English
  • Dewiswch iaith
  • English
  • Castellaño
  • Deutsch
  • Français
  • Italiano
  • Nederlands
  • Polski
  • Português
  • Română
  • Pусский
  • Türk
  • 中國傳統
  • 日本語
  • 韓国語
  • Yn ôl i'r Gymraeg

Gwanwyn yn Sir Gâr

Mae yma o'r diwedd! Ar ôl gaeaf hir, oer a gwlyb, rydyn ni'n barod i Sir Gâr flodeuo o'r diwedd! 

O sawna yn y gwyllt i deithiau canŵio a theithiau cerdded ar hyd yr arfordir i brynhawniau o dan ganopi coedwig, rydyn ni'n disgwyl ymlaen yn arw i fynd allan yn yr awyr agored a mwynhau'r gwanwyn. Felly, gadewch i ni eich tywys trwy rai o'r anturiaethau gorau y tymor hwn. 

Ymweld â chestyll a chaer hynafol

Gyda golygfeydd syfrdanol a hanesion diddorol, mae cestyll a chaer hanesyddol ar draws y sir. O gaer ganoloesol Cydweli lle ffilmiwyd Monty Python a'r Greal Sanctaidd, i Gastell Llansteffan uwchben Aber Afon Tywi wedi'i amgylchynu gan goetir hynafol, mae'r tirweddau mor amrywiol â hanesion y cestyll.

Mae gan Gastell Dinefwr golygfeydd hyfryd o Afon Tywi ac mae Castell Dryslwyn, sy'n gorwedd ar ben bryn, yn edrych dros Ddyffryn Tywi. Mae Castell Caerfyrddin yn cynnig golygfeydd godidog o'r afon a'r dyffrynnoedd, ac mae wedi'i leoli yng nghanol y dref, felly mae'n lleoliad perffaith i orffwys ar ôl diwrnod o grwydro.

I fwynhau taith heddychlon ar lan yr afon, mae Castell Newydd Emlyn yn edrych dros Afon Teifi ac mae'n berffaith ar gyfer taith gerdded yn y gwanwyn i weld y sir yn dechrau blodeuo. Os ydych chi'n awyddus i roi cynnig ar daith fwy anturus yn y gwanwyn, ewch am dro i Gastell Carreg Cennen. Wedi'i leoli ar glogwyn, mae'n un o gestyll mwyaf trawiadol yng Nghymru. 

Bwrlwm y Parc

Wedi'i leoli o fewn 500 erw o goetiroedd sydd wedi ennill y Faner Werdd, ochr yn ochr ag wyth milltir o dywod euraidd sydd wedi ennill y Faner Las, mae llethr sgïo sych, taith tobogan, gwallgolff, teithiau trên, ardal chwarae antur ac amrywiaeth o lwybrau natur, ac mae Parc Gwledig Pen-bre yn cynnig cyfuniad unigryw o'r arfordir, cefn gwlad ac antur. Mae gan Barc Gwledig Pen-bre bopeth sydd ei angen ar gyfer diwrnod allan perffaith i'r teulu, gwyliau dros y penwythnos neu wyliau ymlaciol mewn llecyn dymunol dros ben. 

Mae Parc Gwledig Llyn Llech Owain yn enwog am ei lwybr hardd wrth ochr y llyn, y parc antur i blant, a choffi a chacen yn y caffi a gaiff ei redeg yn lleol. Gyda'i rwydwaith o lwybrau troed, mae'n ddelfrydol ar gyfer diwrnod i'r teulu yn y gwanwyn.

Gerddi'n blodeuo

Wedi'i lleoli ar draws 500 erw o gefn gwlad trawiadol, mae gan Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru lawer i'w gynnig.  O'r Tŷ Gwydr Mawr, sy'n gartref i rai o blanhigion sydd dan fwyaf o fygythiad yn y byd, i'w hystod eang o lwybrau, gan gynnwys Llwybr Gruffalo, mae digon i ddiddanu'r teulu cyfan. 

Yn cael ei ddisgrifio'n aml fel un o erddi gorau Cymru, gall ymwelwyr ag Aberglasne grwydro dros 10 erw o erddi godidog gan gynnwys yr venerable Yew Tree Arch, yr ardd is-drofannol dan do, Gardd Gloestr unigryw o oes  Elisabeth a mwynhau'r olygfa o'r ardd bwll wrth fwynhau pryd blasus yn yr Ystafelloedd Te. 

Teithiau cerdded yn y goedwig

Ar gyrion pentref Abergorlech mae Coedwig Brechfa. Gyda 3 llwybr cerdded trawiadol, a llwybr beicio mynydd, sydd yn ddelfrydol i gael picnic ac ardaloedd chwarae i blant ar hyd llwybrau hyfryd sy'n mynd â chi trwy ardaloedd coetir deniadol ac ar hyd Afon Gorlech tuag at ardd y goedwig, dyma'r lle perffaith i weld y gwanwyn yn dechrau blodeuo.

Sir Gâr yw'r brif gyrchfan ar gyfer coetir a gwarchodfeydd natur ac mae'n dod i fywyd pan ddaw clychau'r gog yn y gwanwyn. Gydag arddangosfeydd trawiadol i'w gweld yng Nghoedwig Crychan, Coedwig Tre-gib, Gwarchodfa Natur Coedwig Carmel a llawer o fannau eraill, fe welwch lwyth o glychau'r gog i ymhyfrydu ynddyn nhw ledled y sir. 

Cerdded a beicio

Yn newydd sbon ar gyfer Gwanwyn 2026 y mae Llwybr Dyffryn Tywi. Dyma ffordd arbennig o fwynhau Sir Gâr yn y gwanwyn wrth i chi fynd am dro, neu ar eich beic. Mae'r llwybr, sy'n rhedeg ochr yn ochr ag afonydd Tywi a Cothi, yn cynnwys golygfeydd godidog o gefn gwlad, gyda choedwigoedd a dolydd blodau gwyllt yn blodeuo'n llawn. Cofiwch gadw llygad am rai o'n tirnodau hanesyddol ar hyd y ffordd, gan gynnwys Tŵr Paxton a Chastell Dinefwr. 

I fwynhau taith gerdded neu daith feicio ar hyd y lan, ewch ar hyd Llwybr Arfordirol y Mileniwm. Mae'r llwybr yn mynd â chi'n uniongyrchol trwy dref Porth Tywyn, sy'n enwog am Amelia Earheart yn glanio yno, a'i golygfeydd godidog o benrhyn Gŵyr, mae milltiroedd o draeth tywodlyd i'w mwynhau yn ogystal â'r marina a'i oleudy.

Padlfyrddau a sawna

Ymhlith erwau o goetir eang mae Cronfeydd Ddŵr Cwm Lliedi, yn Nyffryn y Swistir. Mae'n ddelfrydol i'r rhai sy'n chwilio am antur yn y gwanwyn, gyda digon o weithgareddau tir a dŵr ar gael ar hyn o bryd. Beth am logi padlfyrddio, caiac neu gwch rhwyfo a mwynhau'r golygfeydd trawiadol wrth i chi wneud eich ffordd i'r gronfa ddŵr o dan ganopi o goed hynafol. Yna gallwch ymlacio mewn sawna gwyllt a throchfa oer cyn cychwyn ar daith trwy lwybrau'r goedwig.

Cyflymder ac antur

Yn ymestyn dros saith milltir o dywod euraidd, mae Pentywyn yn ddelfrydol ar gyfer taith gerdded yn y gwanwyn. Mae'r Amgueddfa Cyflymder Tir yn fyd-enwog ymhlith y sawl sy'n dwlu ar geir a hynny mewn ymgais i dorri recordiau cyflymder tir, fel y gwnaed gan Zef Eisenberg yn 2019. Mae'n cynnwys arddangosfeydd cyfareddol sy'n saff o blesio'r rheiny sy'n dwlu ar geir. 

Os ydych chi'n awyddus i gael rhywfaint o gyffro, gwnewch eich ffordd draw i Morfa Bay. O weithgareddau antur fel abseilo/dringo creigiau, taflu bwyell a chwrs rhwystrau mwd i uchelfannau tawel y llwybr arfordirol a'i olygfeydd trawiadol ar fachlud haul, mae llwyth o ddewis i gael.

Hanes Sir Gâr 

Dewch i wybod am hanes cyfoethog Sir Gâr ar draws y sir yn ein hamgueddfeydd unigryw. O gartref eiconig Dylan Thomas sy'n edrych dros aber afon Tâf yn Nhalacharn, i'r Amgueddfa Cyflymder Tir ym Mhentywyn, mae amrywiaeth eang o hanes i'w ddysgu.  

Wedi'u lleoli mewn tiroedd gardd trawiadol, mae gan Amgueddfa Parc Howard yn Llanelli ac Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Aberwgili ddigon i'w fwynhau dan do ac allan yn yr awyr agored. I wneud rhywbeth hollol wahanol, ewch i'r Amgueddfa Wlân yn Dre-fach Felindre a rhoi cynnig ar nyddu gwlân a lliwio naturiol. 

Byd yr adenydd 

I gael diwrnod allan cyffrous gyda digon o weithgareddau ymarferol, ewch am dro i Ganolfan Adar Ysglyfaethus Prydain. Gyda digon o fannau agored i'r plant chwarae a chael profiadau hedfan, cewch gyfle unigryw i ddod yn agos ag amrywiaeth o dylluanod, barcutiaid coch a bwncathod wrth fwynhau tair sioe hedfan wych y diwrnod yn arenâu dan do ac awyr agored y ganolfan. 

Rhwng 24 Mai a 4 Mehefin, ewch i Ganolfan Gwlyptiroedd Llanelli i weld yr hwyaid hyfryd sydd newydd ddeor. Mae teithiau dyddiol yn dangos y feithrinfa dan do a'r hwyaid yn yr awyr agored i westeion ac mae hyd yn oed y cyfle i gael golwg ar hwyaid sy'n dal y tu mewn i'w hwyau.

Teithiau trên

Ewch ar daith drên hyfryd ar Reilffordd Gwili drwy gefn gwlad ar un o deithiau mwyaf prydferth y DU. Mae Rheilffordd Gwili, sy'n cael ei chynnal a'i rhedeg gan wirfoddolwyr cyfeillgar sydd â chariad at y rheilffordd a'i hanes cyfoethog, yn ffordd berffaith o werthfawrogi tirwedd hardd Sir Gâr mewn steil wrth fwynhau te hufen neu bysgod a sglodion blasus. 

I fwynhau gwahanol fath o daith ar y trên, ewch i Reilffordd Teifi ger Castellnewydd Emlyn. Bydd y brif reilffordd gul 2 troedfedd yn mynd â chi ar hyd hen linell gangen GWR ar hyd llwybrau gwledig trawiadol a bydd modd gweld rhaeadrau ac mae ardaloedd chwarae i gadw'r plant yn hapus hefyd.