Nadolig yn Sir Gaerfyrddin
Mae gan Sir Gaerfyrddin gyfoeth o ddewisiadau ar gyfer y Nadolig.
O siopa gwych i ddiwrnodau allan bendigedig, mae rhywbeth at ddant pawb.
1.
Bwyd Nadoligaidd
Dwlu ar Nadolig Lleol
Mae Sir Gaerfyrddin yn nefoedd i rai sy’n mwynhau bwyd da; does dim byd tebyg i’r profiad o brynu cig o siop y cigydd, lle mae cynnyrch lleol a gwasanaeth personol yn cyfuno i sicrhau eich bod yn cael y bwyd gorau ar gyfer y Nadolig.
Am wir flas lleol, trowch i mewn i un o farchnadoedd y sir: ym Marchnad Caerfyrddin, beth am roi cynnig ar Ham Caerfyrddin Albert Rees, sy’n cael ei baratoi drwy ddilyn rysáit sydd mor hen â’r Rhufeiniaid? Ym Marchnad Llanelli fe gewch chi fwyd môr deniadol ac amrywiaeth diddorol o ddanteithion lleol.
Syniadau siopa a danteithion blasus
Os ydych yn chwilio am rywbeth arbennig iawn ar gyfer y Nadolig, ewch i Wrights Food Emporium yn Llanarthne neu i siop Parc y Bocs yn Cydweli - dau le perffaith i brynu’r bwydydd lleol hynny sy’n hanfodol ar gyfer y Nadolig.
Mae Caws Cenarth hyd yn oed yn gwneud caws ar siâp pwdin Nadolig. Yn siop Heavenly, Llandeilo, mae pob math o siocled allwch chi ei ddychmygu, gan gynnwys Siôn Corn a dynion eira siocled a choed Nadolig siocled anferth, a byddwch yn siŵr o gael eich temtio!
Syniadau ar gyfer Hamperi
Gall hamper bwyd wneud anrheg Nadolig berffaith - ac mae rhai moethus ar gael o siop Ferryman, Talacharn, neu siop deli Blasus, Caerfyrddin. Ymhellach i’r gogledd, gallwch fynd i La Patisserie yn Llanymddyfri, neu Pitch Fork and Provision yn Llandeilo.
Beth am brynu hamper bwyd bach a mwynhau picnic yn y Gaeaf? Mae digonedd o leoliadau trawiadol i'w mwynhau.
Edrychwch ar ein llwybrau cynnyrch lleol i gael rhagor o ysbrydoliaeth.
Marchnad Nadolig
Os ydych chi allan yn mwynhau digwyddiadau Nadoligaidd neu'n gwneud ychydig o siopa Nadolig, cofiwch alw heibio i'n marchnadoedd dan do. Mae gan Gaerfyrddin a Llanelli farchnadoedd dan do gwych, sy'n gwerthu popeth o gelf a chrefft, i fwyd a diod lleol.
2.
Byddwch yn Egnïol
Teithiau cerdded yn y gaeaf: traethau, mynyddoedd ac afonydd
Mae cannoedd o filltiroedd o lwybrau yn Sir Gaerfyrddin, a gallwch gerdded yn y wlad, o’r mynyddoedd i lawr i’r dyffrynnoedd ffrwythlon, neu ar lan y môr, yn cynnwys Llwybr yr Arfordir. Ymysg ein ffefrynnau ni y mae llwybr Dylan Thomas yn Nhalacharn; Parc Arfordirol y Mileniwm yn Llanelli; Gwarchodfa Adar Gwenffrwd-Dinas a choedwigoedd eang Brechfa a Chil-y-cwm.
Mynd ar sled os oes eira neu sglefrio ar iâ neu sgïo os nad oes eira!
Os bydd hi’n bwrw eira, mae llefydd gwych i sledio yn Sir Gaerfyrddin. Os na fydd yna eira, beth am fynd i sgïo ar lethr sych gwych Parc Gwledig Pen-bre?
Y Llethr Sgïo ym Mharc Gwledig Pen-bre yw un o'r nifer fach o lethrau sgïo sych sydd ar ôl yng Nghymru. P'un a ydych yn sgïwr profiadol neu'n ddechreuwr, mae yno rywbeth at ddant pawb.
Mae gan hyfforddwyr sgïo Pen-bre gyfoeth o wybodaeth ac mae pob un ohonynt yn gymwys i addysgu.
Hwyl y Dŵr
Gall plant o dan 16 oed fwynhau nofio am ddim a rhaglen lawn o weithgareddau yn ystod gwyliau'r ysgol yn ein canolfannau hamdden yn Sir Gaerfyrddin.
Ewch ar gefn eich beic!!
Ydy Siôn Corn wedi dod â beic newydd? Beth am fwynhau diwrnod allan i'r teulu ar un o'n llwybrau beicio di-draffig ar gyfer y teulu?
3.
Nadolig Traddodiadol
Ydych chi wedi colli'r cyfle i weld y ceirw?
Peidiwch â phoeni! Gallwch fynd i weld y ceirw ym Mharc a Chastell Dinefwr ger Llandeilo, lle mae nifer dda ohonyn nhw. Ar ôl ichi weld y ceirw, gallwch alw i gael te a chacen ym Mhlas Dinefwr neu fynd i un o’r caffis gwych eraill sydd yn Llandeilo i gael prynhawn arbennig!
Ymweld â Siôn Corn
Neu ewch i Reilffordd Gwili am daith ar drên arbennig ac amryliw gyda'r nos. Mae'r trenau sydd wedi'u goleuo'n llachar yn cynnig profiad arbennig wrth i Siôn Corn ymuno â'r daith.
Dewis eich coeden Nadolig
Gallwch brynu eich coeden Nadolig yn Llanddarog, lle bydd Cymru Christmas Trees yn gadael i chi ddewis eich coeden, ac yna’n ei thorri a’i phacio, neu ewch i Fferm Coeden Nadolig Salem. Maen nhw hefyd yn gwerthu coed mewn potiau.
Ar ôl y Nadolig, gallwch fynd â’ch coeden i’w hailgylchu yn un o’n canolfannau Ailgylchu Gwastraff y Cartref, yn Nant-y-caws, Caerfyrddin, Trostre, Llanelli, Wern-ddu, Rhydaman neu Hendy-gwyn ar Daf, I gael rhagor o syniadau am ailgylchu dros gyfnod y Nadolig, gweler: sirgar.llyw.cymru/ailgylchu.
Mynd i weld pantomeim
Pa ffordd well o ddathlu'r Nadolig na mynd i weld pantomeim? Mae cynifer o sioeau i ddewis o'u plith y Nadolig hwn. Gweler Theatrau Sir Gâr.
A oes arnoch chi awydd gwneud rhywbeth hollol wahanol?
Mae Cae Rasio Ffos Las yn Nhrimsaran yn cynnal diwrnod parti Nadolig ar 18 Rhagfyr, a chydag ychydig dros wythnos i fynd tan y dydd mawr, gadewch eich paratoadau ar gyfer y Nadolig a mwynhewch ddiwrnod yn y rasys yn Ffos Las.
4.
Traddodiadau Nadolig Lleol
Lle ddechreuodd y cwbl...
Ar un adeg, roedd mynychu Gwasanaeth y Plygain o 3am-6am ar fore'r Nadolig yn un o'r prif draddodiadau Nadoligaidd yng Nghymru wledig yn yr 19eg ganrif. Felly, ar fore’r Nadolig, gallwch fynd i wasanaeth y plygain, un o hen draddodiadau’r ŵyl a ffordd hyfryd o dreulio un o foreau mwyaf hudolus y flwyddyn.
Yn Nyffryn Aman cynhelir gwasanaeth y plygain yn Hen Fethel, capel ar y mynydd ger y Garnant sy’n dyddio o’r 17eg ganrif. Bydd cannoedd o bobl yn mynd i’r gwasanaeth i ganu carolau yng ngolau cannwyll a gwrando ar eraill yn canu neu’n adrodd barddoniaeth. Bydd rhaid i chi adael eich car ym maes parcio Clwb Bowlio’r Garnant a cherdded dau gilometr i’r capel ar gyfer y gwasanaeth a fydd yn dechrau am 6.30 o’r gloch y bore. Cofiwch fynd â thortsh gyda chi.
Mae gwasanaethau crefyddol yn cael eu cynnal mewn nifer o lefydd eraill hefyd ar fore’r Nadolig. Cysylltwch â’ch eglwys neu eich capel lleol am fanylion.
Mari Lwyd
Mae'r Fari Lwyd yn draddodiad cyn-Gristnogol sydd yn ôl y sôn yn dod â lwc dda. Byddai penglog ceffyl yn cael ei haddurno â chlychau a rhubanau a'i gorchuddio â lliain gwyn cyn cael ei gosod ar ben polyn pren.
Mae defod y Fari Lwyd yn cael ei harfer o hyd mewn rhai ardaloedd yng Nghymru. Mae grŵp o blant ac oedolion yn mynd o dŷ i dŷ neu dafarn gan ganu neu adrodd barddoniaeth ar Nos Galan, ac maent yn cario'r Fari Lwyd. Mae ymweliad gan y Fari Lwyd yn dod â lwc dda ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Gwnewch yn siŵr eich bod yn eu gwahodd a'ch bod yn rhoi rhodd o arian neu fwyd a diod iddynt (mae'r oedolion fel arfer yn gwerthfawrogi diod!)
Calennig
Yng Nghymru, ar ôl i'r cloc taro deuddeg a hebrwng y flwyddyn newydd i mewn, mae grwpiau o blant neu oedolion yn mynd o dŷ i dŷ ac o dafarn i dafarn yn canu, ac yn cael rhodd o arian neu ddanteithion Nadoligaidd am eu trafferth. Mae'r bechgyn â gwallt tywyll yn cael eu gwahodd i gerdded drwy'r tŷ, gan ddod â lwc dda ar gyfer y Flwyddyn Newydd. Os ydych yn eu clywed, gadewch iddynt ddod i mewn a'u gwobrwyo, i ddod â lwc dda ar gyfer y flwyddyn newydd!
Maent yn canu:
"Blwyddyn Newydd Dda i chi,
ac i bawb sydd yn y tŷ,
dyma yw’n dymuniad ni,
canu Blwyddyn Newydd Dda,
Blwyddyn Newydd Dda chi,
y flwyddyn orau, fu erioed,
o dyma hapus flwyddyn,
o dyma hapus flwyddyn,
o dyma hapus flwyddyn,
canu blwyddyn newydd dda"
Yna maent yn gweiddi "Blwyddyn Newydd Dda!"
5.
Crefft Nadoligaidd
Torchau Nadoligaidd
Pa ffordd well o baratoi ar gyfer y Nadolig na chreu eich addurniadau Nadolig naturiol eich hun? Mae nifer o leoedd i roi cynnig ar hyn.
Ewch i fwynhau ychydig o oriau Nadoligaidd yn Llety Cynin er mwyn creu eich torch Nadolig hardd eich hun yn llawn aroglau pinwydd a gwyrddni. Mae'r pris yn cynnwys yr holl ddeunyddiau naturiol ynghyd â gwydraid o win twym a mins pei.
Creu anrheg Nadolig
Mae dod o hyd i’r anrheg ddelfrydol yn mynd yn anoddach bob blwyddyn! Felly, beth am greu eich anrhegion eich hun? Mae cyrsiau crochenwaith gwych yn cael eu cynnal gan Siramik, ger Caerfyrddin, lle gallwch ddysgu sut i greu anrheg unigryw, ac mae Aeron Petersen yn Ferric Fusion a Will Holland yn Phoenix Forge yn cynnig cyrsiau ardderchog mewn gwaith gof. Rhowch gynnig arni, a synnu eich perthnasau gydag anrheg unigryw a phersonol.
Plant creadigol
Ar ddydd Sadwrn yn ystod mis Tachwedd a mis Rhagfyr, beth am ymweld ag un o lyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin ac ymunwch â nhw am brofiad Argraffu 3D! Byddwch yn greadigol, gan ddylunio, creu cysyniad ac argraffu!
Rhagor o Ddigwyddiadau'r Nadolig
Gweler ein tudalennau Be sy' Mlaen i gael gwybod rhagor am ddigwyddiadau'r Nadolig a Hwyl yr Ŵyl
6.
Digwyddiadau'r Nadolig
Dechrau cyfri'r dyddiau tan y Nadolig
Mae'r Nadolig yn nesáu ac mae bron yn amser cynnau'r goleuadau Nadolig ar hyd a lled Sir Gaerfyrddin. Mae gweld y goleuadau'n cael eu cynnau'n elfen hudolus o gyfnod y Nadolig ac yn gwneud i bawb deimlo hwyl yr ŵyl.
Mae'r Carnifal a Chynnau'r Goleuadau Nadolig yn Llanelli yn ddathliad mawr yn Sir Gaerfyrddin ac mae miloedd o bobl yn mynd i'r digwyddiad i wylio Gorymdaith y Nadolig a'r Arddangosfa Tân Gwyllt sy'n symbol bod dathliadau'r Nadolig wedi dechrau. Ymunwch yn yr hwyl nos Wener, 21 Tachwedd.
Ddydd Sadwrn, 22 Tachwedd, bydd goleuadau Nadolig tref Caerfyrddin a Rhodfa'r Santes Catrin yn cael eu cynnau.
Cynhelir Gorymdaith Nadolig Llanelli ddydd Sadwrn, 6 Rhagfyr a gallwch gwrdd â Siôn Corn a'i gast o gymeriadau lliwgar wrth i Lanelli ddathlu'r Nadolig mewn steil! Dewch i wylio gorymdaith Siôn Corn sy'n cynnwys tywysogesau, archarwyr, bandiau a mwy, sy'n dechrau am 12pm o Theatr y Ffwrnes, gyda stondinau marchnad a cherddoriaeth fyw trwy gydol y dydd.
Llwybr Goleuadau Hudolus
Mae Llwybr Goleuadau Hudolus Parc Gwledig Pen-bre yn ôl, ac mae'n FWY ac yn WELL nag erioed eleni gyda Phentref Nadoligaidd!
Gorau oll, mae'n ddigwyddiad hollol AM DDIM (bydd angen talu am barcio i fynd i'r digwyddiad), felly dewch â'ch anwyliaid ac ymunwch â ni am brofiad hudolus yng nghoetiroedd rhyfeddol Pen-bre a pharatowch ar gyfer y syrpréis arbennig o gwrdd â Siôn Corn yn ei gaban cartrefol yn y goedwig! Mae angen archebu lle a thalu ffi i ymweld â Siôn Corn.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dod â'ch camera a hwyl yr ŵyl! Croesawir cŵn sydd dan reolaeth ac ar dennyn.
Siopa - syniadau am anrhegion
Mae cyfnod y Nadolig yn Sir Gaerfyrddin yn baradwys i siopwyr, gyda digwyddiadau arbennig yn cynnig y cyfle i brofi rhywbeth gwahanol, ac rydych yn siŵr o ddod o hyd i bethau gwych ar gyfer yr hosan Nadolig.
Dyma gyfle i fynd i hwyl yr ŵyl wrth i chi grwydro o gwmpas y stondinau o safon, gan gynnwys stondinau artistiaid annibynnol a chrefftwaith gan wneuthurwyr yn siopau sionc 100% Sir Gâr sy'n llawn hwyl Nadoligaidd a syniadau am anrhegion. Dewch i gwrdd â'r gwneuthurwyr a'r cynhyrchwyr bwyd o bob cwr o Sir Gaerfyrddin yn y siopau sionc yng Nghanol Tref Caerfyrddin, Rhydaman a Llanelli. Bydd y siopau sionc yn agor eu drysau rhwng 4 Rhagfyr a 21 Rhagfyr.
Neu ewch i'r Siop Sionc yn Llandeilo yn Hen Neuadd y Farchnad, sef lleoliad sydd â mwy na 30 o fusnesau annibynnol i gyd o dan yr un to. Dewch i siopa'n lleol y Nadolig hwn!
Rhagor o Ddigwyddiadau Nadolig
Gallwch gael gwybod rhagor am ddigwyddiadau'r Nadolig a hwyl yr ŵyl ar ein tudalennau Be sy' Mlaen.