Yng ngogledd-ddwyrain y sir mae tref farchnad Llanymddyfri. Mae’n agos i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac yn borth i harddwch syfrdanol Mynyddoedd Cambria. Saif ar lan Afon Tywi, lle mae’r A40 yn cyfarfod â’r A483. Gyda phoblogaeth o 2,700, mae’n fychan o ran maint ond yn fawr ei hapêl, ac mae’n un o drefi gwledig Sir Gâr sy’n denu nifer gynyddol o ymwelwyr.
Yma, fe gewch le sy’n gyfoethog o hanes a diwylliant gyda digonedd i’w weld a’i wneud yn y dref ac o’i chwmpas.
Fe wnaethom ofyn i Rhodri Gomer Davies ddweud mwy wrthym am y dref y mae ef mor gyfarwydd â hi. Dyma’r hyn a ddywedodd ef wrthym.
Mae Rhodri, oedd gynt yn chwaraewr rygbi proffesiynol, yn adnabyddus iawn yn yr ardaloedd hyn fel sylwebydd a chyflwynydd rygbi ar y teledu. Cafodd ei fagu ym mhentref Ffarmers, i’r gogledd o Lanymddyfri. Fel llawer o fechgyn ifanc yn y rhan hon o Gymru, roedd wrth ei fodd gyda rygbi ac oherwydd ei ddawn enillodd ysgoloriaeth i Goleg Llanymddyfri. Mae llawer o chwaraewyr rhyngwladol enwog Cymru yn gyn-ddisgyblion Llanymddyfri gan gynnwys Alun Wyn Jones, capten y Llewod. I Rhodri, fel beiciwr brwd a cherddwr, roedd Llanymddyfri’n lle gwych i astudio. Ei hoff lwybr beicio oedd i fyny’r Mynydd Du gerllaw, sydd ddim yn syndod gan ei fod yn cael ei ystyried ymhlith y 100 gorau ym Mhrydain.
Hanes a gwestai
Yn dilyn yr holl ymdrechion hynny yn yr awyr agored, mae angen diod, a dywed Rhodri wrthym fod gan Lanymddyfri ar un adeg fwy o dafarndai y pen nag unman arall. Hanes y dref fel tref porthmyn sy’n gyfrifol am y llu o dafarndai. Tybir bod mwy na 100 yn y dref yn ystod y 18fed ganrif. Mae llawer yn dal i fod yno hyd heddiw ac, oherwydd bod y fan hon yn ardal amaethyddol, cewch yn awr fwynhau bwyd wedi ei gynhyrchu’n lleol gyda’r cwrw cartref.
Mae Gwesty’r Castell yn enghraifft dda. Mae’n cyfuno swyn cefn gwlad ac ystafelloedd llawn cymeriad gyda syniadau ffres, modern ynghylch bwyd a diod. Dywed Rhodri y byddai’n gamgymeriad dod i Lanymddyfri heb brofi Cinio’r Porthmyn blasus, yn cynnwys terîn ham, caws Cymreig ac wy Albanaidd. Os yw’n well gennych seidr na chwrw, mae Rhodri’n awgrymu’r Whitehall. Mae’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg, ac fe gewch Wynt y Ddraig Happy Daze o’r pwmp.
Cigyddion, Pobyddion a Gwerthwyr Canhwyllau
Mae strydoedd Llanymddyfri yn llawn lleoedd i siopa yn ogystal â lleoedd i fwyta ac yfed. Yn yr Old Printing Office, gellwch wneud y ddau beth. Yma ar un adeg yr oedd un o weisg argraffu cyntaf Cymru.
Siop Gigydd Mathews yw’r lle i brynu cigoedd a gynhyrchwyd yn lleol. Mae eu cig moch cartref yn berffaith ar gyfer brecwast Cymreig. Byddech mewn cwmni da - mae Mathews yn gwerthu cig a chywion ieir i’w aelwyd frenhinol. Yn agos i siop y cigydd mae’r siop fara; mae La Patisserie yn cynnig bara ffres, cacennau, sgons a doughnuts.
Mae Ystafelloedd Te Penygawse yn ffefryn gan bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Yma mae'r croeso mor gynnes â’u paninis enwog wedi eu tostio. Mwynhewch y sglodion a’r tiffin, er ei bod yn well peidio â’u cael gyda’i gilydd!
Drovers Return
Heibio pob cornel fe welwch gysylltiadau â hanes y porthmyn. Stryd Garreg oedd y fan lle safai Banc yr Eidion Du. Sefydlwyd y banc ym 1799 gan David Jones. Roedd yn cyhoeddi ei arian papur ei hun, yn dangos arwyddlun yr ych du. Defnyddid y rhain i dalu’r porthmyn, ond roeddent yn gwbl ddiwerth i unrhyw leidr pen ffordd, lladron neu fôr-ladron a allai fod eisiau dwyn elw’r porthmyn oddi arnynt.
Mae’r cerflun o borthmon, y tu ôl i fainc yn agos i Amgueddfa Llanymddyfri a Phorth yr Ymwelwyr, yn gyfle ardderchog i dynnu llun - go brin eich bod wedi cael tynnu eich llun gyda phorthmon o’r blaen!
Chwedlau Llanymddyfri
Mae Rhodri’n awgrymu mai cerflun dur gwrthstaen yr arwr Cymreig, Llywelyn ap Gruffydd Fychan, yw’r llun gorau yn y dref i’w roi ar Instagram. Yn bum metr o uchder, saif yr eicon hwn o’r unfed ganrif ar hugain yn falch ochr yn ochr ag adfeilion y castell o’r 12fed ganrif. Fe’i dadorchuddiwyd yn 2001, bron i 600 mlynedd i’r diwrnod ers i Llywelyn gael ei grogi ar sgwâr y dref gan Harri’r Pedwerydd yn 1401, fel cosb am gefnogi Owain Glyndŵr, y tywysog Cymreig.
Yn y tafarnau, efallai y clywch hanesion am chwedlau lleol eraill megis Twm Siôn Cati, cymeriad Cymreig tebyg i Robin Hood, oedd yn crwydro’r ardal yn yr unfed ganrif ar bymtheg. Dywedodd Rhodri wrthym hefyd am hanes “Meddygon Myddfai”. Perlysieuwyr oedd y ffisigwyr hyn o’r 12fed ganrif a ddatblygodd gasgliad o foddion meddygol yn y pentref gerllaw. Mae hyn yn ymddangos yn briodol iawn i ardal sy’n cael ei gweld yn gynyddol fel lle i ddianc rhag pwysau a straen y bywyd modern.
Mynd am yr aur
Mae’n debyg nad oes yr un plentyn - nac oedolyn pe bai’n mynd i hynny - na hoffai roi cynnig ar chwilio am aur. Dyna un o'r profiadau a gynigir yng Ngwaith Aur Dolau Cothi, sydd wedi ei leoli yn Nyffryn hardd Cothi, taith 20 munud yn y car o Lanymddyfri. Y Rhufeiniaid gychwynnodd chwilio am y metel gwerthfawr yma 2000 o flynyddoedd yn ôl, gan gerfio darnau allan o ochrau'r bryniau ac ailgyfeirio afonydd er mwyn dod o hyd iddo. Parhaodd y mwyngloddio yma hyd 1938. Bydd teithiau tywysedig yn mynd â chi yn ôl mewn amser i gael profiad o’r amodau garw yn y gwaith dan ddaear yn amser y Rhufeiniaid ac yn Oes Fictoria.
Mae Rhodri, oedd gynt yn chwaraewr rygbi proffesiynol, yn adnabyddus iawn yn yr ardaloedd hyn fel sylwebydd a chyflwynydd rygbi ar y teledu. Cafodd ei fagu ym mhentref Ffarmers, i’r gogledd o Lanymddyfri. Fel llawer o fechgyn ifanc yn y rhan hon o Gymru, roedd wrth ei fodd gyda rygbi ac oherwydd ei ddawn enillodd ysgoloriaeth i Goleg Llanymddyfri. Mae llawer o chwaraewyr rhyngwladol enwog Cymru yn gyn-ddisgyblion Llanymddyfri gan gynnwys Alun Wyn Jones, capten y Llewod. I Rhodri, fel beiciwr brwd a cherddwr, roedd Llanymddyfri’n lle gwych i astudio. Ei hoff lwybr beicio oedd i fyny’r Mynydd Du gerllaw, sydd ddim yn syndod gan ei fod yn cael ei ystyried ymhlith y 100 gorau ym Mhrydain.
Mae Rhodri, oedd gynt yn chwaraewr rygbi proffesiynol, yn adnabyddus iawn yn yr ardaloedd hyn fel sylwebydd a chyflwynydd rygbi ar y teledu. Cafodd ei fagu ym mhentref Ffarmers, i’r gogledd o Lanymddyfri. Fel llawer o fechgyn ifanc yn y rhan hon o Gymru, roedd wrth ei fodd gyda rygbi ac oherwydd ei ddawn enillodd ysgoloriaeth i Goleg Llanymddyfri. I Rhodri, fel beiciwr brwd a cherddwr, roedd Llanymddyfri’n lle gwych i astudio. Ei hoff lwybr beicio oedd i fyny’r Mynydd Du gerllaw, sydd ddim yn syndod gan ei fod yn cael ei ystyried ymhlith y 100 gorau ym Mhrydain.
Awgrymiadau Rhodri
Y Llwybr Beicio Gorau - i fyny’r Mynydd Du gerllaw
Yr hyn y mae’n rhaid i Ymwelwyr ei Wneud - Rhoi cynnig ar Ginio’r Porthmyn
Y Lle i Dynnu Llun - Cerflun Llywelyn ap Gruffydd Fychan
Y Chwedl Leol - Meddygon Myddfai
Ei Ffefryn Personol - Cig moch cartref o Siop Gigydd Mathews
Y Lle i gael Lluniaeth - Ystafelloedd Te Penygawse