad heddychlon o'i amgylch.
Gwarchodfa Natur Gwenffrwd-Dinas yr RSPB
Mae Gwarchodfa Gwenffrwd-Dinas yr RSPB, sy'n swatio yng nghalon canolbarth Cymru, yn warchodfa goetir syfrdanol sy'n llawn bywyd gwyllt a harddwch naturiol. Gallwch grwydro drwy goedwigoedd derw a gwern hynafol, lle mae carpedi o glychau'r gog llachar a chennau gwyrdd toreithiog yn creu awyrgylch hudolus. Mae dyffrynoedd serth ac afonydd sy'n llifo'n gyflym yn y warchodfa yn bwydo Afon Tywi, gan ddarparu cynefinoedd delfrydol ar gyfer amrywiaeth o adar, gan gynnwys Barcutiaid Coch, Gwybedogion Brith, Tingochiaid, Teloriaid y Coed, a Bwncathod. Mae Coetir Derw yr Iwerydd, fel coedwig law Geltaidd, yn cynnal poblogaethau helaeth o fwsoglau a chennau, tra bod glaswelltiroedd yr ucheldir a dolydd blodau gwyllt yn ychwanegu at amrywiaeth y dirwedd. Mae pori yn cadw'r coetir yn agored ac yn sicrhau bod clychau'r gog yn ffynnu. Gyda llwybrau garw a golygfeydd syfrdanol, mae'n rhaid i wylwyr adar, y rhai sy'n dwlu ar natur, ac unrhyw un sy'n dymuno profi calon wyllt Sir Gaerfyrddin, ymweld â Gwenffrwd-Dinas. Cofiwch wisgo esgidiau cadarn a chymryd gofal ar y llwybrau mwy serth.


Abaty Talyllychau
Wedi'i sefydlu yn y 1180au gan Rhys ap Gruffydd, a elwid yn Arglwydd Rhys, mae Abaty Talyllychau yn adfail canoloesol cyfareddol wrth ymyl dau lyn tawel. Dyma'r abaty Premonstratensaidd cyntaf, a'r unig abaty o’r math hwn, yng Nghymru, ac roedd yn gartref i'r mynachod 'Canon Gwyn' a enwyd yn ôl eu habidau gwyn nodweddiadol. Er na chafodd ei gwblhau oherwydd diffyg arian, mae tŵr eglwys trawiadol yr abaty yn dal i sefyll bron yn gyfan, gan gynnig cipolwg ar y weledigaeth uchelgeisiol y tu ôl i'r safle hanesyddol hwn. Yn wahanol i'r abatai Sistersaidd cyfoethocach ledled Cymru, mae adfeilion mwy cyffredin Talyllychau yn fan heddychlon ac atgofus sy'n llawn hanes a harddwch naturiol.
Goleudy a thraeth Porth Tywyn
Darganfyddwch dref glan môr hudolus Porth Tywyn, ar hyd aber Afon Llwchwr, sy’n llawn treftadaeth ddiwydiannol. Enillodd y dref enwogrwydd byd-eang ym mis Mehefin 1928 pan laniodd awyren fôr Amelia Earhart, Friendship, yma ar ôl ei hediad trawsatlantig hanesyddol - camp sy'n cael ei choffáu gan Gerddi Amelia Earhart a chofeb restredig Gradd II ar lan yr harbwr. Roedd Goleudy eiconig Porth Tywyn, sy'n sefyll ers 1842 ar y morglawdd gorllewinol, ar un adeg yn tywys llongau'n ddiogel i'r doc allforio glo pwysig hwn, ac mae bellach yn hoff dirnod i'r clwb hwylio lleol. Cerddwch ar hyd yr harbwr prydferth, mwynhewch olygfeydd godidog ar draws Penrhyn Gŵyr, a gwyliwch gychod hwylio yn siglo yn y marina – dyma le delfrydol i fynd am dro hamddenol a chael hufen iâ. Mae traethau tywodlyd ar y naill ochr a'r llall i'r harbwr yn croesawu cŵn drwy gydol y flwyddyn, sy'n golygu bod Porth Tywyn yn hoff le i deuluoedd, pobl leol ac ymwelwyr sydd eisiau awyr iach y môr ac ymlacio gyda golygfa.


Coedwig Cwm Rhaeadr
Yn cuddio yn Nyffryn Tywi tawel, ger Cil-y-cwm, mae Coedwig Cwm Rhaeadr yn ddihangfa heddychlon i fyd natur, ac mae rhywbeth at ddant pawb. Mae Taith Gerdded y Rhaeadr yn arwain at olygfeydd godidog o'r rhaeadr uchaf yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r goedwig yn cynnwys cymysgedd o gonwydd uchel a choed llydanddail brodorol, gyda chlychau'r gog yn garped ar lawr y coetir yn y gwanwyn. Mae llwybr coetir byr, hygyrch sy'n berffaith i fynd am dro bach hamddenol, a gall beicwyr mynydd profiadol ymgymryd â'r llwybr beicio heriol gradd goch, sef dolen gyffrous 6.7km sy'n werth y dargyfeiriad o'r prif lwybrau ym Mrechfa. P'un a ydych chi yma am daith gerdded brydferth, picnic tawel, neu daith llawn adrenalin, mae Cwm Rhaeadr yn cynnig harddwch naturiol ym mhob tymor.
Orielau
Mae Sir Gaerfyrddin yn hafan i bobl sy'n dwlu ar gelf ac sy'n frwd dros grefftau, gan fod orielau a chanolfannau crefft yn arddangos gwaith gwneuthurwyr lleol talentog, sy’n berffaith ar gyfer chwilio neu brynu rhywbeth unigryw o Gymru. O serameg a gwydr i gemwaith, tecstilau a gwaith celf gwreiddiol, cewch ddarnau ysbrydoledig sy'n adlewyrchu tirwedd a diwylliant y sir. Mae nifer o orielau yn cynnwys arddangosfeydd sy'n cylchdroi, stiwdios gweithio, a mannau dan arweiniad artistiaid, lle mae croeso i chi bori bob amser. P'un a ydych chi'n chwilio am ysbrydoliaeth neu rodd ystyrlon, mae archwilio'r lleoedd creadigol hyn yn ffordd hamddenol o dreulio diwrnod yng nghanol celf.


Canolfan y Mynydd Du
Mae Canolfan y Mynydd Du ym Mrynaman yn ganolbwynt gwirioneddol i'r gymuned ac yn cynnig croeso cynnes i ymwelwyr a phobl leol fel ei gilydd. Galwch heibio am de a choffi am ddim yn y Man Cynnes yn ystod yr wythnos (2–5pm), a mwynhewch sgwrs, gemau bwrdd neu ymlacio yn y Caffi Cymunedol clyd. Mae'r ganolfan hefyd yn cynnal amrywiaeth o grwpiau cymdeithasol a gweithgareddau am ddim, ynghyd â llyfrgell ran-amser, mynediad i'r rhyngrwyd, a gwybodaeth ddefnyddiol i dwristiaid, sy’n berffaith ar gyfer cynllunio eich stop nesaf yn Sir Gaerfyrddin.