Fel llawer o drefi a phentrefi bach ar hyd arfordir De Cymru, mae gan Borth Tywyn a Phen-bre eu gwreiddiau mewn diwydiant trwm. Adeiladwyd Harbwr Porth Tywyn yn y 1830au i gludo glo o Gwm Gwendraeth. Ymhen amser, daeth gwaith tunplat, copr, arian a phlwm yn rhan o'r norm. Hyd at 1965 , roedd gwaith arfau rhyfel yn cynhyrchu TNT ac amoniwm nitrad yn niogelwch cymharol Twyni Pen-bre gerllaw.
Mae'n siŵr nad ydych yn gwybod am hyn heddiw gan nad oes llawer o olion o'r gwaith. Mae Twyni Pen-bre bellach yn gartref i un o atyniadau mwyaf poblogaidd Cymru, sef Parc Gwledig Pen-bre a thraeth Cefn Sidan. Mae Parc Arfordirol y Mileniwm, llwybr cerdded a llwybr beicio 13 milltir di-draffig, yn mynd o Bynea yn y dwyrain trwy Borth Tywyn, cyn dod i ben ym Mhen-bre.
Darllenwch fwy i ddysgu bod mwy i'r ardal na threftadaeth diwylliannol.
Ymweliad cyflym
Daeth Porth Tywyn yn adnabyddus ym Mehefin 1928 pan ddaeth Amelia Earhart i’r lan ar ôl i’w hawyren ‘Friendship’ lanio ar aber Afon Llwchwr wedi iddi hedfan dros Fôr yr Iwerydd am y tro cyntaf. Mae ei llwyddiant yn cael ei goffau yng Ngerddi Amelia Earhart yng nghanol y dref a saif cofeb restredig Gradd II ar ochr yr harbwr. Treuliodd Amelia, ei pheilot a’i mecanic, y noson yng Ngwesty Ashburnham ym Mhen-bre – mae’r bwyty wedi’i enwi er teyrnged iddi.
Golff ar ei orau
Mae Ashburnham yn enw a fydd yn gyfarwydd i golffwyr. Mae Clwb Golff Ashburnham yn un o'r cyrsiau golff gorau yng Nghymru. Dywedodd Harry Vardon, un o sêr cyntaf y byd golff a chwaraeodd yma ym 1904, “Dyma fy hoff gwrs golff yng Nghymru”. Mae'r harddwch a’r her y mae'r cwrs pencampwriaeth hwn yn ei gynnig yn dal i gael ei gydnabod heddiw, gan iddo gael ei ddewis fel lleoliad ar gyfer Pencampwriaeth Agored Hŷn Cymru 2014 a 2017.
Goleudy o'r Gorffennol
Mae Goleudy Porth Tywyn, sydd wedi'i leoli ar forglawdd gorllewinol yr harbwr allanol ers 1842, ymhlith yr ychydig bethau sy’n ein hatgoffa bod hwn yn ddoc allforio glo pwysig yn y gorffennol. Heddiw, mae'n dirnod ar gyfer y clwb cychod hwylio lleol. Mae yna daith bleserus ar hyd harbwr Porth Tywyn (yn enwedig os oes gyda chi hufen iâ yn eich llaw), ac mae modd gweld golygfeydd godidog ar draws y dŵr i Benrhyn Gŵyr a'r cychod hwylio'n tincial. Mae darnau tywodlyd o'r traeth ar naill ben yr harbwr a'r llall yn caniatáu cŵn drwy gydol y flwyddyn, sy'n eu gwneud yn boblogaidd ymhlith pobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Does dim byd gwell na sglodion a physgod
Mae'n siŵr y gall pawb gytuno nad oes modd ymweld â glan môr heb gael sglodion a physgod. Ewch draw i Joseph’s Fish Bar yn y dref ac fe gewch chi'r sglodion a physgod mwyaf blasus yn y byd. Byddwch yn saff hefyd o lanw eich bol. A sôn am bysgod, mae bob amser yn werth edrych ar y bwrdd pysgod arbennig yn nhafarn boblogaidd Hope and Anchor, Heol Stepney. Os byddwch chi’n lwcus, bydd y penfras wedi'i lapio mewn cig moch gyda saws cocos a bara lawr ar y fwydlen.
Yn Pembre, mae yna ddigonedd o opsiynau fegan a llysieuol yng Pantri Lolfa i'r sawl sy'n dymuno, ac mae'r cyfan â naws Gymreig arbennig. Fel cynifer o lefydd yn Sir Gaerfyrddin, croesawir cŵn. Yng yn ystafell de’r Harbour Light, maen nhw wedi mynd gam ymhellach, ac yn cynnig “cwrw i gŵn”, sef dŵr o gasgen gwrw iawn i gŵn. Mae’n deg dweud bod Porth Tywyn yn dod yn fwy a mwy adnabyddus am ei bwyd gwych i gyd-fynd â’r golygfeydd gwych, y traeth a’r teithiau cerdded.
Bwrlwm y Parc
Tua 10 munud mewn car i’r dwyrain o Borth Tywyn, mewn 500 erw o barcdir godidog, mae Traeth a Pharc Gwledig Pen-bre. Bydd aelodau ifanc o’r teulu wrth eu bodd â’r cwrs golff giamocs 18-twll a bydd y maes chwarae antur yn rhoi digon o gyfle iddynt losgi egni dros ben. Bydd pobl ifanc egnïol yn mwynhau mynd ar redfa tobogan hiraf Cymru a sgïo, ac eirfyrddio ar lethr sych 130 metr. Ac i'r rhai sydd eisiau ymlacio rhywfaint (neu dreulio amser ar wahân i'r teulu!), mae yna nifer o lwybrau coetir heddychlon a llwybrau parcdir y gallwch chi eu troedio neu fynd ar feic arnynt.
Cyfrinachau'r traeth
Ar ymyl deheuol y parc gwledig fe welwch chi dwyni a thraeth Cefn Sidan – traeth hiraf Cymru, sy’n 8 milltir o hyd. Mae hefyd wedi ennill mwy o wobrau Baner Las nag unrhyw draeth arall yng Nghymru – 23 i gyd. Ar ddiwrnod clir cewch weld golygfeydd godidog cyn belled i'r gorllewin ag Ynys Bŷr, draw i Ynys Wair, ac yna draw i Benrhyn Gŵyr. Mae’n ffefryn gyda thorheulwyr, nofwyr a cherddwyr fel ei gilydd. Ond adeg llanw isel datgelir hanes tywyll y rhan hon o'r arfordir, pan ddaw olion nifer o hen longddrylliadau i'r amlwg. Cafodd rhai eu diwedd o achos y llanw ffyrnig a glannau bas Môr Hafren, a chafodd eraill eu hudo gan gangiau o ysbeilwyr a oedd wedyn yn lladrata eu cargo gwerthfawr.
Hanes cyffrous
Cylch Rasio Pen-bre yw cartref chwaraeon moduro Cymru, a gallwch fynd ar y trac trwy archebu un o'r tri phrofiad gyrru y maent yn eu cynnig yno. Mae rhai o'r goreuon wedi gyrru ar y trac sy'n 1.46 milltir fesul lap; ac mae’r timau Fformiwla Un i gyd wedi gyrru yma gan gynnwys McLaren a Williams. Cafodd y record am y lap gorau– er yn answyddogol – ei osod gan Ayrton Senna. Mae llawer o rasys yn cael eu cynnal ar y trac trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys rasio tryciau, ceir a beiciau a gall gwylwyr weld tipyn go lew o’r trac o bron bob un o'r mannau gwylio.
Argymhellion
Rhaid Gwneud - Cael profiad o rasio ar drac rasio Pen-bre.
Man i gael tamaid blasus – Te prynhawn i bobl a “chwrw i gŵn yn Ystafell de Harbour Light
Cyfle i dynnu llun - Goleudy Porth Tywyn yn edrych allan dros Fae Caerfyrddin
Y Trysor Cudd – Gerddi Amelia Earhart a dylanwad Porth Tywyn yn hanes hedfan.
Y Daith Gerdded Orau - Dilynwch lwybr Treftadaeth Pen-bre a Phorth Tywyn sy’n cwmpasu naw ardal o Borth Tywyn i Barc Gwledig Pen-bre.