Fforest Brechfa
Lleoliad picnic
Mae'r heddwch sy'n disgyn dros goedwigoedd yn y gaeaf, ynghyd â'r niwl, y mwsogl a phelydrau'r haul gaeafol sy'n disgleirio drwy resi o goed yn cynnig safle perffaith am bicnic hudol. Mae Brechfa yn ardal fawr llawn coed conwydd gyda byrddau picnic a llwybrau ag arwyddion sy'n berffaith am ychydig o grwydro yn y gaeaf. Peidiwch â cholli Llwybr Gardd y Fforest a chael cyfle i weld y coed cochion anferth, ewcalyptws, cyll Ffrengig a derw digoes.
Cyngor am bicnic: Gallwch greu bwrdd a chadeiriau arbennig o gyfforddus drwy gasglu nodwyddau pinwydden at ei gilydd ac yna eu gorchuddio â blanced picnic. Beth am hel tylwyth teg yn y goedwig gyda'ch plant? Mae'r tir gwyllt a'r pinwydd tyrog sy'n codi o'r llethrau mynyddig yn safle perffaith i fwynhau teithiau cerdded cyffrous.
Sut i gyrraedd: Mae Safle Picnic Abergorlech ym Mrechfa. Mae Abergorlech yn bentref bychan ger Fforest Brechfa ar y B4310 a chanddo gymuned gyfeillgar sy'n croesawu pob math o ymwelwyr. Gallwch ddod o hyd iddo ger Fforest Brechfa ar y B4310.
Taith gerdded a awgrymir: Brechfa Forest
Deli gerllaw ar gyfer picnic gaeaf:
Blasus Delicatessen
Bydd Basged Gaeaf Blasus yn cynnwys dewis o roliau selsig chorizo, baguettes, tarten ffrwythau frangipane, y cyfan yn cael eu paratoi yn y deli bob dydd yn ogystal â bar o siocled Nom Nom a hyd yn oed ychydig o dryfflau artisan efallai. Maen nhw'n barod i lenwi fflasgiau â choffi twym neu siocled poeth hefyd, a gallant bacio popeth mewn bocs i chi. Mae'r prisiau'n amrywio, yn dibynnu ar y dewis o gynnwys.

Hamper o Blasus, Caerfyrddin