English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Tua 10 milltir i'r gorllewin o Lanelli, mae tref Cydweli yn fan cychwyn gwych ar gyfer teithio o amgylch Sir Gaerfyrddin. Er bod llai na 3,500 o bobl yn y dref, mae Cydweli yn llawn hanes a diwylliant. Ar gribyn serth uwchben glannau Afon Gwendraeth, saif castell Normanaidd trawiadol - sef un o'r enghreifftiau gorau o'i fath sydd wedi goroesi yng Nghymru yn bwrw golwg dros y dref. Mae hefyd yn gartref i'r gamlas hynaf yng Nghymru.

Efallai y byddwch yn adnabod yr enw Cydweli o ddrama Dylan Thomas, 'Dan y Wenallt', sef enw cwch Capten Cat.

Mae'r dref yn gysylltiedig â chath ddu. Fe welwch ddelwedd ohoni ar arwyddion yn eich croesawu i'r dref ac ar fyrddau gwybodaeth fan hyn fan draw. Darllenwch y wybodaeth isod i gael gwybod rhagor am y gath ddu ac am bethau eraill i'w gweld a'u gwneud yn yr ardal.

Cath ddu lwcus

Yn union fel y mae gan Rydaman chwedl y Twrch Trwyth, mae cath ddu chwedlonol yn perthyn i Gydweli. Yn ôl un stori, y gath oedd y creadur byw cyntaf i ymddangos yn y dref ar ôl y pla mawr. Mae un arall yn honni iddi oroesi ymosodiad dinistriol ar y dref. Mae hefyd yn bosibl fod cysylltiad rhyngddi hi ag un o enwau hynafol y dref, sef Catwelli.

Y Dywysoges Gwenllian

Castell Cydweli, a saif ar gribyn serth yn edrych dros y dref, yw un o'r enghreifftiau gorau o gastell Normanaidd sydd wedi goroesi yng Nghymru. Cadwch lygad am y bwâu lle gellid taflu cerrig mawr at y gelyn islaw.

Efallai y byddwch yn teimlo presenoldeb Gwenllian, tywysoges arwrol Cydweli, a arweiniodd fyddin Gymreig i frwydr i ymosod ar y castell yn 1136 yn erbyn y gelyn Normanaidd grymus a oedd dipyn yn fwy niferus. Cafodd ei dienyddio ar faes y gad ac, yn ôl pob sôn, mae ei hysbryd yn dal i grwydro'r man hwn, a elwir bellach yn Faes Gwenllian.

Bydd edmygwyr Monty Python yn adnabod y castell o olygfa gyntaf Monty Python and The Holy Grail.

Byd natur

Camlas Kymer yw'r hynaf yng Nghymru, a adeiladwyd yn wreiddiol gan Thomas Kymer ar ddiwedd y 18fed ganrif i gludo glo o Gydweli. Credir hefyd mai dyma'r gamlas a'r system reilffordd bwrpasol gyntaf yn y byd. Er nad yw'r gamlas wedi'i defnyddio ers nifer o flynyddoedd, mae darn sylweddol ohoni wedi'i gloddio ac mae rhan o'r hen gei wedi'i hailadeiladu hefyd. Yn ogystal â bod yn lle dymunol inni fynd am dro, mae'r ardal hefyd wedi'i dynodi gan yr RSPB yn gynefin bywyd gwyllt arbennig ar bob math o adar gwyllt a phrin.

O'r fferm i'r fforc

Yn 2009 rhoddwyd blwch gonestrwydd ar ochr y ffordd er mwyn gwerthu wyau oedd dros ben o'r tyddyn, ac ers hynny mae wedi datblygu'n siop fferm, yn gaffi, yn ardal chwarae, yn ganolfan gymunedol ac yn atyniad i ymwelwyr. Mae Parc y Bocs yn gweini brecwast, ciniawau, cinio rhost ar ddydd Sul a the a chacennau a wneir yn neilltuol yn ôl yr archebion, a hynny gan ddefnyddio'r doreth o gynhwysion ffres sydd ar gael gan gynhyrchwyr lleol. Gall plant gwrdd â'r geifr, bwydo'r ieir a blino'u hunain yn llwyr yn y llecyn chwarae yn yr awyr agored, tra bo'r oedolion yn cael cipolwg ar y cynnyrch yn y siop fferm sy'n gwerthu ffrwythau a llysiau tymhorol a dyfir ar y safle, bwydydd a diodydd o Gymru a mêl cartref o gychod gwenyn y fferm.

Mynd am dro

Heb os, ar droed yw'r ffordd orau o weld rhai o'r golygfeydd gorau yng Nghydweli a'r cyffiniau. Yn y dref, dechreuwch ger Yr Hen Ladd-dy ac ewch am dro ar hyd glannau'r Gwendraeth Fach i Warchodfa Natur Glan yr Afon.

I weld golygfeydd o'r ardal ehangach, gwisgwch eich esgidiau cerdded ac ewch ar daith fer i Fynyddygarreg. Mae olion tramffyrdd, chwareli dan ddŵr ac odynau calch gwag yn rhoi ambell awgrym o orffennol diwydiannol y dirwedd. Fodd bynnag, mae natur wedi adennill y tir yn dda ac mae gan y chwareli statws Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) oherwydd eu daeareg unigryw, ac maent yn gartref i amrywiaeth o bryfed lliwgar. Wrth ichi werthfawrogi'r golygfeydd hardd o Gwm Gwendraeth a'r arfordir, efallai y byddwch yn ddigon ffodus i weld un o'r adar ysglyfaethus niferus sydd wedi ymgartrefu ar y mynydd.

Ysbrydoliaeth Greadigol

O ystyried natur drawiadol yr arfordir a'r cefn gwlad o amgylch Cydweli, ni ddylai fod yn unrhyw syndod bod yr ardal yn ysbrydoli creadigrwydd. Heddiw mae Cydweli yn boblogaidd ymhlith unigolion creadigol. Mae pobl greadigol leol yn cael eu cyflenwadau o G3 Gallery and Art Supplies, sef oriel annibynnol newydd, sydd hefyd yn arddangos gwaith yr artistiaid lleol hynny. Gallwch hefyd bori drwy'r gweithiau celf a'r crefftau lleol, a'u prynu, yn Siop Grefftau Gymunedol Cydweli, (Kidwelly Community Craft Shop Creative Hub), a sefydlwyd yn bwrpasol ar gyfer arddangos gwaith creadigol lleol. Os ydych yn yr ardal ar ddydd Sadwrn cyntaf y mis, cofiwch ymweld â'r farchnad fwyd fisol yn Sgwâr y Dref. Yma gallwch ddod o hyd i tua 30 o stondinau gan fasnachwyr sy'n arbenigo mewn bwydydd lleol o safon gan gynnwys jamiau, siocledi a bwydydd artisan.

Ar eich marciau

Pan agorodd Cae Rasio Ffos Las ym mis Mehefin 2009, hwn oedd y cae rasio Helfa Genedlaethol newydd cyntaf i'w adeiladu yn y DU ers 80 mlynedd. Mae dau bwrpas i'r cwrs, sef cynnal cyfres o rasys gwastad yn ystod misoedd yr haf a chyfres o rasys dros y clwydi drwy gydol gweddill y flwyddyn, a hynny i ddarparu calendr o 21 o gyfresi o rasys y flwyddyn. Mae'r cae rasio wedi'i leoli mewn ardal brydferth, gyda golygfeydd hardd i'w gweld i lawr dros bant a bryn a chefn gwlad Cwm Gwendraeth draw tuag at Fae Caerfyrddin.

Dewch ar daith

I'r gogledd-orllewin o Gydweli mae pentref prydferth Glanyfferi. Mae cyrraedd yno'n hawdd. Dim ond taith fer yn y car neu ar y trên yw hi, a dim ond un stop ar y llinell arfordirol hardd sy'n cysylltu Llanelli â Chaerfyrddin. I'r rheiny ohonoch sy'n fwy egnïol, gallwch gerdded ar hyd Llwybr Arfordir Cymru o Gei Cydweli. Yn hanesyddol roedd Glanyfferi yn bentref pysgota ac er bod y diwydiant yno wedi marw i raddau helaeth, mae hel cocos a physgota â rhwydi 'sân' yn parhau. Fel y mae'r enw'n ei awgrymu, man croesi oedd hwn ym Mae Caerfyrddin a oedd yn cysylltu Cydweli â Llansteffan i'r gorllewin. Honnir bod Gerallt Gymro, y teithiwr a'r croniclwr canoloesol, wedi defnyddio fferi i groesi yma yn 1188. 830 mlynedd yn ddiweddarach yn 2018, roedd gwasanaeth fferi newydd Glansteffan wedi adfer y groesfan ar ôl bwlch o 60 mlynedd. Ar y fferi, fe welwch olygfeydd trawiadol o Fae Caerfyrddin. Mae'n werth ymweld â thywod euraidd y prif draeth a childraeth diarffordd Bae Scott, pa adeg bynnag o'r flwyddyn yw hi.

Os ydych yn chwilio am damaid i'w fwyta yng Nglanyfferi, rhowch gynnig ar y bwyty Pryd o Fwyd, sydd ag enw addas iawn. Yma, y nod yw paratoi bwydydd blasus i'w bwyta, boed hynny'n ginio 4 cwrs yn y bwyty neu'n fyrbryd cyflym amser cinio yn y caffi drws nesaf. Os bydd digwydd bod angen stampiau arnoch, mae'r caffi hefyd yn cynnig gwasanaeth Swyddfa Bost, ar ôl i bostfeistres y pentref ymddeol!

Argymhellion

Beth sydd raid i ymwelwyr ei wneud - Trefnu diwrnod yn y rasys yng Nghae Rasio Ffos Las.
Y lle delfrydol i dynnu llun - Dilynwch ôl troed criw Monty Python a thynnwch lun o Gastell Cydweli.
Y daith gerdded orau – Ewch i fyny i Fynyddygarreg i weld golygfeydd godidog o Gwm Gwendraeth a'r arfordir.
Man i gael tamaid blasus – Rhowch gynnig ar Ddraenog y Môr a Menyn Bara Lawr yn y bwyty Pryd o Fwyd
Y trysor cudd – Bwydwch yr ieir ym Mharc y Bocs.

Cydweli a'r Gwendraeth

Gweld pethau i’w gwneud yma