Mae tref farchnad hanesyddol Caerfyrddin, sy'n golygu caer Myrddin, yn llawn chwedlau Arthuraidd, a'r gred gyffredin yw mai dyma fan geni'r dewin Myrddin.
Wrth gyrraedd ar y trên, byddwch yn camu i dref groesawgar lle mae tirnodau hynafol, teithiau cerdded â golygfeydd hyfryd ar lan yr afon, siopau annibynnol, mannau diwylliannol a chaffis croesawgar yn barod amdanoch. Arhoswch yng Ngwesty'r Falcon yng nghanol y dref a threuliwch eich amser yn darganfod y chwedlau, y tirweddau a'r straeon sy'n rhan o'r dref, lle mae pob cornel yn datgelu cysylltiad â gorffennol chwedlonol Cymru.
P'un a ydych chi yma am yr hanes, y siopa, y bwyd neu'r awyr iach, mae Caerfyrddin yn eich gwahodd i arafu, i grwydro ac i ddarganfod ei hamryfal haenau.
Camwch i fyd chwedlonol Myrddin a darganfod un o drefi hynaf Cymru ar wyliau byr hudolus i Gaerfyrddin.
1.
Ardal Myrddin
Mae cysylltiad dwfn gan dref Caerfyrddin â Myrddin. Yn ôl y chwedl leol, cafodd Myrddin ei eni yng Nghaerfyrddin. Aeth ati i broffwydo, pe bai'r dderwen hynafol, sy'n cael ei galw'n dderwen Myrddin, byth yn cwympo, byddai trychineb yn taro'r dref.
Er nad yw'r goeden wreiddiol yn sefyll mwyach, mae ei stori'n dal i fod wedi'i phlethu â hunaniaeth y dref ac mae'n cael ei harddangos yn Amgueddfa Sir Gâr, sydd wedi'i lleoli ym Mharc yr Esgob, yn hen Balas Esgobion Tyddewi. Yma, mae casgliadau toreithiog o archaeoleg, celfyddyd gain a llên gwerin yn datgelu straeon pobl a lleoedd Sir Gâr.
Treuliwch amser yn crwydro canol y dref a darganfod y cyfeiriadau niferus at Myrddin wrth fwynhau hanes cyfoethog un o drefi hynaf Cymru.
2.
Y celfyddydau, hanes, treftadaeth a diwylliant
Dechreuwch eich taith yng Nghastell Caerfyrddin sy'n sefyll uwchben y dref, lle mae golygfa dda ac adfeilion sy'n adleisio grym Normanaidd, gwrthryfel a chyfiawnder.
Darganfyddwch olion o orffennol hynafol y dref yn yr Amffitheatr Rufeinig, sy'n dyddio'n ôl bron i 2,000 o flynyddoedd, ac ymchwiliwch yn ddyfnach i hanes lleol yn Archifau Sir Gaerfyrddin.
Camwch i Eglwys San Pedr, adeilad hynaf y dref a'r man lle mae beddrod trawiadol Syr Rhys ap Thomas, sy'n enwog am daro'r ergyd farwol pan laddwyd Brenin Richard III.
I gael cyferbyniad modern o ran diwylliant, ewch i Oriel Myrddin, sy'n arddangos celf feiddgar Gymreig a rhyngwladol, neu ewch i fwynhau ychydig o theatr, comedi a sinema yn Theatr y Lyric.
Nid oes unrhyw ymweliad yn gyflawn heb fynd am dro bach drwy Farchnad Caerfyrddin, sy'n un o'r hynaf yng Nghymru, lle mae cynnyrch lleol, crefftau ac ysbryd cymunedol yn dod â bywyd i'r dref.
3.
Awyr iach ac anturiaethau ar lan yr afon
Mae Afon Tywi yng Nghaerfyrddin yn ddelfrydol ar gyfer archwilio yn yr awyr agored. Mwynhewch deithiau cerdded heddychlon ar lan yr afon a safleoedd hanesyddol, gan gynnwys Parc Caerfyrddin, sef man gwyrdd poblogaidd yng nghanol y dref lle mae un o felodromau hynaf Cymru.
I'r rhai sy'n chwilio am antur hirach, mae Llwybr Dyffryn Tywi yn cynnig llwybr di-draffig hardd 13 milltir o hyd sydd â golygfeydd o gestyll, cefn gwlad bryniog a Bryn Myrddin, y credir mai dyma fan gorffwys olaf Myrddin. Gall ymwelwyr hefyd logi e-feiciau Brompton o Orsaf Fysiau Caerfyrddin, gan ei gwneud hi'n hawdd archwilio'r sir ar eu cyflymdra eu hunain.
Ewch i'r dŵr gan gaiacio a phadlfyrddio yng Nghanolfan y Cei hanesyddol i gael persbectif newydd, neu ewch am dro gan ddilyn y Llwybr Placiau Glas i weld treftadaeth gyfoethog y dref. Mae dewis o lwybrau'r dref yn ei gwneud hi'n hawdd crwydro ar eich cyflymdra eich hun gan fwynhau cyfuniad unigryw o natur, hanes a chwedlau Caerfyrddin.
4.
Siopa, chwilota, darganfod
O frandiau mawr i bethau hollol unigryw, mae Caerfyrddin yn cynnig rhywbeth i bob siopwr. Ewch i'r siopau annibynnol sy'n llawn cymeriad yn Heol y Brenin, Heol Las a Maes Nott.
Mae Marchnad Caerfyrddin yn llawn masnachwyr lleol, cynnyrch ffres a hanfodion bob dydd. Ledled y dref fe gewch hyd i gynnyrch artisan, cigyddion traddodiadol, hen bethau, ac amryw wasanaethau iechyd a harddwch.
I weld enwau cyfarwydd y Stryd Fawr, ewch i Rodfa'r Santes Catrin neu Faes Myrddin.
5.
Bwyta'n dda, ar eich traed yn hwyr
Mae sîn bwyd a diod y dref wir yn rhagori. O gaffis hamddenol sy'n gweini platiau tymhorol i fwytai chwaethus sy'n berffaith ar gyfer bwyta gyda'r nos. Ceir bwydlenni sy'n dathlu blasau traddodiadol Cymreig ochr yn ochr â phrydau a ysbrydolir gan fwydydd o bob cwr o'r byd, sy'n dangos bod yma sîn goginio mawr ei hamrywiaeth.
Boed yn stecen wedi'i choginio'n berffaith, prydau cyffrous o bedwar ban, neu gynhwysion lleol ffres, mae gwledd yn eich disgwyl yng Nghaerfyrddin. Wrth i'r nos araf ddisgyn, manteisiwch ar y bariau hamddenol a'r llecynnau clyd sy'n ddelfrydol am goctel, gwydraid o win neu unrhyw ddiod o'ch dewis yng nghwmni cyfeillion — ffordd hyfryd o ddod â diwrnod o grwydro'r dref i ben.
6.
Ar gyfer anturiaethwyr bach
Mae digon i deuluoedd ei fwynhau, o weithdai ymarferol yn Llyfrgell Caerfyrddin i anturiaethau chwarae meddal yn Sgiliau a Chanolfan Hamdden Caerfyrddin, a sbri di-ri wrth fowlio deg yn Xcel Bowl.
Bydd plant egnïol wrth eu bodd yng Nghanolfan Ddringo Overhang, a gall pobl sy'n hoff o ffilmiau ddal y goreuon diweddaraf yn Sinema Vue.
I gael diwrnod allan cofiadwy ychydig y tu allan i'r dref, neidiwch ar hen drên stêm Rheilffordd Gwili.
I gael profiad bywyd gwyllt bythgofiadwy, mae Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain yn cynnig cyfle i weld eryrod, tylluanod a hebogiaid godidog yn agos.
7.
Beth sy' mlan – Trwy gydol y flwyddyn
Mae calendr Caerfyrddin yn llawn digwyddiadau sy'n dod â bywyd i'r dref. Trwy gydol y flwyddyn, gallwch ddisgwyl adloniant stryd, marchnadoedd tymhorol a cherddoriaeth fyw.
Ymhlith yr uchafbwyntiau mae Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi ym Mawrth, Penwythnos Mawr Parc Caerfyrddin a Marchnad Fegan ym Mehefin, Gŵyl Canol Dre bob Gorffennaf ym Mharc Myrddin, a Chynnau'r Goleuadau Nadolig.
8.
Siwrnai ddychwelyd yn opsiynol
Ewch y tu hwnt i Gaerfyrddin ar eich antur. Dewch i ymweld â Chydweli, cartref un o'r enghreifftiau gorau o gastell Normanaidd sydd wedi goroesi yng Nghymru ac sy'n llawn chwedlau. Yn gysylltiedig â'r Dywysoges Gwenllian, mae'r dref hefyd yn adnabyddus am stori am gath ddu ddirgel, y mae sôn iddi ymddangos ar ôl cyfnod o ddinistr, sy'n symbol o wydnwch a goroesiad mewn llên gwerin leol.
Fel arall, teithiwch i Borth Tywyn, tref glan môr hyfryd sy'n gysylltiedig ag Amelia Earhart yn glanio yno yn 1928. Mwynhewch olygfeydd o'r harbwr, traeth tywodlyd a goleudy, neu ewch ar daith ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm i weld golygfeydd ysgubol ar draws Bae Caerfyrddin.
9.
Lleoedd i aros
Mae Gwesty'r Falcon, sydd mewn lle delfrydol yng nghanol y dref, yn lle cyfforddus a chyfleus i archwilio Caerfyrddin. Mae o fewn pellter cerdded i'r orsaf reilffordd, siopau, caffis ac atyniadau ac mae'n fan cychwyn perffaith ar gyfer gwyliau bach sy'n llawn chwedlau.
I'r rhai sydd am aros ychydig y tu hwnt i'r dref, mae modd dod o hyd i amrywiaeth o opsiynau hyfryd gerllaw. Mae'r Hen Dŷ Ysgol yn Llanddarog, Cartws yn Pentrecelyn a Tŷ Mawr ym Mhrechfa yn cynnig encilion heddychlon yng nghefn gwlad sydd o fewn cyrraedd hawdd i Gaerfyrddin. I gael dihangfa arfordirol, ewch i Lansteffan, lle mae mannau hardd i aros ar lan y môr yn cynnig golygfeydd godidog a mynediad i draethau tywodlyd.
I weld llety posibl eraill, gan gynnwys gwestai, tai llety ac encilion yng nghefn gwlad ledled y rhanbarth, ewch i tudalen Aros yn Sir Gâr.
10.
Pam ymweld â'r lle?
Gan gyfuno chwedl Arthuraidd, hen hanes, treftadaeth arfordirol a diwylliant cyfoes, mae Caerfyrddin a'r ardal gyfagos yn cynnig gwyliau byr sy'n wahanol i unrhyw le arall ym Mhrydain. O olrhain cysylltiadau chwedlonol Myrddin yn un o drefi hynaf Cymru i archwilio cadarnle canoloesol dramatig Cydweli, sy'n llawn straeon am y Dywysoges Gwenllian a lle mae hanes a llên gwerin chwedlonol y gath ddu yn dod yn fyw.
Mentrwch ymhellach i'r arfordir er mwyn darganfod Porth Tywyn, lle mae golygfeydd ysgubol o'r môr, goleudy a harbwr hardd, a hanes Amelia Earhart yn ychwanegu dimensiwn newydd i'ch taith. P'un a ydych chi'n beicio trwy Ddyffryn Tywi, yn cerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru, yn darganfod talentau creadigol lleol neu'n syml yn gwerthfawrogi'r tirweddau, mae pob cornel o'r rhanbarth hwn yn adrodd stori sy'n barod i gael ei harchwilio.
Gwybodaeth am y trên
Mae modd cyrraedd Caerfyrddin yn hawdd drwy ddefnyddio gwasanaethau uniongyrchol y Great Western Railway o Paddington Llundain, Bristol Parkway, Caerdydd ac Abertawe, sy'n ei gwneud yn gyrchfan ddelfrydol ar gyfer gwyliau hudolus yng Nghymru.