Mae straeon caru yn dechrau yma - o adfeilion cestyll i olygfeydd arfordirol
1.
Rhaglen 1
Delfrydol ar gyfer: Cyplau anturus, rhai sy'n dwlu ar lên gwerin, tirweddau dramatig
Man cychwyn: Llanymddyfri neu Langadog
Bore:
• Mwynhewch frecwast hyfryd yn Ystafelloedd Te Fictoraidd Penygawse yn Llanymddyfri.
• Gyrrwch i mewn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, wedi eich lapio mewn blancedi a chariad.
Prynhawn:
• Beth am gerdded i fyny i Llyn y Fan Fach, llyn rhewlifol sy'n gysylltiedig â chwedl Morwyn y Llyn, stori o gariad, colled a hud.
• Mwynhewch y golygfeydd syfrdanol, y gorwel, y dŵr llonydd, a'r llonyddwch pur.
Lle i Ddyweddïo:
• Beth am fwynhau picnic gaeaf (thermos o siocled poeth, cacennau Cymreig, a blancedi cnu) wrth ymyl y llyn chwedlonol a gofyn y cwestiwn mawr
Gyda’r hwyr:
• Beth am ddychwelyd i Y Castell, dathlwch eich dyweddïad gyda gwin lleol neu jin Cymreig o dan y sêr.
2.
Rhaglen 2
Man cychwyn: Llansteffan
Bore:
• Dechreuwch gyda brecwast blasus mewn caffi yng Nghaerfyrddin fel The Warren (naws organig, rhamantus).
• Beth am ymweld â Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru am daith gerdded hamddenol drwy'r tŷ gwydr sengl mwyaf yn y byd
Prynhawn:
• Ewch am dro i Gastell Llansteffan, castell Normanaidd mawreddog sydd â golygfeydd godidog dros Fae Caerfyrddin
• Ewch am dro law yn llaw ar hyd tywod Traeth Llansteffan neu ar hyd Llwybr Arfordir Cymru.
Lle i Ddyweddïo:
• Wrth i'r awr fawr agosáu, beth am ddringo i adfeilion y castell. Gyda golygfeydd ysgubol o'r aber ac aer y môr yn eich ysgyfaint, dyma'r lle perffaith i ofyn: A wnei di?
Gyda’r hwyr:
• Beth am ddathlu gyda swper rhamantus yn Inn at the Sticks, sy'n adnabyddus am fwydlenni tymhorol a naws gwledig.
• Arhoswch dros nos mewn gwely a brecwast bwtîc neu gallwch aros mewn pod glampio gerllaw a chael preifatrwydd.
3.
Rhaglen 3
Delfrydol ar gyfer: Cyplau sy'n mwynhau gerddi, gwyrddni, ac eiliadau tawel
Man cychwyn: Llandeilo
Bore:
• Yn y bore, ewch am dro hyfryd drwy Gerddi Aberglasne, lle mae cloestrau hanesyddol, blodau'r gaeaf, a phyllau llonydd yn cynnig tawelwch a rhamant.
• Galwch am de a chacen yn y caffi ar y safle sydd â golygfeydd hardd o'r ardd.
Prynhawn:
• Ewch i ymweld â Phlas Dinefwr, eiddo hardd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Cewch gyfle i grwydro'r gerddi cain sydd wedi'u tirlunio gan Capability Brown, cartref gwartheg gwyn eiconig y parc a cheirw crwydrol.
Lle i Ddyweddïo/Gwneud Adduned:
• Beth am gyfnewid addunedau neu ddyweddïo yng nghanol y tiroedd hardd neu ym Mhlas Dinefwr. Mae'r plas hanesyddol syfrdanol a'r tiroedd heddychlon yn creu'r cefndir perffaith ar gyfer myfyrio tawel ac eiliadau rhamantus..
Gyda’r hwyr:
• Beth am fwynhau swper yn The Plough yn Rhosmaen gan gogydd preifat mewn bwthyn gwyliau clyd gerllaw.
4.
Rhaglen 4
Man cychwyn: Talacharn
Bore:
• Dechreuwch drwy fwynhau taith gerdded heddychlon ar hyd Traeth Pentywyn, traeth hiraf Cymru, sy'n enwog am ei draethlin enfawr, gwyntog a'i hanes record cyflymder tir chwedlonol.
• Ar ôl brecinio yn Caban, ewch am dro i'r Amgueddfa Cyflymder lle mae straeon beiddgar am gyflymder a dewrder yn dod yn fyw.
• Ewch am dro hamddenol ar hyd Llwybr Arfordir Cymru gerllaw, gan fwynhau golygfeydd godidog o'r arfordir, awyr iach y môr, ac eiliadau tawel law yn llaw.
Prynhawn:
• Beth am fynd i Gartref Dylan Thomas yn Nhalacharn am de prynhawn a chrwydro cyn gartref y bardd a mwynhau golygfeydd godidog o'r aber a ysbrydolodd ei holl waith.
Lle i Ddyweddïo/Gwneud Adduned:
• Rhannwch eich addunedau teimladwy neu gofynnwch y cwestiwn yn sied ysgrifennu Dylan Thomas neu ar y teras, lle mae seiniau ysgafn yr aber yn gosod yr olygfa farddonol berffaith.
Gyda’r hwyr:
• Mwynhewch swper blasus yn Dexters at Brown's, bwyty lleol sy'n adnabyddus am ei awyrgylch cynnes a bwyd tymhorol, lleol sy'n ddiweddglo perffaith i ddiwrnod llawn rhamant a hanes.
5.
Taith 5
Delfrydol ar gyfer: Cyplau sy'n caru mynd am dro ar hyd yr arfordir, danteithion melys ac eiliadau preifat
Canolbwynt: Porth Tywyn neu Gydweli
💍 Taith Dyweddïo Hudol: Traeth Cefn Sidan a'r cyffiniau
Bore:
Dechreuwch eich diwrnod arbennig gyda brecwast hamddenol blasus yn The Barbican, Parc-y-Bocs. Mwynhewch bryd wedi'i baratoi'n ffres ac ymgollwch yn yr awyrgylch clyd a rhamantus cyn i'ch antur ddechrau.
Diwedd y bore:
Ewch i Draeth Cefn Sidan ym Mharc Gwledig Pen-bre am dro heddychlon ar hyd y traeth euraidd. Sylwch ar y golygfeydd ysgubol o'r arfordir a gwrandewch ar sŵn y tonnau. Dyma'r lle perffaith i ofyn y cwestiwn teimladwy, "Wnei di fy mhriodi i?".
Prynhawn:
Ar ôl mynd am dro ar hyd y traeth, arhoswch yn Crazie Crepes am rywbeth melys. Rhannwch crêpe blasus neu'ch hoff ddanteithion wrth gofio am eiliadau hudolus y bore.
Gyda’r hwyr:
Wrth i'r haul ddechrau machlud, ewch am dro rhamantus ar hyd y promenâd i Oleudy Porth Tywyn. Mae golau meddal yr hwyr a'r dŵr pefriog yn gefndir gwirioneddol fythgofiadwy i fyfyrio a threulio amser gyda'ch gilydd.
Swper:
Gorffennwch eich diwrnod gyda swper clyd yn The Old Moathouse yng Nghydweli. Mwynhewch bryd blasus mewn amgylchedd hyfryd a dathlu'ch cariad drwy gynnig llwncdestun i'r dyfodol.