English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

(RSPB) Rhandir-mwyn

Taith Gerdded y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB) yn Rhandir-mwyn

Mae'r daith gerdded brydferth hon o amgylch Gwarchodfa Natur Gwenffrwd/Dinas mewn rhan dawel o Sir Gaerfyrddin.

Mae hanner y llwybr a argymhellir dros dir garw, ond mae'r gweddill yn hwylus i'r rhan fwyaf o ymwelwyr. Mae'r rhodfa bren yn eich arwain drwy'r coetir gwern, a'r tu hwnt i'r rhodfa bren mae coetir derw hynafol a rhan uchaf afon Tywi.

Mae'r warchodfa natur hon a reolir gan yr RSPB yn drysor, ac nid i wylwyr adar yn unig. Mae pedair rhywogaeth nodweddiadol o adar i'w canfod yn yr haf yn y coedwigoedd derw ucheldirol hyn – sef y Gwybedog Brith, Telor y Coed, Pibydd y Coed, a'r Tingoch. Hwn oedd cadarnle olaf y Barcud Coch ar adeg pan gafodd ei erlid bron i ddifodiant ym Mhrydain, ond bellach fe'i gwelir yn rheolaidd yn yr ardal hon ynghyd â'r Hebog Tramor a'r Boda.

Mae llawer o'r llwybr ger afon Tywi ac yn arw, yn anwastad, yn greigiog ac yn llithrig mewn mannau pan fydd hi'n wlyb. Argymhellir mai dim ond y rheiny sy'n abl ac yn gyfarwydd â cherdded ar fryniau garw sy'n defnyddio'r darn hwn.

Mae'r ffordd o Lanymddyfri ar lan afon Tywi yn fendigedig ac mae gan bentrefi swynol Rhandir-mwyn a Chil-y-cwm dafarndai, caffis a swyddfa bost.

Map o daith gerdded gyda mannau o ddiddordeb

 

Lawrlwytho taith gerdded                    Plotaroute 

Pam Cerdded?
Mae'r warchodfa natur hon a reolir gan yr RSPB yn drysor, ac nid i wylwyr adar yn unig. Mae pedair rhywogaeth nodweddiadol o adar i'w canfod yn yr haf yn y coedwigoedd derw ucheldirol hyn – sef y Gwybedog Brith, Telor y Coed, Pibydd y Coed, a'r Tingoch. Hwn oedd cadarnle olaf y Barcud Coch ar adeg pan gafodd ei erlid bron i ddifodiant ym Mhrydain, ond bellach fe'i gwelir yn rheolaidd yn yr ardal hon ynghyd â'r Hebog Tramor a'r Boda. Mae'r ffordd o Lanymddyfri ar lan afon Tywi yn fendigedig ac mae gan bentrefi swynol Rhandir-mwyn a Chil-y-cwm dafarndai, caffis a swyddfa bost.

Pa mor Hir?
Mae'r daith gyfan yn 3.2 cilometr (2 filltir), gan ddringo a disgyn 104 metr (341 troedfedd).

Pa mor Anodd?
Mae hanner y llwybr a argymhellir dros dir garw, ond mae'r gweddill yn hwylus i'r rhan fwyaf o ymwelwyr. Mae'r rhodfa bren yn eich arwain drwy'r coetir gwern, a'r tu hwnt i'r rhodfa bren mae coetir derw hynafol a rhan uchaf afon Tywi.

Man Cychwyn / Maes Parcio - Gwarchodfa Natur Gwenffrwd/Dinas (Y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar)

Trafnidiaeth Gyhoeddus - Llanymddyfri 16 cilometr / 10 milltir

Lluniaeth - ✘ ond mae mannau picnic yn y warchodfa

 

Taith Gerdded Rhandir-mwyn

 

Mannau o Ddiddordeb

1. Yn hwyr yn y gwanwyn ac yn gynnar yn yr haf mae'r Gwybedog Brith yn cyrraedd ac yn defnyddio'r blychau nythu ar y naill ochr a'r llall i'r rhodfa bren.

2. Gellir gweld y Siglen Lwyd, y Fronfraith Fach, a'r Siglen Fraith ar lannau'r afon ac ar glogfeini yn yr afon, wrth iddynt chwilio am drychfilod i fwydo arnynt.

3. Mae llwybr serth oddi ar y prif lwybr sy'n arwain at Ogof Twm Sion Cati, a ddefnyddiodd y bryniau diarffordd hyn am flynyddoedd i osgoi'r awdurdodau. Yn ôl y sôn, arferai guddio mewn ogof yn y bryn hwn.

4.Mae'r coetir derw yn rhan o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac Ardal Cadwraeth Arbennig Cwm Doethie – Mynydd Mallaen. Gelwir y coetiroedd ucheldirol hyn weithiau'n Goetir Derw yr Iwerydd neu'n Goedwig Law Geltaidd. Gan fod y ddaear, y coed a'r creigiau (yn enwedig ar y llethrau gogleddol) yn llaith drwy'r flwyddyn, mae hynny'n ffafrio bywyd planhigol fel Cennau a Bryoffytau, ac mae rhai ohonynt yn brin.

5. Mae rhan uchaf afon Tywi yn rhaeadru dros gymysgedd o glogfeini mawrion cyn plymio i bwll dwfn lle mae'n ymuno ag afon Doethie - golygfa hynod drawiadol pan fydd llif.

6. Mae'r llethrau deheuol mwy heulog yn garped glas o glychau'r gog yn y gwanwyn ac ar ddechrau'r haf.

7. Ger y maes parcio saif Eglwys Sant Paulinus, sy'n adeilad rhestredig Gradd 2, y credir ei bod yn dyddio'n ôl i 1617 ac wedi'i hailadeiladu yn 1821. Mae'r gloch yn dyddio'n ôl i 1897.

8. Llai na 2 gilometr i ffwrdd ar ddiwedd y ffordd y mae wal argae drawiadol cronfa ddŵr Llyn Brianne, a cheir coedwigoedd pinwydd helaeth ar bob llaw (maes parcio ar gael).

Gwenffrwd Dinas

Dyffryn Rhandirmwyn