English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Mae Llwybr Dyffryn Tywi yn galw ar bob beiciwr a'r rhai sy'n dwlu ar natur i fynd ar daith 13 milltir, ddi-draffig drwy brydferthwch Sir Gâr. 

Yn rhedeg bron ochr yn ochr ag Afon Tywi, mae'r hen reilffordd hon, sydd wedi'i hadfywio, rhwng Caerfyrddin a Llandeilo yn ymdroelli trwy rai o dirweddau mwyaf syfrdanol y sir, bryniau tonnog, dolydd glan yr afon a choetiroedd heddychlon sy'n llawn bywyd gwyllt. Ar hyd y ffordd, byddwch yn mynd heibio i gestyll hanesyddol, parciau gwledig ac ystadau mawreddog. 

Gan ddechrau yn Amgueddfa boblogaidd Sir Gâr, mae'r llwybr hyfryd hwn yn arwain at Ffairfach, ar gyrion tref farchnad Llandeilo, lle bydd cyfle i chi gael danteithion Cymreig blasus ar ôl i chi gwblhau'r daith.

 

 

Pellter pob Rhan

Abergwili i Nantgaredig - 3.8 milltir (6.12km)

Nantgaredig i Bont Cothi - 0.46 milltir (0.74km)

Nantgaredig i Bont Tywi - 1.04 milltir (1.67km)

Nantgaredig i Lanarthne - 2.97 milltir (4.49km)

Llanarthne i Ddryslwyn - 1.49 milltir (2.4km)

Dryslwyn i Ffair-fach - 4.97 milltir (8.0km)

Abergwili i Ffair-fach - 13 milltir (20.91km)

Awgrym i bobl leol: Mae modd i chi barcio yn Amgueddfa Sir Gâr, Abergwili.

Abergwili i Nantgaredig

Dechreuwch eich taith yn Abergwili, cartref Amgueddfa Sir Gâr a Pharc yr Esgob. Beth am gael coffi neu rywbeth ysgafn yn Stacey's Kitchen, yna dilynwch y llwybr i'r dwyrain trwy gefn gwlad ffrwythlon Dyffryn Tywi tuag at Nantgaredig. 

Ar y gorwel, mae Bryn Myrddin man gorffwys y dewin chwedlonol Myrddin ei hun yn ôl pob sôn. 

Ar ôl i chi gyrraedd Nantgaredig, cymerwch hoe haeddiannol yn Nhafarn y Railway

Ar hyd afon Tywi ac afon Cothi – i Lanarthne

Dilynwch afonydd troellog Tywi a Chothi wrth i'r llwybr droelli tuag at Lanarthne, gan fwynhau golygfeydd hyfryd a gwlyptiroedd sy'n llawn bywyd gwyllt. Mae'r golygfeydd hyn yn eich annog i arafu a gwerthfawrogi harddwch naturiol y dyffryn. 

Fyny fry, mae Tŵr eiconig Paxton, a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, yn dirnod trawiadol ar ben bryn a adeiladwyd er anrhydedd i'r Llyngesydd Nelson. Mae'r tiroedd cyfagos yn berffaith ar gyfer picnic, a bydd cyfle i chi fwynhau golygfeydd godidog dros Ddyffryn Tywi. 

Neu beth am sbwylio'ch hun yn Wright's, lle hyfryd i fwynhau cynnyrch ffres, bwyd cartref, a rhywbeth ysgafn. Dyma le perffaith i gael hoe cyn ailgychwyn ar eich taith. 

Llanarthne i Landeilo

Mae'r rhan olaf hon o Lwybr Dyffryn Tywi yn wledd i'r synhwyrau. Crwydrwch drwy dir fferm a choetir lle mae ceirw gwyllt weithiau'n pori, gyda Thŵr Paxton a Chastell Dryslwyn ar y gorwel. 

Yn Ffair-fach mae'r llwybr yn cysylltu'n ddi-dor â rheilffordd Calon Cymru, fel y gallwch barhau â'ch taith ar y trên yn hawdd neu gynllunio taith yn ôl. 

Ewch i Landeilo ei hun i grwydro'r dref farchnad fywiog sy'n llawn siopau bwtîc, caffis clyd, tafarndai traddodiadol, a bwytai arobryn. 

Mae'r rhan olaf hon o Lwybr Dyffryn Tywi yn cynnig y cyfuniad perffaith o olygfeydd trawiadol, treftadaeth gyfoethog, a diwylliant lleol bywiog. 

Aros yn Dyffryn Tywi

Archebu nawr